Rheoli gwaith yn eich tîm a sicrhau ei ansawdd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli gwaith yn eich tîm a sicrhau ei ansawdd. Rydych chi'n cynllunio sut bydd amcanion yn cael eu cyflawni trwy ystyried llwythi gwaith presennol a'r sgiliau a'r profiad sydd gan aelodau eich tîm. Rydych yn cytuno ar amcanion unigol ac ansawdd y gwaith sy'n ofynnol, gan wneud yn siŵr bod gweithwyr yn ymrwymo i'w cyflawni. Rydych hefyd yn rhoi adnoddau, cefnogaeth ac adborth er mwyn cynnal perfformiad a'i wella. Mae'r safon yn cynnwys adolygu cynlluniau a chyfleu newidiadau i'r rhai sy'n cael eu heffeithio ganddynt, pan fo angen. Rydych chi'n monitro allbynnau gwaith yn erbyn safonau ansawdd eich sefydliad ac yn cymell eich tîm, gan gydnabod pan maent yn cyflawni amcanion. Mae'r safon hon hefyd yn ymdrin â datrys problemau, anghytundebau neu wrthdaro yn rhan o reoli'r tîm.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyfathrebu'r safonau gwaith a'r ymddygiadau a ddisgwylir gan aelodau'r tîm
- helpu aelodau'r tîm i ddeall sut mae rolau gwahanol aelodau'r tîm yn rhyngweithio, yn ategu ac yn cefnogi ei gilydd
- cynllunio sut y gellir cyflawni amcanion cyffredinol, gan nodi unrhyw flaenoriaethau neu weithgareddau i'w blaenoriaethu
- adolygu llwythi gwaith presennol gweithwyr i wneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael
- dirprwyo cyfrifoldebau i weithwyr yn deg gan ystyried eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u cymhwysedd, eu cefndiroedd a'u profiad
- nodi cyfleoedd i ddatblygu gweithwyr
- cytuno ar amcanion campus (penodol, mesuradwy, cytunedig, realistig ac â therfyn amser) gyda gweithwyr, gan gynnwys safon y perfformiad a ddisgwylir
- cytuno â gweithwyr ynglŷn sut a phryd y bydd cynnydd tuag at amcanion, a'u cyflawni, yn cael ei fonitro, ei adolygu a'i werthuso
- gwneud yn siŵr bod gweithwyr wedi ymrwymo i gyflawni eu hamcanion a deall eu cyfraniad unigryw at amcanion y tîm a'r sefydliad
- trafod a chytuno ar ddulliau effeithiol ar gyfer cyflawni amcanion unigol a'r adnoddau, y gefnogaeth a'r oruchwyliaeth sy'n ofynnol
- rhoi'r adnoddau, y gefnogaeth a'r oruchwyliaeth y cytunwyd arnynt i weithwyr
- monitro cynnydd yn erbyn amcanion a gwerthuso perfformiad yn erbyn y safon a ddisgwylir ar adegau y cytunwyd arnynt
- rhoi adborth adeiladol i weithwyr er mwyn cynnal eu perfformiad a'i wella
- nodi unrhyw berfformiad anfoddhaol, trafod yr achosion a chytuno ar ffyrdd o wella perfformiad gyda'r gweithwyr dan sylw
- cydnabod pan mae amcanion yn cael eu cyflawni'n llwyddiannus yn unol â pholisi eich sefydliad
- adolygu cynlluniau, cyfrifoldebau ac amcanion fel y cytunwyd ac yn dilyn unrhyw newidiadau o bwys i gynlluniau ac amcanion sefydliadol
- cyfleu cynlluniau, cyfrifoldebau ac amcanion ac unrhyw newidiadau i'r rhai sy'n cael eu heffeithio arnynt
- gwirio ansawdd allbynnau gwaith aelodau'r tîm yn erbyn safon y perfformiad a ddisgwylir
- ysgogi aelodau'r tîm i gwblhau'r gwaith a ddyrannwyd iddynt ar amser ac yn unol â'r safon ansawdd sy'n ofynnol
- rhoi'r gefnogaeth a'r adnoddau ychwanegol sydd eu hangen ar aelodau'r tîm i gwblhau eu gwaith ar amser ac yn unol â'r safon ansawdd sy'n ofynnol
- cymell aelodau'r tîm i gynnal eu perfformiad a'i wella'n barhaus
- defnyddio gwybodaeth a gasglwyd am berfformiad aelodau'r tîm mewn arfarniadau perfformiad ffurfiol
- nodi gwrthdaro posibl rhwng aelodau'r tîm a chymryd camau ataliol i osgoi'r rhain
- annog aelodau'r tîm i ddatrys eu problemau a'u gwrthdaro ymysg ei gilydd
- rheoli gwrthdaro pan na all aelodau'r tîm dan sylw ddatrys y gwrthdaro eu hunain
- cydnabod a pharchu emosiynau aelodau'r tîm ynglŷn â'r gwrthdaro a rheoli unrhyw emosiynau negyddol
- ymchwilio i achosion y gwrthdaro, gan roi cyfleoedd i bawb o dan sylw gyflwyno'r ffeithiau a'u canfyddiadau am y gwrthdaro
- cytuno ag aelodau'r tîm ynglŷn â sut i ddatrys y gwrthdaro, heb roi'r bai ar neb
- derbyn cefnogaeth gan gydweithwyr neu arbenigwyr, lle bo angen
- cadw cofnodion cyflawn, cywir a chyfrinachol o wrthdaro a'u canlyniadau, yn unol â pholisi sefydliadol
- dilyn codau cyfreithiol, sefydliadol, codau ymarfer a pholisïau'r diwydiant sy'n berthnasol i'ch rôl wrth reoli a gwaith eich tîm a sicrhau ei ansawdd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. sut i gynllunio i gyflawni amcanion, nodi blaenoriaethau a materion hanfodol, a'r dulliau, adnoddau, cefnogaeth a goruchwyliaeth sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni amcanion
2. sut i ddatblygu amcanion Penodol, Mesuradwy, Cyraeddadwy, Realistig ac â Therfyn Amser (CAMPUS), dirprwyo'n deg ac egluro safonau'r perfformiad sy'n ofynnol gyda gweithwyr
3. sut i ennill ymrwymiad gweithwyr i'w hamcanion gan gynnwys sut i ddatblygu a chytuno ar gynllun ar gyfer monitro, adolygu a gwerthuso cynnydd unigol a chyflawni amcanion
4. sut i ystyried gwahaniaethau diwylliannol wrth reoli perfformiad unigol
5. sut i roi adborth adeiladol i weithwyr er mwyn iddynt gynnal perfformiad a'i wella
6. pwysigrwydd nodi perfformiad annerbyniol neu wael a mynd i'r afael ag ef, a sut i wneud hynny
7. pwysigrwydd adolygu amcanion a pherfformiad yn rheolaidd, a sut i wneud hynny
8. sut i ddewis a chymhwyso gwahanol ddulliau ar gyfer cymell, cefnogi ac annog aelodau'r tîm i gyflawni'r gwaith a ddyrannwyd iddynt a gwella eu perfformiad yn barhaus.
9. sut i ddewis a chymhwyso gwahanol ddulliau ar gyfer cydnabod cyflawniadau aelodau'r tîm
10. pwysigrwydd nodi gwrthdaro posibl rhwng aelodau'r tîm, cymryd camau ataliol i osgoi'r rhain, a sut i wneud hynny
11. pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i aelodau'r tîm drafod problemau difrifol sy'n effeithio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol ar eu gwaith, a sut i annog aelodau'r tîm i wneud hynny
12. pwysigrwydd cymryd camau yn ddiymdroi i drafod gwrthdaro a delio ag ef pan fyddant yn codi os na all aelodau'r tîm dan sylw ddatrys y gwrthdaro eu hunain
13. y ffyrdd o ddelio â gwrthdaro pan fyddant yn codi, pa fathau o gamau y dylid eu cymryd a phryd
14. pwysigrwydd cydnabod a pharchu emosiynau aelodau'r tîm am y gwrthdaro a sut i reoli unrhyw emosiynau negyddol
15. sut i aros yn ddiduedd wrth nodi achosion y gwrthdaro, gan roi cyfleoedd i bawb o dan sylw gyflwyno'r ffeithiau a'u canfyddiadau am y gwrthdaro
16. pwysigrwydd nodi a chytuno ag aelodau'r tîm ynglŷn â sut i ddatrys y gwrthdaro, heb roi'r bai ar neb, a sut i wneud hynny
17. y gefnogaeth a'r adnoddau ychwanegol y gallai fod eu hangen ar aelodau'r tîm i'w helpu i gwblhau eu gwaith mewn pryd ac yn unol â'r safon ansawdd sy'n ofynnol, a sut i gynorthwyo i ddarparu hyn
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
18. gofynion y diwydiant a'r sector ar gyfer datblygu neu gynnal gwybodaeth, sgiliau a chymwyseddau
19. deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau a chodau ymarfer penodol y diwydiant a'r sector sy'n ymwneud â rheoli gwaith a sicrhau ei ansawdd
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
20. y safonau gwaith ac ymddygiad a ddisgwylir gan aelodau eich tîm
21. sut i helpu eich tîm i ddeall sut mae rolau gwahanol aelodau'r tîm yn rhyngweithio, yn ategu ac yn cefnogi ei gilydd
22. y gweithwyr ym maes eich cyfrifoldeb, eu rolau, eu cyfrifoldebau, eu cymwyseddau a'u potensial
23. yr amcanion ar gyfer maes eich cyfrifoldeb
24. y gwaith a gynlluniwyd ar gyfer maes eich cyfrifoldeb a'r adnoddau sydd ar gael i wneud y gwaith gofynnol
25. safonau ansawdd neu lefel perfformiad disgwyliedig eich sefydliad
26. polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer delio â pherfformiad gwael
27. polisïau a gweithdrefnau cwynion a disgyblu eich sefydliad
28. systemau gwerthuso perfformiad eich sefydliad a pholisïau a gweithdrefnau gwobrwyo
29. polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol
30. gofynion eich sefydliad ar gyfer datrys gwrthdaro a chadw cofnodion o wrthdaro a'u deilliannau
31. y llinellau adrodd yn eich sefydliad a therfynau eich awdurdod
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Gweithredu'n bendant
- Cyfathrebu
- Gwneud penderfyniadau
- Dirprwyo
- Grymuso
- Gwerthuso
- Cynnwys eraill
- Arwain
- Rheoli gwrthdaro
- Monitro
- Yn ysgogi
- Cynllunio
- Cyflwyno gwybodaeth
- Blaenoriaethu
- Datrys problemau
- Rhoi adborth
- Adolygu
- Gosod amcanion
- Adeiladu Tîm
- Gwerthfawrogi aelodau staff a'u cefnogi