Rheoli prosesau adleoli gweithwyr i rolau newydd

URN: INSML021
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli ac Arwain
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 12 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud ag adleoli gweithwyr i rolau newydd. Rydych chi'n datblygu cynlluniau adleoli yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad. Rydych chi'n nodi'r angen am adleoli yn seiliedig ar anghenion busnes ac yn cyfleu'r rhesymau dros hyn. Rydych chi'n diffinio ac yn cymhwyso meini prawf dethol i wneud penderfyniadau teg. Mae'r safon yn cynnwys gwneud cynigion adleoli i weithwyr a chyfiawnhau'r newidiadau sy'n angenrheidiol. Gall y newidiadau hyn ymwneud â'u swyddi, lefelau cyfrifoldebau neu drefniadau gweithio, yn enwedig os oes angen gweithio o bell. Rydych chi'n dangos empathi i safbwyntiau gweithwyr ac yn rhoi cefnogaeth gyfrinachol iddynt. Rydych chi'n gwerthuso'r broses adleoli ac yn gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau.

Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cynnwys cydweithwyr a rhanddeiliaid eraill wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer adleoli gweithwyr
  2. cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau adleoli eich sefydliad
  3. defnyddio adnoddau arbenigol mewnol ac allanol, lle bo angen
  4. nodi'r angen busnes i adleoli gweithwyr i wahanol rolau, meysydd o'r sefydliad neu leoliadau
  5. diffinio meini prawf penodol a theg ar gyfer dewis unigolion i'w hadleoli
  6. defnyddio'r meini prawf ar gyfer dethol yn wrthrychol i nodi'r unigolion i'w hadleoli
  7. cyfleu'r rhesymau dros adleoli i'r rhai yr effeithir arnynt gan wneud y meini prawf ar gyfer gwneud penderfyniadau yn dryloyw
  8. gwneud cynigion adleoli i unigolion, gan nodi manyleb newydd y swydd, lefelau cyfrifoldeb, lleoliad a'r trefniadau adrodd
  9. cyfiawnhau unrhyw newidiadau mewn cyflog, buddion neu delerau ac amodau eraill gan gynnwys unrhyw lwfansau adleoli neu drefniadau gweithio o bell
  10. cadarnhau'r dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid derbyn neu wrthod y cynnig, a'r dewisiadau amgen os na dderbynnir y cynnig
  11. nodi anghenion, teimladau a chymhellion cydweithwyr sy'n gysylltiedig ag adleoli eu hunain a'u cydweithwyr
  12. cefnogi unigolion sy'n cael eu hadleoli gan ddangos diddordeb yn eu pryderon
  13. amddiffyn cyfrinachedd a diogelwch gwybodaeth gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
  14. trefnu ymsefydlu, cefnogaeth, goruchwyliaeth ac adborth i alluogi unigolion i gyflawni yn eu rolau newydd
  15. gwerthuso'r broses adleoli gyda'r rhai sy'n cymryd rhan
  16. nodi unrhyw feysydd i'w gwella yn y broses adleoli a gwneud argymhellion
  17. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i'ch rôl a rheoli prosesau adleoli gweithwyr

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol

1.      sut i gynnwys gweithwyr a rhanddeiliaid eraill mewn prosesau adleoli

2.      egwyddorion a dulliau cyfathrebu effeithiol a sut i'w cymhwyso

3.      sut i sefydlu meini prawf teg a chlir ar gyfer adleoli

4.      sut i baru gweithwyr sydd wedi'u hadleoli â gwahanol rolau, meysydd o'r sefydliad a/neu leoliadau

5.      y cynnwys sy'n ofynnol mewn cynigion adleoli

6.      pwysigrwydd trefnu a darparu ymsefydlu, cefnogaeth, goruchwyliaeth ac adborth i unigolion sy'n cael eu hadleoli a sut i wneud hynny

7.      pwysigrwydd gwerthuso effeithiolrwydd prosesau adleoli a nodi meysydd i'w gwella

Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector

8.      y gofynion ymgynghori yn eich diwydiant a'ch sector

9.      yr arferion cyflogaeth yn eich diwydiant a'ch sector

10.  y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol

11.  polisïau a gweithdrefnau adleoli eich sefydliad

12.  yr adnoddau arbenigol sydd ar gael i gefnogi prosesau adleoli a sut i gael gafael arnynt a'u defnyddio

13.  yr angen i adleoli gweithwyr

14.  sut i gyfleu penderfyniadau adleoli i unigolion a chydymdeimlo â'u hanghenion, eu teimladau a'u cymhellion

15.  y trefniadau gweithio perthnasol neu newidiadau mewn lleoliad

16.  y contractau cyflogaeth gyda gweithwyr sy'n gweithio yn eich sefydliad

17.  y gweithwyr ym maes eich gwaith, eu rolau, eu cyfrifoldebau, eu cymwyseddau a'u potensial

18.  eich rôl, eich cyfrifoldebau a lefel eich awdurdod

19.  y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i'ch rôl ac wrth reoli prosesau adleoli gweithwyr


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. Cyfathrebu
  2. Ymgynghori
  3. Gwneud penderfyniadau
  4. Dangos empathi
  5. Gwerthuso
  6. Rheoli gwybodaeth
  7. Cynnwys eraill
  8. Rheoli gwrthdaro
  9. Cyd-drafod
  10. Cynllunio
  11. Cyflwyno gwybodaeth
  12. Adolygu
  13. Meddwl yn systematig
  14. Gwerthfawrogi eraill a'u cefnogi

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAM&LDA4

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion

Cod SOC

1114

Geiriau Allweddol

Rheoli ac arwain; rheoli; lleoli; pobl