Rheoli gwelliant parhaus ym mherfformiad cyffredinol eich sefydliad
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli'r gwaith o wella perfformiad cyffredinol eich sefydliad yn barhaus. Rydych chi'n sefydlu systemau i fesur perfformiad sefydliadol a chreu cynlluniau gweithredu i wneud gwelliannau, gan gasglu adborth a syniadau gan gydweithwyr a chwsmeriaid. Mae'r pwyslais ar nodi a rhoi newidiadau ar waith fydd yn ychwanegu gwerth yng ngolwg cwsmeriaid a rhanddeiliaid allweddol eraill.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ymgysylltu â chydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol wrth reoli gwelliant parhaus
- nodi mesurau dilys a dibynadwy ar gyfer gwerthuso perfformiad eich sefydliad
- sefydlu systemau ar gyfer casglu ac asesu gwybodaeth am berfformiad cyffredinol y sefydliad
- nodi achos ac effeithiau problemau a newidiadau
- nodi cyfleoedd lle gellir gwella perfformiad gan ddefnyddio gwybodaeth am berfformiad cyffredinol y sefydliad
- sefydlu diwylliant sefydliadol lle mae gan bobl rwydd hynt i wneud awgrymiadau ar gyfer gwelliannau
- annog cwsmeriaid, cyflenwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill i roi adborth ar berfformiad eich sefydliad ac awgrymu gwelliannau
- meincnodi perfformiad eich sefydliad yn erbyn sefydliadau tebyg eraill
- nodi gwelliannau sydd o fudd i'ch sefydliad, ei gwsmeriaid a rhanddeiliaid allweddol eraill
- creu cynlluniau gweithredu yn seiliedig ar adborth a'r canfyddiadau meincnodi
- cytuno ar gamau gwella parhaus gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
- rhoi camau ar waith i wella perfformiad sefydliadol
- rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth o sut mae gwelliannau wedi cael eu gwneud ar draws eich sefydliad, neu sut gellir gwneud y gwelliannau hyn
- gwneud yn siŵr bod unrhyw welliannau a wneir yn cyd-fynd â gweledigaeth ac amcanion y sefydliad
- dangos bod y gwelliannau a wnaed yn lleihau'r bwlch rhwng yr hyn y mae eich cwsmeriaid a'ch rhanddeiliaid allweddol ei eisiau, a'r hyn y mae cynhyrchion, gwasanaethau a phrosesau eich sefydliad yn ei gyflawni
- dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal i reoli gwelliant parhaus
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. sut i gynnwys cydweithwyr a rhanddeiliaid eraill wrth reoli gwelliant parhaus
2. yr egwyddorion sy'n cefnogi gwelliant sefydliadol
3. sut i sefydlu systemau a mesurau ar gyfer casglu ac asesu gwybodaeth am berfformiad cyffredinol y sefydliad a sut i ddefnyddio'r canfyddiadau i nodi cyfleoedd lle gellir gwella perfformiad sefydliadol.
4. sut i feincnodi perfformiad eich sefydliad yn erbyn sefydliadau eraill a chymryd camau yn seiliedig ar y canfyddiadau
5. pwysigrwydd cael adborth gan gwsmeriaid a chyflenwyr ar berfformiad eich sefydliad, a sut i gael yr adborth hwn a'i ddadansoddi
6. pwysigrwydd meithrin diwylliant sy'n gwella'n barhaus a sut i gynnwys eraill wrth gyflawni hyn
7. pwysigrwydd darganfod achos ac effeithiau problemau a newidiadau
8. y ffyrdd o fesur effaith gwelliannau
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
9. yr ystod o ffynonellau gwybodaeth a thechnegau ar gyfer casglu gwybodaeth sy'n berthnasol i'r sector y mae eich sefydliad yn gweithio ynddo
10. y tueddiadau a'r datblygiadau yn y sector sy'n gysylltiedig â gwelliant parhaus
11. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal i reoli gwelliant parhaus
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
12. gweledigaeth, amcanion, cynlluniau, strwythur, gwerthoedd, diwylliant a rhanddeiliaid allweddol eich sefydliad
13. sut mae eich sefydliad yn ychwanegu gwerth trwy ddarparu ei gynhyrchion, gwasanaethau a phrosesau
14. cwsmeriaid eich sefydliad a gwerth diwylliant sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf
15. y mesurau perfformiad sy'n berthnasol i'ch sefydliad
16. y ffynonellau gwybodaeth ffurfiol ac anffurfiol sy'n berthnasol i'ch sefydliad a sut i gasglu gwybodaeth addas
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Dadansoddi
- Meincnodi
- Cyfathrebu
- Gwneud penderfyniadau
- Gwerthuso
- Rheoli gwybodaeth
- Cynnwys eraill
- Arwain
- Cynllunio
- Cyflwyno gwybodaeth
- Blaenoriaethu
- Meddwl yn strategol
- Meddwl yn systematig
- Meddwl gyda phwyslais ar gwsmeriaid
- Gwerthfawrogi aelodau staff a'u cefnogi