Rheoli trefniadau gweithio hyblyg ac o bell
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli trefniadau gweithio hyblyg ac o bell. Rydych chi'n datblygu ac yn rheoli trefniadau gweithio hyblyg trwy ymgynghori â rhanddeiliaid. Rydych chi'n paru strategaeth a gwerthoedd eich sefydliad â threfniadau gweithio hyblyg sy'n cefnogi'r busnes a'r gweithwyr. Rydych chi'n cyflwyno dull gweithio hyblyg, gan wneud yn siŵr bod y cytundebau a wneir yn cyd-fynd â'r tîm a'r amcanion. Mae'r safon yn cynnwys rhoi gwybodaeth i staff ac ystyried ceisiadau i weithio'n hyblyg ac o bell. Rydych chi'n rhoi rhesymau penodol dros wrthod ceisiadau, ac yn rheoli unrhyw apeliadau cysylltiedig, gan ddefnyddio cefnogaeth arbenigol pan fo angen. Rydych yn adolygu polisïau a threfniadau gweithio hyblyg ac o bell ac yn argymell gwelliannau. Rydych chi'n defnyddio offer a thechnolegau perthnasol ar gyfer rheoli gwahanol dimau, gan gynnwys yn y swyddfa, ar wasgar, o bell neu gyfuniad ohonynt.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ymgynghori â staff, eu cynrychiolwyr a rhanddeiliaid eraill wrth ddatblygu a rheoli trefniadau gweithio hyblyg ac o bell
- defnyddio offer a thechnolegau perthnasol ar gyfer rheoli gwahanol dimau, gan gynnwys mewn swyddfa, ar wasgar, o bell neu gyfuniad ohonynt
- gwerthuso'r ystod o drefniadau gweithio hyblyg ac o bell a nodi'r rhai sy'n cyd-fynd â natur busnes eich sefydliad, ei strategaeth a'i werthoedd
- gwerthuso cyfleoedd i gyflwyno trefniadau gweithio hyblyg ac o bell i gefnogi prosesau busnes a chyflawni amcanion
- ystyried effaith trefniadau gweithio hyblyg ac o bell ar eich gweithgareddau gwaith eich hun, sut y rheolir eich maes a rhannau eraill o'ch sefydliad
- cyflwyno trefniadau gweithio hyblyg ac o bell mewn ymgynghoriad â staff, eu cynrychiolwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill
- cadarnhau bod trefniadau gweithio hyblyg ac o bell yn cyd-fynd â llwyth gwaith y tîm ac yn cyflawni amcanion
- rhoi polisi gweithio hyblyg ac o bell eich sefydliad i staff
- cadarnhau bod staff yn deall eu hawliau o dan ddeddfwriaeth gweithio o bell a hyblyg, a'r trefniadau gweithio hyblyg
- ystyried ceisiadau gan staff i weithio'n hyblyg ac o bell a cheisio darparu ar gyfer y rhain, lle bo hynny'n bosibl
- cytuno i dreialu ac adolygu trefniadau gweithio hyblyg ac o bell, pan fo angen
- nodi rhesymau penodol os ydych yn penderfynu gwrthod cais i weithio'n hyblyg ac o bell, gan wneud yn siŵr bod y rhesymau hyn yn cyd-fynd â pholisi a gofynion cyfreithiol eich sefydliad
- rheoli apeliadau i benderfyniadau sy'n gwrthod cais i weithio'n hyblyg ac o bell yn unol â pholisi a gofynion cyfreithiol eich sefydliad
- trefnu cefnogaeth gan arbenigwyr, lle bo angen
- adolygu trefniadau gweithio hyblyg ac o bell i argymell gwelliannau
- dilyn codau cyfreithiol, sefydliadol, codau ymarfer a pholisïau'r diwydiant sy'n berthnasol i'ch rôl wrth reoli gweithio hyblyg ac o bell
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. sut i gynnwys aelodau staff, eu cynrychiolwyr a rhanddeiliaid eraill wrth ddatblygu, rheoli ac adolygu trefniadau hyblyg a gweithio
2. yr ystod o drefniadau gweithio hyblyg ac o bell (amser llawn, rhan-amser, amser hyblyg, amser i ffwrdd yn lle tâl, rhannu swyddi, oriau blynyddol, ac ati) a lle mae gweithwyr yn gweithio (gweithio gartref, tele-weithio, desgiau dros dro, ac ati).
3. yr offer a'r technolegau perthnasol ar gyfer rheoli gwahanol dimau, gan gynnwys yn y swyddfa, ar wasgar, o bell neu gyfuniad ohonynt
4. nodweddion a manteision gweithio hyblyg ac o bell i unigolion a sefydliadau
5. egwyddorion, dulliau a thechnolegau cyfathrebu
6. sut i ymgynghori â staff, eu cynrychiolwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill ynghylch trefniadau gweithio hyblyg ac o bell
7. sut i werthuso ceisiadau i weithio'n hyblyg ac o bell a nodi ffyrdd o ddarparu ar gyfer y rhain
8. pwysigrwydd ystyried ceisiadau i weithio'n hyblyg ac o bell o safbwynt yr effaith ar y tîm cyfan
9. y rhesymau dilys dros wrthod ceisiadau i weithio'n hyblyg ac o bell a sut i roi adborth ar benderfyniadau i unigolion
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
10. gofynion y diwydiant a'r sector ar gyfer ymgynghori â gweithwyr a'u cynrychiolwyr
11. dilyn codau cyfreithiol, sefydliadol, codau ymarfer a pholisïau'r diwydiant sy'n berthnasol i'ch rôl wrth reoli gweithio hyblyg ac o bell
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
12. y gweithwyr ym maes eich gwaith, eu rolau, eu cyfrifoldebau, eu cymwyseddau a'u potensial
13. polisi gweithio hyblyg ac o bell eich sefydliad a'r trefniadau gweithio hyblyg sydd ar gael yn y polisi hwn
14. busnes, strategaeth a gwerthoedd eich sefydliad a sut y gall gweithio hyblyg helpu i gyflawni amcanion
15. rhanddeiliaid eich sefydliad, eu buddiannau a'u hymrwymiad i weithio'n hyblyg ac o bell
16. y ffynonellau cefnogaeth arbenigol mewnol ac allanol sydd ar gael i chi yn eich rôl i wneud penderfyniadau a delio ag apeliadau sy'n ymwneud â gweithio hyblyg ac o bell
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Datrys problemau
- Adeiladu Tîm
- Meddwl yn greadigol
- Gwerthfawrogi aelodau staff a'u cefnogi