Rheoli prosesau dileu swyddi

URN: INSML022
Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheoli ac Arwain
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli prosesau dileu swyddi. Rydych yn gofyn am gefnogaeth gan gydweithwyr ac arbenigwyr i reoli prosesau dileu swyddi staff. Rydych yn amlinellu'r broses ymgynghori i staff ac yn cyfiawnhau'r rhesymau pam mae angen dileu swyddi. Rydych yn rhoi gwybod i staff am y penderfyniadau sy'n gysylltiedig â dileu swyddi ac yn siarad â'r gweithwyr sy'n cael eu heffeithio gan hyn. Rydych hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i staff eraill i gynnal eu hyder a'u morâl yn ystod y broses ymgynghori. Mae'r safon yn cynnwys cadw cofnodion a gwerthuso'r broses o ddileu swyddi er mwyn nodi gwelliannau.

Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1.      gofyn am gefnogaeth gan gydweithwyr neu arbenigwyr adnoddau dynol i reoli prosesau dileu swyddi pan fo angen

2.      rhoi gwybodaeth gywir am bolisi dileu swyddi eich sefydliad a'r weithdrefn apelio i staff ym maes eich cyfrifoldeb

3.      cyfiawnhau'r rhesymau dros ddileu swyddi

4.      amlinellu'r broses ymgynghori ar gyfer dileu'r swyddi gyda staff a'u cynrychiolwyr

5.      cadarnhau nifer y gweithwyr sy'n colli eu swyddi am resymau dileu swyddi

6.      amlinellu'r dulliau a'r meini prawf a ddefnyddir i ddewis gweithwyr fydd yn colli eu swyddi

7.      rhoi gwybodaeth am swyddi amgen

8.      nodi'r cyfleoedd dysgu, cwnsela neu gefnogaeth sydd ar gael

9.      cadarnhau'r broses a'r amserlen ar gyfer dileu swyddi

10.  cadarnhau'r dull cyfrifo unrhyw daliadau dileu swyddi

11.  hysbysu gweithwyr a ddewisir i golli eu swyddi am resymau dileu swyddi mewn modd clir, ystyriol a chyfrinachol

12.  cyfweld â gweithwyr sy'n colli eu swyddi am resymau dileu swyddi i ddeall eu profiad o weithio yn y sefydliad a'r broses o ddileu swyddi

13.  dangos empathi ag anghenion, teimladau a chymhellion staff a dangos diddordeb gwirioneddol yn eu pryderon

14.  cynnal hyder a morâl gweddill y staff drwy rannu gwybodaeth am y broses, yn unol â gofynion cyfrinachedd eich sefydliad

15.  cydymffurfio â pholisi dileu swyddi eich sefydliad a deddfwriaeth gyfredol drwy gydol y broses

16.  cadw cofnodion cywir o'r broses dileu swyddi a storio'r rhain yn gyfrinachol gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol

17.  gwerthuso'r broses dileu swyddi gyda chydweithwyr neu arbenigwyr adnoddau dynol

18.  nodi meysydd i'w gwella yn y broses dileu swyddi


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol

1.      sut i roi gwybod i staff sydd wedi'u dewis i golli eu swyddi a phwysigrwydd cyfleu gwybodaeth mewn modd clir, cryno, ystyriol a chyfrinachol

2.      pwysigrwydd rhoi cyfleoedd dysgu, cwnsela a chefnogaeth; i weithwyr sydd wedi'u dewis i golli eu swyddi yn ogystal â'r rhai sy'n parhau i fod yn gyflogedig

3.      sut i ddangos empathi ag anghenion, teimladau a chymhellion staff yn ystod ymgynghoriad ynghylch dileu swyddi

4.      pwysigrwydd cydymffurfio'n llawn â pholisi dileu swyddi eich sefydliad a deddfwriaeth gyfredol drwy gydol y broses

5.      pwysigrwydd rhoi gwybod i weithwyr sy'n parhau i fod yn gyflogedig am y broses, heb dorri cyfrinachedd, a sut i wneud hynny mewn ffyrdd sy'n cynnal eu hyder a'u morâl

Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector

6.      gofynion y diwydiant a'r sector ar gyfer rheoli prosesau dileu swyddi

7.      y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol

8.      polisi dileu swyddi a gweithdrefn apelio eich sefydliad

9.      ffynonellau cyngor, arweiniad a chefnogaeth gan gydweithwyr neu arbenigwyr adnoddau dynol

10.  y rhesymau pam mae angen dileu swyddi

11.  nifer y gweithwyr sy'n colli eu swyddi am resymau dileu swyddi

12.  y dulliau a'r meini prawf ar gyfer dewis pa weithwyr fydd yn colli eu swyddi

13.  y broses ymgynghori a'r amserlenni ar gyfer dileu swyddi

14.  y dulliau cyfrifo unrhyw daliadau dileu swydd

15.  yr ymgynghoriad ar ddileu swyddi sydd wedi'i gynnal gyda staff a'u cynrychiolwyr

16.  y swyddi amgen sydd ar gael a sut i benderfynu pa gyfleoedd fyddai'n briodol i'w cynnig i weithwyr

17.  y cwnsela sydd ar gael i weithwyr sydd wedi'u dewis i golli eu swyddi am resymau dileu swyddi neu i'r rhai sy'n parhau i gael eu cyflogi

18.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cadw cofnodion cywir yn unol â pholisïau cyfrinachedd a diogelu data


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. Gweithredu'n bendant
  2. Cydbwyso anghenion a buddiannau sy'n cystadlu â'i gilydd
  3. Cyfathrebu
  4. Gwneud penderfyniadau
  5. Dangos empathi
  6. Gwerthuso
  7. Rheoli gwybodaeth
  8. Cyfweld
  9. Arwain
  10. Arwain trwy esiampl
  11. Rheoli gwrthdaro
  12. Monitro
  13. Yn ysgogi
  14. Cael adborth
  15. Cynllunio
  16. Cyflwyno gwybodaeth
  17. Rhoi adborth
  18. Rheoli Straen
  19. Gwerthfawrogi aelodau staff a'u cefnogi

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAC&LDA5

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion

Cod SOC

1114

Geiriau Allweddol

Rheoli ac arwain; rheoli; dileu swyddi