Adeiladu timau a dyrannu gwaith i aelodau'r tîm
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag adeiladu timau a dyrannu gwaith i aelodau'r tîm, gan gynnwys sefydlu timau ar gyfer prosiect penodol a thimau parhaus. Rydych chi'n nodi diben timau a'u harbenigedd, eu sgiliau a'r agweddau sy'n ofynnol i'w cyflawni. Rydych yn gwneud yn siŵr bod y gwaith sy'n ofynnol gan eich timau yn cael ei ddyrannu ymhlith aelodau'r tîm, gan ystyried eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u cymhwysedd, eu llwyth gwaith a'u cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol. Rydych chi'n annog eich timau i gydweithredu a meithrin parch at y cryfderau a'r arbenigedd a gynigir gan bob gweithiwr. Rydych yn annog ffyrdd creadigol o ddatrys problemau ac adborth i wella perfformiad timau ac unigolion. Rydych hefyd yn dathlu llwyddiannau unigolion a thimau ac yn ailffocysu egni pan mae pethau'n mynd o chwith.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi diben timau a'r hyn y mae'n rhaid iddynt ei gyflawni
- diffinio'r arbenigedd, y wybodaeth, y sgiliau a'r agweddau sy'n ofynnol i gyflawni diben tîm
- nodi gwybodaeth, sgiliau a chymwyseddau aelodau'r tîm i bennu eu rolau o fewn y timau
- cynllunio a datblygu unrhyw wybodaeth, sgiliau a chymwyseddau sy'n brin mewn timau
- datblygu a gweithredu cynlluniau trosglwyddo olyniaeth a gwybodaeth a sgiliau, lle bo angen
- cadarnhau'r gwaith sy'n ofynnol gan dimau gyda'ch rheolwr a gofyn am eglurhad ar unrhyw bwyntiau a materion sydd ar ôl
- cynllunio sut bydd timau'n ymgymryd â'r gwaith, gan nodi unrhyw flaenoriaethau neu weithgareddau hanfodol a defnyddio'r adnoddau sydd ar gael yn effeithiol
- dyrannu gwaith i aelodau'r tîm trwy ystyried eu sgiliau, eu gwybodaeth, eu cymhwysedd, eu cefndiroedd a'u profiad
- dadansoddi llwythi gwaith presennol aelodau'r tîm, a chyfleoedd i'w datblygu
- briffio aelodau'r tîm ar y gwaith a ddyrannwyd iddynt a safon y perfformiad a ddisgwylir
- annog aelodau'r tîm i ofyn cwestiynau, gwneud awgrymiadau a gofyn am eglurhad ynghylch y gwaith a ddyrannwyd iddynt
- ymateb i unrhyw bryderon sydd gan aelodau'r tîm am eu gwaith
- rhoi enghreifftiau o ymddygiadau sy'n dangos parch, cymwynasgarwch a chydweithrediad ac sy'n ysbrydoli aelodau'r tîm i ymddwyn yn yr un modd
- cytuno ar yr ymddygiadau fydd yn helpu i gyflawni diben y tîm a'r rhai sy'n debygol o rwystro cynnydd gydag aelodau'r tîm
- cefnogi aelodau'r tîm i ddeall eu cyfraniad unigryw mewn timau, cyfraniadau cyd-aelodau'r tîm, a sut mae'r rhain yn ategu ei gilydd
- rhoi cyfleoedd i aelodau'r tîm ddod i adnabod cryfderau a gwendidau ei gilydd a meithrin parch ac ymddiriedaeth ar y cyd
- caniatáu amser i dimau ddatblygu trwy eu camau twf
- cefnogi'r tîm i fachu ar gyfleoedd a ddaw yn sgîl newidiadau i aelodau'r tîm a chyflwyno aelodau newydd
- annog aelodau'r tîm i rannu problemau â'i gilydd a datrys y rhain yn greadigol gyda'i gilydd
- annog cyfathrebu agored rhwng aelodau'r tîm, gan gynnwys rhoi adborth adeiladol i wella perfformiad aelodau unigol a'r tîm cyfan
- monitro perfformiad timau i werthuso pa mor dda y mae ei ddiben yn cael ei gyflawni
- dathlu llwyddiannau timau ac unigolion gyda'i gilydd
- nodi gwrthdaro, cydnabod teimladau a safbwyntiau pawb o dan sylw, ac ailgyfeirio egni tuag at nod cyffredin
- diddymu timau unwaith y bydd eu diben wedi'i gyflawni ac nad oes eu hangen mwyach
- dilyn codau cyfreithiol, sefydliadol, codau ymarfer a pholisïau sy'n berthnasol i adeiladu timau a dyrannu gwaith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. pwysigrwydd cadarnhau ac egluro'r gwaith sy'n ofynnol gan dimau gyda'ch rheolwr a sut i wneud hyn
2. sut i nodi cwmpas y wybodaeth, y sgiliau a'r cymhwysedd sy'n ofynnol i gyflawni diben timau
3. pwysigrwydd dewis aelodau'r tîm sydd â'r wybodaeth, y sgiliau, y cymhwysedd a'r personoliaethau gwahanol fel y gallant chwarae rolau ategol mewn timau, a sut i wneud hynny
4. yr olyniaeth a'r cynllun ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth a sgiliau
5. pwysigrwydd cytuno ag aelodau'r tîm ar yr ymddygiadau sy'n debygol o helpu i gyflawni diben y tîm a'r rhai sy'n debygol o rwystro cynnydd ac y dylid eu hosgoi
6. sut i helpu aelodau'r tîm i ddeall eu cyfraniad unigryw at ddiben y tîm
7. y cyfraniadau a ddisgwylir gan aelodau'r tîm a sut mae'r rhain yn ategu ac yn cefnogi ei gilydd
8. pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i aelodau'r tîm ddod i adnabod cryfderau a gwendidau ei gilydd i adeiladu parch ac ymddiriedaeth ar y cyd
9. pwysigrwydd annog cyfathrebu agored rhwng aelodau'r tîm, a sut mae hyn yn cefnogi cydweithredu
10. sut i roi adborth i aelodau'r tîm i wella perfformiad cyd-aelodau'r tîm a'r tîm cyfan
11. pwysigrwydd rhoi amser i dimau ddatblygu trwy eu camau twf, a sut i wneud hynny
12. pwysigrwydd dathlu llwyddiannau timau ac unigolion gyda'i gilydd a chydymdeimlo gyda'i gilydd pan aiff pethau o chwith
13. y gwahanol ffyrdd o gyfathrebu ag aelodau timau ac ailffocysu'r egni ar gyflawni ei ddiben
14. sut i gynllunio gwaith timau, gan gynnwys sut i nodi unrhyw flaenoriaethau neu weithgareddau hanfodol a'r adnoddau sydd ar gael
15. pam mae'n bwysig dyrannu gwaith ar draws timau a sut i wneud hynny
16. pam mae'n bwysig briffio aelodau'r tîm ar y gwaith a ddyrannwyd iddynt a'r safon neu lefel y perfformiad disgwyliedig, a sut i wneud hynny
17. y ffyrdd o annog aelodau'r tîm i ofyn cwestiynau, gofyn am eglurhad a gwneud awgrymiadau ynghylch y gwaith a ddyrannwyd iddynt
18. y pryderon sydd gan aelodau'r tîm am eu gwaith a sut i fynd i'r afael â'r pryderon hyn
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
19. dilyn codau ymarfer a pholisïau cyfreithiol a sefydliadol y diwydiant a'r sector sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
20. gofynion y diwydiant a'r sector ar gyfer datblygu neu gynnal gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd.
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
21. diben ac amcanion eich timau, y cynlluniau ar gyfer ymgymryd â'r gwaith gofynnol a'r adnoddau sydd eu hangen
22. y cymysgedd gofynnol o arbenigedd, gwybodaeth a sgiliau i gyflawni diben timau
23. y gwaith sy'n ofynnol gan eich timau a safonau neu lefelau perfformiad disgwyliedig eich sefydliad
24. cefndiroedd a phrofiad aelodau'r tîm, eu gwybodaeth, eu sgiliau, eu cymhwysedd a'u llwythi gwaith
25. y cyfleoedd i ddatblygu aelodau'r tîm a pholisi a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol
26. y llinellau adrodd yn eich sefydliad a therfynau eich awdurdod
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Gweithredu'n bendant
- Cyfathrebu
- Gwneud penderfyniadau
- Grymuso
- Gwerthuso
- Cynnwys eraill
- Arwain
- Monitro
- Cael adborth
- Cynllunio
- Cyflwyno gwybodaeth
- Datrys problemau
- Rhoi adborth
- Adolygu
- Gosod amcanion
- Adeiladu Tîm
- Gwerthfawrogi eraill a'u cefnogi
- Cyfathrebu
- Gwneud penderfyniadau
- Dirprwyo
- Grymuso
- Rheoli gwybodaeth
- Arwain trwy esiampl
- Monitro
- Cynllunio
- Cyflwyno gwybodaeth
- Blaenoriaethu
- Datrys problemau
- Adrodd
- Gosod amcanion
- Adeiladu Tîm
- Rheoli amser
- Gwerthfawrogi aelodau staff a'u cefnogi