Recriwtio, ymsefydlu a chadw gweithwyr yn eu rolau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â recriwtio, ymsefydlu a chadw gweithwyr i ymgymryd â gweithgareddau neu rolau gwaith a nodwyd. Rydych chi'n adolygu'r gwaith sy'n ofynnol i nodi diffygion yn nifer y gweithwyr, eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u cymhwysedd. Rydych chi'n datblygu disgrifiadau swyddi a manylebau ar gyfer recriwtio. Rydych chi'n cynllunio ac yn recriwtio drwy ddefnyddio meini prawf y cytunwyd arnynt ar gyfer dethol a chnynnig swyddi. Rydych chi'n ymsefydlu staff yn eich sefydliad gan ystyried eu hanghenion amrywiol. Mae hyn yn cynnwys eu cefnogi i fonitro eu cynnydd ymsefydlu eu hunain. Rydych hefyd yn cadw eich staff trwy roi cyfleoedd parhaus iddynt ddatblygu eu potensial a rhannu unrhyw broblemau er mwyn gallu eu datrys.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ymgysylltu â chydweithwyr a rhanddeiliaid eraill wrth recriwtio, ymsefydlu a chadw staff
- ceisio adnoddau arbenigol, lle bo angen
- adolygu'r gwaith sy'n ofynnol ym maes eich cyfrifoldeb
- nodi unrhyw ddiffygion yn nifer y gweithwyr, eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u cymhwysedd
- gwerthuso'r opsiynau ar gyfer mynd i'r afael â diffygion a phenderfynu ar yr opsiynau gorau
- datblygu disgrifiadau swydd a manylebau person cyfoes ar gyfer recriwtio
- cynllunio'r broses recriwtio a dethol ar gyfer swyddi gwag a nodwyd, y dulliau a ddefnyddir, yr amseriadau o dan sylw a phwy fydd yn cymryd rhan
- nodi a chytuno ar feini prawf ar gyfer asesu ymgeiswyr a'u dewis
- hysbysu ymgeiswyr am hynt eu ceisiadau, yn unol â pholisi sefydliadol
- recriwtio yn unol â'ch cynllun, gan ddefnyddio'r meini prawf y cytunwyd arnynt ar gyfer dethol
- cynnig swyddi i ymgeiswyr sy'n cwrdd â'r meini prawf o ran dethol
- rhoi adborth adeiladol i ymgeiswyr aflwyddiannus, yn unol â pholisi sefydliadol
- croesawu staff newydd ac egluro eu rolau wrth gyflawni amcanion y sefydliad a'u maes gwaith
- sefydlu anghenion gweithwyr o ran eu gwybodaeth am eich sefydliad, polisïau ac arferion sefydliadol, eu rolau gwaith a'r bobl y byddant yn gweithio gyda nhw
- nodi'r anghenion dysgu a datblygu i alluogi gweithwyr i gyflawni eu dyletswyddau
- darparu rhaglen ymsefydlu i ddiwallu anghenion staff newydd o ran gwybodaeth, dysgu a datblygu
- ystyried anghenion gweithwyr wrth ddylunio eu rhaglenni ymsefydlu
- cyflwyno gweithwyr i'w cydweithwyr, gan egluro rolau pawb o dan sylw a sut byddant yn rhyngweithio
- annog gweithwyr i gymryd cyfrifoldeb am fonitro eu cynnydd a chwblhau eu rhaglenni ymsefydlu
- rhoi cefnogaeth, goruchwyliaeth ac adborth i alluogi gweithwyr i gyflawni eu rolau yn unol â gofynion eich sefydliad
- rhoi cyfleoedd gwaith sy'n herio gweithwyr i ddefnyddio eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u cymwyseddau'n effeithiol i ddatblygu eu potensial
- adolygu perfformiad a datblygiad gweithwyr mewn modd systematig a rhoi adborth adeiladol
- cydnabod perfformiad gweithwyr a'u cyflawniadau yn unol â pholisi eich sefydliad
- cefnogi gweithwyr i gael mynediad at y cyfleoedd gyrfa a datblygiad proffesiynol yn eich sefydliad
- rhoi cyfleoedd i weithwyr drafod problemau sy'n ymwneud â'u gwaith neu eu datblygiad gyda chi
- nodi pan fydd gweithwyr yn anfodlon a chytuno ar atebion sy'n diwallu anghenion unigol a sefydliadol
- nodi pan fydd gwerthoedd, cymhellion a dyheadau gweithwyr yn mynd yn groes i weledigaeth, amcanion a gwerthoedd eich sefydliad a chwilio am atebion amgen gyda'r gweithwyr dan sylw
- cwrdd â gweithwyr sy'n bwriadu gadael eich sefydliad a datrys unrhyw broblemau neu gamddealltwriaeth
- gwerthuso'r broses recriwtio, ymsefydlu a chadw i nodi unrhyw feysydd i'w gwella
- dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i recriwtio, ymsefydlu a chadw staff
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. sut i adolygu'r llwyth gwaith yn eich maes i nodi diffygion yn nifer y gweithwyr, eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u cymhwysedd
2. sut i nodi sgiliau gwirioneddol ac osgoi stereoteipio lefelau sgiliau a moeseg gwaith
3. y gwahanol opsiynau ar gyfer mynd i'r afael â diffygion a nodwyd, yn ogystal â'u manteision a'u hanfanteision
4. pa ddisgrifiadau swyddi a manylebau person ddylai gael eu cynnwys a pham mae'n bwysig ymgynghori ag eraill wrth eu cynhyrchu neu eu diweddaru
5. y gwahanol gamau yn y broses recriwtio a dethol
6. pam mae'n bwysig ymgynghori ag eraill ar y camau a'r dulliau recriwtio a dethol i'w defnyddio, amseriadau o dan sylw a phwy fydd yn cymryd rhan
7. y gwahanol ddulliau recriwtio a dethol a'u manteision a'u hanfanteision cysylltiedig
8. pam mae'n bwysig rhoi gwybodaeth glir am swyddi gwag i ddarpar ymgeiswyr
9. sut y gall gwahaniaethau diwylliannol mewn iaith, iaith y corff, tôn y llais a gwisg fod yn wahanol i ddisgwyliadau a sut i osgoi rhagfarn
10. sut i fesur cymhwysedd a gallu ymgeiswyr yn erbyn meini prawf y cytunwyd arnynt ac asesu a ydynt yn bodloni'r gofynion sydd wedi'u datgan ar gyfer y swydd wag
11. pwysigrwydd rhoi gwybodaeth i ymgeiswyr am gynnydd a sut i wneud hynny
12. sut i roi adborth clir ac adeiladol i ymgeiswyr aflwyddiannus
13. diben a phwysigrwydd rhaglen ymsefydlu strwythuredig a'r hyn y dylai rhaglen ymsefydlu ei gwmpasu i ystyried anghenion gweithwyr
14. sut i annog gweithwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu cynnydd gan ddefnyddio technegau gwrando a chwestiynu gweithredol
15. sut a phryd i adolygu cynnydd gweithwyr tuag at gyflawni'r amcanion yn eu rhaglenni ymsefydlu
16. sut i nodi anghenion y gweithwyr o ran gwybodaeth, dysgu a datblygu
17. pwysigrwydd cydnabod perfformiad unigol a sut i wneud hynny
18. pwysigrwydd rhoi cefnogaeth a chyfleoedd i weithwyr drafod problemau gyda chi
19. yr atebion amgen y gellir eu defnyddio pan fydd gwerthoedd, cymhellion a dyheadau gweithwyr yn mynd yn groes i'w gwaith neu weledigaeth, amcanion a gwerthoedd eich sefydliad
20. pwysigrwydd deall y rhesymau pam mae gweithwyr yn gadael sefydliad
21. pwysigrwydd gwerthuso effeithiolrwydd prosesau dethol, ymsefydlu a chadw a'r ffyrdd o gael adborth i nodi meysydd i'w gwella
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
22. y problemau recriwtio a dethol a mentrau a threfniadau penodol yn y diwydiant a'r sector
23. yr arferion cyflogaeth perthnasol yn eich sector a'r codau ymarfer a pholisïau cyfreithiol, sefydliadol, mewn perthynas â recriwtio, ymsefydlu a chadw staff
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
24. amrywiaeth anghenion gweithwyr, eu rolau, eu cyfrifoldebau, eu cymwyseddau a'u potensial
25. y disgrifiadau swyddi a'r manylebau person ar gyfer swyddi gwag a gadarnhawyd
26. amodau'r farchnad gyflogaeth leol a chyfradd trosiant staff yn eich maes chi
27. strwythur, gwerthoedd a diwylliant eich sefydliad a'r cynlluniau gweithredol y cytunwyd arnynt, a newidiadau i ofynion gwaith yn eich maes
28. yr adnoddau arbenigol sydd ar gael i gefnogi recriwtio, ymsefydlu a chadw, a sut i'w defnyddio
29. y cyfleoedd a'r adnoddau hyfforddi a datblygu sydd ar gael
30. y polisïau a'r arferion cyfreithiol a chyflogaeth yn eich sefydliad, gan gynnwys recriwtio, dethol, ymsefydlu, datblygu, hyrwyddo, cadw, dileu swyddi, diswyddo, tâl a thelerau ac amodau eraill
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Cyfathrebu
- Ymgynghori
- Gwneud penderfyniadau
- Gwerthuso
- Gwerthuso
- Rheoli gwybodaeth
- Ysbrydoledig
- Cyfweld
- Cynnwys eraill
- Monitro
- Cyd-drafod
- Cael adborth
- Cynllunio
- Cyflwyno gwybodaeth
- Blaenoriaethu
- Datrys problemau
- Rhoi adborth
- Adolygu
- Adeiladu Tîm
- Gwerthfawrogi aelodau staff a'u cefnogi