Rheoli cyfathrebiadau tîm
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli cyfathrebiadau tîm yn eich tîm eich hun a rhwng gwahanol dimau. Mae'n cynnwys cefnogi gweithwyr sy'n gweithio o bell neu mewn gwahanol leoliadau i gyfathrebu a theimlo'n rhan o dîm. Rydych yn cadarnhau'r wybodaeth sydd ei hangen ar eich tîm a'r wybodaeth a roddir i dimau mewnol ac allanol. Rydych chi'n dewis y cyfryngau a'r arddulliau cyfathrebu y bydd eich tîm yn eu defnyddio, a'r dulliau sy'n cyd-fynd â gofynion targedau, adnoddau a thechnolegau eich sefydliad. Rydych chi'n monitro cyfathrebu ac yn rhoi cefnogaeth i'ch tîm ar gyfer unrhyw faterion sy'n codi. Mae'r safon hefyd yn cynnwys adolygu'r adnoddau sy'n ofynnol ar gyfer timau rhithwir o bell, nodi, datblygu a chynnal offer a phrosesau i gefnogi gwaith. Rydych chi'n rhoi canllawiau ac yn hwyluso cydweithredu, gan annog aelodau'r tîm i rannu gwybodaeth. Rydych hefyd yn gwerthuso effeithiolrwydd cyfathrebiadau tîm er mwyn nodi a chynllunio camau ar gyfer gwella.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau'r wybodaeth sydd ei hangen ar eich tîm gennych chi, aelodau eraill y tîm a thimau eraill, a phryd mae ei hangen arnynt
- trafod y cyfryngau a'r arddulliau cyfathrebu sydd orau ar gyfer gwahanol weithwyr a sefyllfaoedd yn eich tîm
- cytuno ar y wybodaeth y mae angen i'ch tîm ei rhoi i chi, aelodau eraill y tîm a thimau eraill, a phryd y mae angen iddynt ei rhoi
- amlinellu pryd y dylai eich tîm drafod eu gwaith a'u problemau gyda chi, aelodau eraill o'r tîm a thimau eraill
- dewis y cyfryngau a'r arddulliau cyfathrebu a gaiff eu defnyddio
- cytuno ar ddulliau cyfathrebu tîm sy'n diwallu eu hanghenion ac sy'n cyd-fynd â thargedau sefydliadol, a'r adnoddau a'r dechnoleg sydd ar gael
- cytuno ar gysylltiadau unigol o fewn y tîm ar gyfer gweithgareddau gwaith penodol
- cytuno ar y dulliau cyfathrebu i'w defnyddio mewn amgylchiadau brys neu eithriadol
- rhoi gwybodaeth i'ch tîm yn ôl yr angen
- monitro bod eich tîm yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi, aelodau eraill y tîm a thimau eraill, pan fydd ei hangen arnynt
- rhoi cyfleoedd i aelodau'r tîm drafod eu gwaith a phroblemau sy'n codi gyda chi
- nodi'r prif heriau cyfathrebu i weithwyr rhithwir o bell gyda rhanddeiliaid
- adolygu'r gofynion o ran adnoddau ar gyfer darparu offer a phrosesau cyfathrebu ar gyfer gweithio o bell, rhithwir gyda rhanddeiliaid
- nodi, datblygu a chynnal offer a phrosesau effeithiol i gefnogi timau rhithwir o bell
- nodi rhwydweithiau, prosesau a systemau sy'n caniatáu i weithwyr gysylltu â gwybodaeth o bell
- rhoi canllawiau, hyfforddiant, mentora a chefnogaeth i hwyluso ac annog defnydd effeithiol o offer a phrosesau cyfathrebu
- rhoi canllawiau i hwyluso cydweithredu rhyngweithiol rhwng rhanddeiliaid mewnol ac allanol
- annog eraill i rannu gwybodaeth o fewn cyfyngiadau cyfrinachedd
- gwneud yn siŵr bod aelodau'r tîm yn deall ac yn cadw at ofynion rheoliadol, proffesiynol a masnachol
- datrys problemau rheoli cofnodion sy'n codi o gyfathrebu a gweithio o bell/rhithwir
- gwerthuso effeithiolrwydd dulliau cyfathrebu gydag aelodau'r tîm a thimau eraill i nodi gwelliannau
- cynllunio gweithredoedd i gynnal neu wella cyfathrebu effeithiol
- dilyn codau cyfreithiol, sefydliadol, codau ymarfer a pholisïau sy'n berthnasol i'ch rôl wrth reoli cyfathrebiadau tîm
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. egwyddorion a dulliau cyfathrebu effeithiol a sut i'w cymhwyso
2. yr ystod o gyfryngau (e.e. wyneb yn wyneb, papur, ffôn, ebost, rhyngrwyd) ac arddulliau cyfathrebu (e.e. ysgrifenedig, llafar, gweledol, arddangos) y gellir eu defnyddio a'u nodweddion, eu manteision a'u buddion
3. y technolegau sy'n gallu cefnogi cyfathrebu mewn tîm a sut i'w defnyddio
4. sut i drafod a chytuno ar anghenion cyfathrebu gydag aelodau'r tîm a thimau eraill (mewnol ac allanol)
5. sut i adolygu effeithiolrwydd dulliau cyfathrebu gydag aelodau'r tîm a thimau eraill (mewnol ac allanol)
6. pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i aelodau'r tîm drafod eu gwaith a'r problemau sy'n codi, a sut i wneud hynny
7. yr ystod o offer a thechnegau sydd ar gael i gefnogi gweithio o bell, rhithwir, gan gynnwys atebion wyneb yn wyneb ac sy'n cael eu galluogi gan dechnoleg
8. sut i alluogi rheoli adnoddau gwybodaeth ar gyfer timau o bell a rhithwir
9. sut mae rhyngwynebau o bell, rhithwir yn gweithio gyda phrosesau busnes craidd
10. y problemau o ran rheoli cofnodion a gwybodaeth a allai godi yn sgîl gweithio mewn tîm ac yn rhithwir a sut i'w datrys
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
11. codau ymarfer a pholisïau cyfreithiol, sefydliadol y diwydiant sy'n berthnasol i'ch rôl chi wrth reoli cyfathrebiadau tîm
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
12. y mathau o anghenion cyfathrebu sydd gan eich tîm, yn unigol ac ar y cyd, i gyflawni'r amcanion sefydliadol a bennwyd
13. y timau mewnol ac allanol y mae eich staff yn cyfathrebu â nhw i gael gwybodaeth, gan gynnwys pryd a sut y maent yn cael mynediad ati
14. pam, sut a phryd mae eich tîm yn rhoi gwybodaeth i dimau eraill ac i'w gilydd
15. pwysigrwydd derbyn a rhoi gwybodaeth pan fydd ei hangen a'r goblygiadau pan fydd cyfathrebu'n chwalu
16. arferion gwaith eich sefydliad a sut mae'r rhain yn effeithio ar dimau, timau rhithwir a gweithwyr o bell
17. y gweithwyr ym maes eich gwaith, eu rolau, eu cyfrifoldebau, eu cymwyseddau a'u potensial
18. gofynion eich sefydliad ar gyfer adrodd a rhoi gwybodaeth
19. y technolegau a'r adnoddau eraill sydd ar gael yn eich sefydliad sy'n gallu hwyluso cyfathrebu, a'r cryfderau a'r heriau sy'n gysylltiedig â'u defnyddio
20. aelodau'r tîm y dylid cysylltu â nhw at ddibenion penodol
21. y mathau o amgylchiadau cyfathrebu brys neu eithriadol a allai godi a sut i ddelio â'r rhain
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Cyfathrebu
- Gwneud penderfyniadau
- Grymuso
- Gwerthuso
- Rheoli gwybodaeth
- Arloesi
- Cynnwys aelodau'r tîm
- Monitro
- Yn ysgogi
- Rhwydweithio
- Cael adborth
- Datrys problemau
- Myfyrio
- Adolygu
- Adeiladu Tîm
- Meddwl yn greadigol
- Meddwl yn strategol
- Gwerthfawrogi aelodau staff a'u cefnogi