Cynllunio'r gweithlu
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio'r gweithlu. Rydych chi'n ymgysylltu â rhanddeiliaid ac arbenigwyr i gynorthwyo gyda chynllunio'r gweithlu. Rydych chi'n gwerthuso strategaeth a chynlluniau eich sefydliad i nodi'r hyn sy'n ofynnol i'w cyflawni. Rydych hefyd yn adolygu'r gweithlu presennol o ran eu gallu i gyflwyno a nodi anghenion dysgu a datblygu. Mae'r safon yn cynnwys gwirio amrywiaeth y gweithlu a datblygu cynlluniau drwy ddefnyddio arbenigwyr mewnol ac allanol. Rydych yn cadarnhau bod contractau cyflogaeth ac adnoddau ar waith i fodloni gofynion eich sefydliad. Rydych hefyd yn cyfathrebu cynlluniau gweithlu ac yn ystyried cynlluniau wrth gefn i ddelio ag amgylchiadau annisgwyl.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnwys cydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol wrth gynllunio gofynion y gweithlu
- cadarnhau adnoddau arbenigol i gynorthwyo gyda gweithgareddau cynllunio'r gweithlu, lle bo angen
- gwerthuso amcanion a chynlluniau strategol eich sefydliad i gael y wybodaeth sydd ei hangen at ddibenion cynllunio'r gweithlu a nodi unrhyw faterion allweddol i'w hystyried ymhellach
- nodi'r wybodaeth, y sgiliau a'r cymhwysedd sy'n ofynnol i gyflawni amcanion a chynlluniau strategol eich sefydliad
- adolygu adnoddau a gallu'r gweithlu presennol i fodloni gofynion a nodwyd o ran gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd
- nodi unrhyw anghenion dysgu neu ddatblygu'r gweithlu presennol i fodloni gofynion
- gwirio bod amrywiaeth y gweithlu yn rhoi cymysgedd addas o bobl i gyflawni ei amcanion
- dehongli ystod anghenion eich gweithlu
- datblygu cynlluniau gweithlu sy'n bodloni gofynion tymor hir, canolig a thymor byr y sefydliad, gan ddefnyddio arbenigwyr mewnol ac allanol yn effeithiol
- gwneud yn siŵr bod contractau cyflogaeth yn diwallu anghenion y sefydliad
- cadarnhau bod yr adnoddau sydd eu hangen i recriwtio, datblygu, cadw ac adleoli pobl ar gael
- datblygu cynlluniau wrth gefn i ddelio ag amgylchiadau annisgwyl a sicrhau parhad busnes
- nodi unrhyw faterion sy'n codi dro ar ôl tro sy'n achosi i bobl adael eich sefydliad a cheisio mynd i'r afael â'r rhain
- cyfleu cynlluniau'r gweithlu i gydweithwyr
- adolygu eich cynlluniau ar gyfer y gweithlu yn ôl gofynion eich sefydliad, neu yng ngoleuni newidiadau i amcanion a chynlluniau strategol eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. sut i gynnwys gweithwyr a rhanddeiliaid eraill wrth gynllunio'r gweithlu
2. yr hyn y dylai cynllun gweithlu effeithiol ei gwmpasu i fodloni gofynion sefydliadol
3. y wybodaeth sydd ei hangen i gynllunio'r gweithlu
4. y ddeddfwriaeth a'r gofynion sy'n ymwneud â chyflogaeth, lles a hawliau gweithwyr, cydraddoldeb ac iechyd a diogelwch
5. sut i ystyried materion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth gynllunio'r gweithlu
6. y strategaethau a'r gwasanaethau y mae angen iddynt fod ar waith pan mae gweithwyr yn gadael, gan gynnwys cwnsela dileu swyddi
7. pwysigrwydd rhoi cynlluniau wrth gefn ar waith a sut i wneud hynny'n effeithiol
8. y gwahanol ffyrdd y gellir cwrdd â gofynion y gweithlu, eu manteision a'u hanfanteision, eu costau a'u buddion
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
9. y mathau o gontractau cyflogaeth a ddefnyddir yn y diwydiant a'r sector fel arfer
10. y patrymau ar gyfer cyflogi, recriwtio a chadw gweithwyr yn y diwydiant a'r sector
11. y tueddiadau a'r datblygiadau yn y sector sy'n berthnasol i gynllunio'r gweithlu
12. y ddeddfwriaeth, y rheoliadau a'r codau ymarfer sy'n berthnasol yn y diwydiant a'r sector
13. diwylliant ac arferion gwaith y diwydiant a'r sector
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
14. yr unigolion yn eich sefydliad, eu rolau, eu cyfrifoldebau, eu cymwyseddau a'u potensial
15. yr adnoddau arbenigol mewnol ac allanol sydd ar gael ar gyfer cynllunio'r gweithlu a sut i'w defnyddio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Dadansoddi
- Cyfathrebu
- Trefniadau wrth gefn
- Gwneud penderfyniadau
- Gwerthuso
- Rheoli gwybodaeth
- Monitro
- Cynllunio
- Blaenoriaethu
- Adolygu
- Adeiladu senarios
- Meddwl yn greadigol
- Meddwl yn strategol