Cynllunio newid yn eich amgylchedd gwaith
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio newid yn eich amgylchedd gwaith. Rydych chi'n ymgysylltu â gweithwyr a rhanddeiliaid eraill ac yn asesu'r bwlch rhwng sefyllfaoedd ar hyn o bryd a sefyllfaoedd yn y dyfodol. Rydych chi'n nodi rhwystrau i newid ac yn cynllunio dulliau i'w goresgyn. Mae'r safon yn cynnwys cynllunio gweithgareddau parhad busnes a strategaethau cyfathrebu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid. Rydych hefyd yn nodi newid mewn rolau a chyfrifoldebau yn ogystal â'r hyfforddiant a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar weithwyr a chydweithwyr. Rydych chi'n cyfleu eich cynlluniau i newid i egluro sut mae gwahanol randdeiliaid yn cael eu heffeithio ac yn goresgyn anawsterau wrth gynllunio. Rydych hefyd yn monitro ymgysylltiad â'r rhaglen newid ac yn cydnabod cyfraniadau a chydweithrediad y rhai sy'n cymryd rhan. Rydych chi'n gwerthuso'r broses i nodi gwelliannau i newidiadau sefydliadol yn y dyfodol.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- amlinellu'r prosesau, y systemau, y strwythurau, y rolau neu'r diwylliannau y mae angen eu newid gyda rhanddeiliaid
- asesu'r bwlch rhwng y sefyllfa ohoni a'r sefyllfa fydd ei hangen yn y dyfodol
- nodi rhwystrau i newidiadau
- datblygu cynllun i gyflawni'r newidiadau gofynnol y cytunwyd arnynt
- cytuno ar feini prawf gwerthuso i fesur llwyddiant prosesau newid gyda rhanddeiliaid
- nodi rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr sy'n ymwneud â'r newidiadau neu sydd wedi'u heffeithio ganddynt
- cynllunio ar gyfer parhad gweithgareddau busnes yn ystod y cyfnod o newidiadau
- gwerthuso'r risgiau sy'n gysylltiedig â chynlluniau a datblygu trefniadau wrth gefn
- nodi sut a phryd y bydd cynnydd yn cael ei fonitro yn erbyn y cynlluniau
- datblygu strategaethau cyfathrebu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gydweithwyr a rhanddeiliaid am y cynnydd
- cyflwyno cynlluniau ar gyfer newid gan ddefnyddio offer priodol i werthuso eu heffaith
- gofyn i weithwyr a rhanddeiliaid roi adborth ar newidiadau
- gofyn i weithwyr a rhanddeiliaid awgrymu arloesiadau a gwelliannau i gynhyrchion, gwasanaethau, prosesau, systemau, strwythurau, rolau a diwylliannau
- cyfleu'r achos busnes dros newidiadau, gan nodi'r manteision, y costau a'r risgiau
- rhoi cyfleoedd i weithwyr a rhanddeiliaid eraill drafod achosion busnes dros newid, rhoi adborth, mynegi unrhyw bryderon a gwneud awgrymiadau
- cynllunio newidiadau, gan nodi rolau a chyfrifoldebau
- gwerthuso sut bydd y newidiadau yn effeithio ar weithwyr a rhanddeiliaid eraill
- lliniaru ar gyfer newid a deall y gwahaniaethau rhwng newid a rheoli argyfwng
- nodi'r hyfforddiant neu'r gefnogaeth sydd ei hangen ar weithwyr a rhanddeiliaid a sut a phryd y rhoddir y rhain
- cyfathrebu â gweithwyr a rhanddeiliaid eraill ynghylch prosesau newid, gan nodi sut mae'n effeithio arnynt ac unrhyw gamau sy'n ofynnol ganddynt
- trafod cynnydd cynlluniau, goresgyn anawsterau a gwahodd awgrymiadau ar gyfer gwelliannau
- monitro ymgysylltiad â'r prosesau cynllunio newid a'r ymatebion iddynt
- rhoi hyfforddiant, cefnogaeth ac anogaeth i gydweithwyr
- cydnabod cyfraniadau a chydweithrediad y rhai sy'n cymryd rhan ac sy'n cael eu heffeithio gan y newid
- gwerthuso profiad gweithwyr o'r broses cynllunio newid a defnyddio'r gwersi a ddysgwyd i wella prosesau newid yn y dyfodol
- dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. y prif fodelau a dulliau rheoli newid sefydliadol, a'u cryfderau a'u gwendidau, a sut i ddewis dull sy'n cyd-fynd â newid sefydliadol diffiniedig
2. theori timau, gan gynnwys technegau adeiladu tîm a sut i'w defnyddio wrth ymgysylltu â gweithwyr a rhanddeiliaid i gynllunio newid sefydliadol a'i gyflwyno
3. sut i ddatblygu a sicrhau consensws ar feini prawf ar gyfer gwerthuso llwyddiant y broses newid gyda rhanddeiliaid
4. sut i asesu'r risgiau a'r manteision sy'n gysylltiedig â strategaethau a chynlluniau newid
5. pwysigrwydd cynlluniau wrth gefn a sut i ddatblygu hyn yn effeithiol
6. y rhwystrau i newid, a'r technegau sy'n delio â'r rhain
7. yr ystod o ddisgwyliadau rhanddeiliaid a sut maent yn dylanwadu ar y broses
8. sut i gynnwys gweithwyr a rhanddeiliaid eraill mewn prosesau newid
9. egwyddorion a dulliau cyfathrebu effeithiol a sut i'w cymhwyso
10. sut i annog pobl i roi adborth ac ymateb yn briodol iddo
11. sut i nodi anghenion hyfforddi unigol a rhoi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar bobl i ymdopi â newid
12. egwyddorion, dulliau, offer a thechnegau monitro a gwerthuso
13. sut i werthuso profiad pobl o newid a nodi'r gwersi i'w dysgu
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
14. safle eich sefydliad yn ei sector a'i amgylchedd gweithredu ar hyn o bryd, o'i gymharu â'i brif gystadleuwyr, sy'n berthnasol i raglenni newid
15. yr ystod o ffynonellau gwybodaeth sy'n berthnasol i'r sector, a sectorau cysylltiedig, y mae eich sefydliad yn gweithredu ynddynt
16. y tueddiadau a'r datblygiadau cyfredol a rhai sy'n dod i'r amlwg yn eich sector
17. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
18. yr unigolion ym maes eich gwaith, eu rolau, cyfrifoldebau, cymwyseddau a'u potensial
19. diwylliant eich sefydliad, y weledigaeth ar gyfer y dyfodol, rhesymau dros newid, prosesau ymgynghori, y risgiau a'r manteision disgwyliedig
20. y gweithgareddau sy'n hanfodol i fusnes, ffactorau sy'n dibynnu ar ei gilydd, ffactorau y mae angen eu newid, a'r blaenoriaethau cysylltiedig a'r rhesymau drostynt
21. sianelau cyfathrebu ffurfiol ac anffurfiol eich sefydliad
22. y fframweithiau rheoli newid a'r dulliau a ddefnyddir yn eich sefydliad
23. sut i liniaru newid a'r gwahaniaethau rhwng rheoli newid a rheoli argyfwng
24. yr achos busnes dros newid yn eich sefydliad, gan gynnwys technegau dadansoddi cost a manteision
25. y gwahanol rwystrau i newid yn eich sefydliad
26. rhanddeiliaid eich sefydliad, eu buddiannau a'u disgwyliadau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Dadansoddi
- Asesu
- Cyfathrebu
- Ymgynghori
- Trefniadau wrth gefn
- Gwneud penderfyniadau
- Dangos empathi
- Grymuso
- Gwerthuso
- Dylanwadu
- Rheoli gwybodaeth
- Arloesi
- Cynnwys eraill
- Monitro
- Cyd-drafod
- Cael adborth
- Argyhoeddi
- Cyflwyno gwybodaeth
- Cynllunio
- Datrys problemau
- Myfyrio
- Adrodd
- Rheoli risg
- Rheoli Straen
- Adeiladu Tîm
- Meddwl yn systematig
- Gwerthfawrogi eraill a'u cefnogi