Defnyddio gwybodaeth i wneud penderfyniadau

URN: INSML014
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli ac Arwain
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 12 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio gwybodaeth i wneud penderfyniadau. Rydych chi'n ymgysylltu â'r cydweithwyr y mae penderfyniadau'n effeithio arnyn nhw a'r cydweithwyr sy'n gallu helpu. Rydych chi'n sefydlu amcanion gwneud penderfyniadau ac yn cytuno ar y rhain gyda phawb o dan sylw. Mae'r safon yn cynnwys cael gwybodaeth i gefnogi'r gwaith o wneud penderfyniadau, eu gwirio, a datrys unrhyw broblemau. Rydych chi'n dod i gasgliadau yn seiliedig ar ddadansoddiad o'r wybodaeth ac yn gwneud penderfyniadau o fewn cwmpas eich awdurdod. Rydych chi'n cael help pan fydd ei angen arnoch chi ac yn trafod eich pryderon pan fyddwch chi'n nodi unrhyw wrthdaro â gwerthoedd a pholisïau sefydliadol.

Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi cydweithwyr a allai gael eu heffeithio gan benderfyniadau a'u buddiannau
  2. ymgysylltu â chydweithwyr sy'n gallu cyfrannu at brosesau gwneud penderfyniadau neu fydd yn cael eu heffeithio gan y penderfyniadau
  3. sefydlu amcanion y penderfyniadau i'w gwneud a'r hyn rydych chi'n ceisio'i gyflawni
  4. gwneud yn siŵr bod pawb o dan sylw yn cytuno â'r amcanion
  5. nodi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud penderfyniadau a lle gellir dod o hyd iddi
  6. cael gwybodaeth i'ch galluogi i wneud penderfyniadau
  7. gwirio'r wybodaeth a gafwyd a'i dibynadwyedd
  8. datrys problemau gyda gwybodaeth annigonol, annibynadwy, gwrthgyferbyniol neu amwys
  9. dadansoddi'r wybodaeth i nodi ffeithiau, patrymau a thueddiadau a allai effeithio ar eich penderfyniadau
  10. nodi'r ystod o opsiynau sy'n agored i chi a'u gwerthuso
  11. dod i gasgliadau a ategir gan ddadleuon a thystiolaeth resymegol, gan nodi'n glir unrhyw ragdybiaethau rydych wedi'u gwneud a risgiau a allai fod yn gysylltiedig
  12. gwneud penderfyniadau yn unol â'ch amcanion, o fewn cwmpas eich awdurdod
  13. gwneud penderfyniadau sy'n cyd-fynd â gwerthoedd, polisïau, canllawiau ac amserlenni eich sefydliad
  14. cael help a chyngor os nad oes gennych wybodaeth ddigonol
  15. dadansoddi'r data i lywio'r broses o wneud penderfyniadau
  16. cyfeirio penderfyniadau sydd y tu allan i faes eich cyfrifoldeb neu gwmpas eich awdurdod
  17. trafod eich penderfyniadau gyda rhanddeiliaid allweddol os ydyn nhw'n debygol o fynd yn groes i werthoedd, polisïau, canllawiau ac amserlenni cyfredol
  18. cyfleu eich penderfyniadau a'ch rhesymeg i gydweithwyr sy'n cael eu heffeithio
  19. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i ddefnyddio gwybodaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol

1.      pwysigrwydd ymgysylltu â'r rhai sy'n gallu cyfrannu neu a allai gael eu heffeithio yn y broses benderfynu, a sut i wneud hynny

2.      pwysigrwydd gosod amcanion ar gyfer y penderfyniad, a sut i'w gwneud yn glir yr hyn y mae'n rhaid i'r penderfyniad ei gyflawni a beth sydd y tu allan i gwmpas y penderfyniad

3.      sut i nodi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud y penderfyniad a sut i gael gafael arni o wahanol ffynonellau

4.      sut i farnu a oes gennych y wybodaeth ofynnol i'ch galluogi i wneud y penderfyniad

5.      sut i nodi a yw gwybodaeth yn annigonol, yn annibynadwy, yn wrthgyferbyniol neu'n amwys, a sut i gywiro hyn o fewn yr amserlenni gofynnol

6.      sut i ddadansoddi gwybodaeth i nodi ffeithiau, patrymau a thueddiadau perthnasol

7.      yr ystod o opsiynau sy'n agored i chi a sut i'w gwerthuso

8.      y cysyniad o wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar ddata

9.      sut i gyfiawnhau eich casgliadau drwy ddefnyddio tystiolaeth i'w cefnogi

10.  pwysigrwydd gwneud yn siŵr bod eich penderfyniadau yn cyd-fynd â gwerthoedd, polisïau, canllawiau ac amserlenni eich sefydliad

11.  pwysigrwydd dangos unrhyw ragdybiaethau rydych wedi'u gwneud a risgiau a allai fod yn gysylltiedig, a sut i wneud hynny

12.  sut i gyfleu eich penderfyniad i wahanol gynulleidfaoedd

Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector

13.  gofynion y diwydiant a'r sector ar gyfer defnyddio gwybodaeth i wneud penderfyniadau

14.  y codau ymarfer a pholisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i ddefnyddio gwybodaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol

15.  y cydweithwyr sy'n gallu cyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau neu fydd yn cael eu heffeithio gan y penderfyniad

16.  y ffeithiau, y patrymau a'r tueddiadau yn eich sefydliad a allai effeithio ar eich penderfyniad

17.  gwerthoedd, polisïau, canllawiau ac amserlenni eich sefydliad mewn cysylltiad â'ch penderfyniadau

18.  cwmpas eich awdurdod ar gyfer gwneud penderfyniadau, pryd y mae angen i chi gyfeirio penderfyniadau at rywun arall, a'r cydweithwyr y gallai fod angen i chi gyfeirio atynt

19.  y camau i'w cymryd os nad oes gennych y wybodaeth ofynnol, os yw'r penderfyniad y tu allan i faes eich cyfrifoldeb, neu os yw eich penderfyniadau'n mynd yn groes i werthoedd, polisïau, canllawiau ac amserlenni gofynnol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. Gweithredu'n bendant
  2. Dadansoddi
  3. Asesu
  4. Cyfathrebu
  5. Gwneud penderfyniadau
  6. Gwerthuso
  7. Rheoli gwybodaeth
  8. Cynnwys cydweithwyr
  9. Blaenoriaethu
  10. Datrys problemau
  11. Gosod amcanion
  12. Rheoli amser

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAM&LEC5

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion

Cod SOC

1114

Geiriau Allweddol

Rheoli ac arwain; gwneud penderfyniadau