Dilyn gweithdrefnau disgyblu a chwynion eich sefydliad

URN: INSML023
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli ac Arwain
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 12 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dilyn gweithdrefnau disgyblu a chwynion eich sefydliad mewn ymateb i gamymddygiad neu berfformiad anfoddhaol gan aelodau'r tîm a'u cwynion. Rydych yn rhoi gwybod i'ch tîm am y safonau perfformiad, gwneud yr hyn a ddisgwylir ganddynt, a gweithdrefnau disgyblu a chwynion eich sefydliad. Rydych yn gofyn i gydweithwyr, adnoddau dynol ac arbenigwyr cyfreithiol am gefnogaeth pan fo angen. Rydych yn ymchwilio i gamymddygiad a pherfformiad anfoddhaol i sefydlu'r ffeithiau, gan ddatrys achosion yn anffurfiol os ydych yn fân achosion. Rydych yn ymateb i gwynion drwy ymchwilio iddynt ymhellach a'u datrys. Mae'r safon yn cynnwys defnyddio gweithdrefnau ffurfiol eich sefydliad i ddatrys cwynion difrifol ac achosion disgyblu. Rydych hefyd yn cadw cofnodion yn unol â gofynion eich sefydliad a gofynion cyfreithiol.

Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. hysbysu gweithwyr am y safonau ymddygiad a pherfformiad a ddisgwylir ganddynt
  2. nodi gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer delio â chamymddygiad neu berfformiad anfoddhaol
  3. gofyn am gefnogaeth gan gydweithwyr, adnoddau dynol neu arbenigwyr cyfreithiol ar weithredu gweithdrefnau disgyblu a chwynion pan fo angen
  4. ymchwilio a sefydlu'r ffeithiau sy'n ymwneud â chamymddygiad neu berfformiad anfoddhaol aelodau'r tîm
  5. datrys achosion o fân gamymddygiad neu berfformiad anfoddhaol yn anffurfiol
  6. dilyn gweithdrefn ddisgyblu ffurfiol eich sefydliad mewn achosion difrifol o gamymddygiad neu berfformiad anfoddhaol
  7. rhannu gweithdrefn eich sefydliad ar gyfer cyflwyno cwynion gyda'ch tîm
  8. nodi cwynion posibl a chymryd camau ataliol i ddatrys problemau lle bo modd
  9. cydnabod rôl cynrychiolwyr gweithwyr megis undebau llafur a gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu cynnwys yn y broses
  10. defnyddio dull anffurfiol o ddatrys pryderon, problemau a chwynion gweithwyr lle bo modd
  11. dilyn gweithdrefnau cwyno ffurfiol eich sefydliad os bydd gweithiwr yn gwneud cwyn ysgrifenedig
  12. cadw cofnodion sy'n ymwneud â'r prosesau disgyblu a chwynion a storio'r rhain yn gyfrinachol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  13. gwerthuso gweithdrefnau disgyblu a chwynion eich sefydliad i nodi gwelliannau
  14. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol

1.      pwysigrwydd hysbysu gweithwyr am y safonau ymddygiad a pherfformiad a ddisgwylir, a'r weithdrefn bresennol ar gyfer cyflwyno cwynion

2.      sut i gynnal ymchwiliadau i sefydlu ffeithiau sy'n ymwneud ag unrhyw gamymddygiad neu berfformiad anfoddhaol, a chwynion

3.      y dulliau anffurfiol o ddelio ag achosion o fân gamymddygiad neu berfformiad anfoddhaol, a phryderon, problemau neu gwynion a godwyd gyda chi, a phan fydd y math hwn o ddull yn debygol o ddatrys y sefyllfa'n effeithiol

4.      y gwahaniaethau rhwng camymddygiad, camymddygiad difrifol a pherfformiad anfoddhaol, a sut y dylid ymdrin â phob un

5.      pwysigrwydd dilyn gweithdrefnau disgyblu a chwynion ffurfiol eich sefydliad mewn achosion difrifol o gamymddygiad neu berfformiad anfoddhaol, a chwynion

6.      pwysigrwydd cydnabod rôl cynrychiolwyr gweithwyr megis undebau llafur a gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu cynnwys yn y broses

7.      sut i gynnal cyfarfod ffurfiol gyda gweithiwr i drafod ei gŵyn, ei gamymddygiad neu ei berfformiad anfoddhaol

8.      sut i gasglu adborth am weithdrefnau disgyblu a chwynion i'w gwerthuso a gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau

Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector

9.      y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

10.  gofynion y diwydiant a'r sector ar gyfer cefnogi gweithwyr i wella eu perfformiad

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol

11.  safonau ymddygiad a pherfformiad eich sefydliad a ddisgwylir gan weithwyr, a'r gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chamymddygiad neu berfformiad anfoddhaol

12.  gweithdrefn eich sefydliad ar gyfer ymdrin â chwynion

13.  eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch cymhwysedd a'r ffynonellau cyngor, arweiniad a chefnogaeth sydd ar gael gan gydweithwyr, adnoddau dynol neu arbenigwyr cyfreithiol

14.  gofynion eich sefydliad ar gyfer cadw cofnodion drwy gydol prosesau disgyblu a chwynion a sut i storio'r rhain yn unol â deddfwriaeth a gweithdrefn


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. Gweithredu'n bendant
  2. Asesu
  3. Cyfathrebu
  4. Gwneud penderfyniadau
  5. Dangos empathi
  6. Rheoli gwybodaeth
  7. Cyfweld
  8. Monitro
  9. Cyflwyno gwybodaeth
  10. Rhoi adborth
  11. Cwestiynu
  12. Adrodd
  13. Adolygu

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAC&LDA6, CFAC&LDA7

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion

Cod SOC

1114

Geiriau Allweddol

Rheoli ac arwain; cychwyn; disgyblu; gweithdrefn