Nodi a gwerthuso cyfleoedd i arloesi a gwella
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â nodi a gwerthuso cyfleoedd i arloesi a gwella. Rydych chi'n cydweithredu â chydweithwyr ac aelodau'r tîm i nodi cyfleoedd i ddatblygu cynhyrchion neu wasanaethau, marchnadoedd neu brosesau newydd a phresennol. Mae'r safon yn cynnwys monitro tueddiadau a datblygiadau, gan gynnwys meincnodi eich sefydliad yn erbyn sefydliadau eraill tebyg. Rydych chi'n deall sut mae'r diwylliant sefydliadol yn effeithio ar arloesedd. Rydych yn gwerthuso datblygiadau arloesol a gwelliannau yn erbyn meini prawf y cytunwyd arnynt, gan gyflwyno canfyddiadau i randdeiliaid. Rydych hefyd yn cymryd camau i amddiffyn hawliau eiddo deallusol pan fo angen.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. nodi cyfleoedd i arloesi a gwella trwy gydweithredu â chydweithwyr ac aelodau'r tîm
2. nodi syniadau newydd posibl mewn cydweithrediad ag arbenigwyr allanol a sefydliadau eraill
3. monitro tueddiadau a datblygiadau yn amgylchedd gweithredu eich sefydliad
4. monitro perfformiad cynhyrchion, gwasanaethau a phrosesau eich sefydliad
5. meincnodi cynhyrchion a gwasanaethau eich sefydliad gyda sefydliadau tebyg
6. datblygu cynhyrchion, gwasanaethau, marchnadoedd neu brosesau newydd posibl
7. rheoli gwelliannau i gynhyrchion, gwasanaethau a phrosesau presennol
8. annog, cynhyrchu a chydnabod atebion dychmygus ac arloesol gan gydweithwyr ac aelodau'r tîm
9. cytuno ar feini prawf clir ar gyfer gwerthuso arloesiadau a gwelliannau posibl gyda rhanddeiliaid allweddol
10. casglu digon o wybodaeth ddilys i allu gwerthuso datblygiadau arloesol a gwelliannau posibl
11. casglu, storio ac adfer gwybodaeth o fewn y gyllideb a'r amserlenni y cytunwyd arnynt
12. gwerthuso datblygiadau arloesol a gwelliannau yn erbyn meini prawf y cytunwyd arnynt
13. cyflwyno canfyddiadau eich gwerthusiad i randdeiliaid allweddol i'w helpu i werthfawrogi gwerth posibl arloesiadau a gwelliannau
14. cyfleu eich gwerthusiad i gydweithwyr ac aelodau'r tîm i atgyfnerthu eu hymrwymiad i chwilio am gyfleoedd i arloesi a gwella
15. amddiffyn hawliau eiddo deallusol arloesiadau trwy weithredu, lle bo angen
16. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i'ch rôl wrth nodi cyfleoedd i arloesi a gwella
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. sut i gynnwys gweithwyr a rhanddeiliaid wrth nodi a gwerthuso cyfleoedd i arloesi a gwella
2. sut mae diwylliant sefydliadol yn effeithio ar arloesedd
3. egwyddorion monitro a'r dulliau, yr offer a'r technegau y gellir eu defnyddio
4. egwyddorion meincnodi, a'r dulliau, yr offer a'r technegau sy'n cefnogi hyn
5. yr ystod o fethodolegau, offer a thechnegau rheoli newid sydd ar gael
6. sut i ddatblygu a chael consensws ar feini prawf ar gyfer gwerthuso datblygiadau arloesol a gwelliannau posibl
7. sut i gasglu a dilysu gwybodaeth i werthuso datblygiadau arloesol a gwelliannau yn erbyn meini prawf
8. egwyddorion, dulliau, offer a thechnegau arloesi a sut i amddiffyn yr hawliau eiddo deallusol
9. sut i werthuso datblygiadau arloesol a gwelliannau a chyflwyno canfyddiad i randdeiliaid
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
10. y tueddiadau a'r datblygiadau cyfredol a rhai sy'n dod i'r amlwg yn eich sector
11. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
12. y cydweithwyr ac aelodau'r tîm ym maes eich gwaith, eu rolau, cyfrifoldebau, cymwyseddau a'u potensial
13. y ffactorau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, technolegol, cyfreithiol ac amgylcheddol sy'n effeithio ar eich sefydliad
14. yr arbenigwyr allanol a sefydliadau eraill y gallwch gydweithio â nhw i gynhyrchu a datblygu syniadau
15. amgylchedd gweithredu, prosesau busnes, marchnadoedd, cynhyrchion a gwasanaethau eich sefydliad
16. rhanddeiliaid eich sefydliad, eu buddiannau a'u disgwyliadau
17. y dulliau rheoli newid a ddefnyddir yn eich sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Dadansoddi
- Asesu
- Meincnodi
- Creu consensws
- Cyfathrebu
- Ymgynghori
- Grymuso
- Gwerthuso
- Darogan
- Rheoli gwybodaeth
- Arloesi
- Cynnwys eraill
- Monitro
- Rhwydweithio
- Cyflwyno gwybodaeth
- Adeiladu senarios
- Meddwl yn greadigol
- Gwerthfawrogi aelodau staff a'u cefnogi