Hyrwyddo a rheoli lles staff
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â hyrwyddo a rheoli lles eich staff. Rydych chi'n adolygu dangosyddion allweddol eich sefydliad i ddeall lefelau lles yn eich sefydliad. Rydych chi'n creu cynlluniau ac yn gweithredu mentrau i hyrwyddo a rheoli lles gweithwyr. Rydych hefyd yn gwneud yn siŵr bod llwythi gwaith yn gyraeddadwy o fewn yr oriau gwaith sydd ar gael ac yn rhoi cefnogaeth i gynorthwyo staff i gyflawni eu cyfrifoldebau. Rydych chi'n rhoi cyfleoedd i staff siarad am les ac yn trafod problemau gyda nhw. Mae'r safon yn cynnwys ymgynghori â ffynonellau arbenigedd mewnol ac allanol a chyfeirio unigolion at gefnogaeth arbenigol i leddfu problemau sy'n effeithio ar eu lles.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ennyn diddordeb staff, eu cynrychiolwyr a rhanddeiliaid eraill wrth hyrwyddo lles staff
- adolygu dangosyddion allweddol i nodi patrymau a thueddiadau
- dadansoddi'r data meintiol ac ansoddol sydd ar gael i bennu lefelau lles staff
- adolygu ymchwil a syniadau cyfredol sy'n ymwneud â lles staff
- creu cynlluniau i wella lles staff yn seiliedig ar eich dadansoddiad
- nodi rhannau o'ch sefydliad sy'n creu cefnogaeth i ddatblygu diwylliant lles
- rhoi cynlluniau penodol ar waith i wella lles staff mewn meysydd a nodwyd
- gwneud yn siŵr bod modd cyflawni amcanion a llwythi staff o fewn yr oriau gwaith sydd ar gael
- rhoi'r hyfforddiant, y gefnogaeth a'r oruchwyliaeth sydd eu hangen ar staff i allu cyflawni eu cyfrifoldebau yn effeithiol nawr ac yn y dyfodol
- rhoi cyfleoedd i dimau siarad am eu lles
- trafod problemau sy'n effeithio ar les gyda staff unigol
- parchu cyfrinachedd unigol o ran rhannu gwybodaeth neu fynd i'r afael â'r materion a'r problemau
- nodi pan fydd staff yn cael problemau sy'n effeithio ar eu lles a chymryd camau i leddfu'r problemau, lle bo hynny'n bosibl
- ymgynghori ag arbenigwyr, os bydd eu problemau y tu allan i faes eich cymhwysedd neu awdurdod
- cyfeirio staff at arbenigwyr, pan fo angen
- dilyn codau cyfreithiol, sefydliadol, codau ymarfer a pholisïau'r diwydiant sy'n berthnasol i'ch rôl wrth hyrwyddo a rheoli lles staff
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. sut i gynnwys staff, eu cynrychiolwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill wrth hyrwyddo lles staff
2. y dangosyddion allweddol (megis presenoldeb, cadw staff, oriau gwaith, cynhyrchiant, boddhad yn y swydd, awgrymiadau arloesol) a dulliau mesur lles staff
3. y data meintiol (megis absenoldeb, trosiant staff, cofnodion damweiniau, goramser) y gellir eu defnyddio i werthuso lefelau lles staff
4. y wybodaeth ansoddol (megis cyfarfodydd goruchwylio, arfarniadau, cyfweliadau ymadael, arolygon staff, iaith y corff) y gellir eu defnyddio i werthuso lefelau lles staff
5. sut i ddadansoddi data meintiol a gwybodaeth ansoddol i bennu lefelau lles staff
6. y cynlluniau y gellir eu rhoi ar waith i leihau straen a gwella lles staff
7. sut i gyfrifo amcanion a llwythi gwaith cyraeddadwy ar gyfer staff
8. pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i staff drafod materion sy'n effeithio ar eu lles
9. sut i adnabod arwyddion bod staff yn cael problemau sy'n effeithio ar eu lles
10. y camau y gallwch eu cymryd i leddfu problemau sy'n effeithio ar les staff
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
11. gofynion y diwydiant a'r sector ar gyfer gwella lles staff
12. codau ymarfer a pholisïau cyfreithiol, sefydliadol y diwydiant sy'n berthnasol i'ch rôl chi wrth hyrwyddo lles staff
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
13. y data sydd ar gael yn eich sefydliad sy'n gallu lywio asesiad o les staff
14. pam mae'n bwysig cadarnhau gyda chyfrinachedd wrth rannu neu dderbyn gwybodaeth am faterion neu broblemau unigol
15. yr unigolion ym maes eich gwaith, eu rolau, cyfrifoldebau, cymwyseddau a'u potensial
16. ffynonellau arbenigol mewnol ac allanol (megis staff AD, cynorthwywyr cymorth iechyd meddwl, rhaglenni cymorth gweithwyr, elusennau, grwpiau cefnogi lleol)
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Cyfathrebu
- Dangos empathi
- Gwerthuso
- Arwain
- Arwain trwy esiampl
- Cael adborth
- Cynllunio
- Datrys problemau
- Adolygu
- Rheoli risg
- Gosod amcanion
- Rheoli Straen
- Adeiladu Tîm
- Gwerthfawrogi aelodau staff a'u cefnogi