Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol, rheoliadol, moesegol a chymdeithasol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol, rheoliadol, moesegol a chymdeithasol eich sefydliad. Rydych chi'n monitro cydymffurfiaeth eich sefydliad â gofynion penodol a'r effaith, gan ddatblygu polisïau a gweithdrefnau i gefnogi'r broses. Rydych hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi polisïau ar waith ac yn rhoi cefnogaeth i gydweithwyr. Rydych chi'n nodi risgiau, peryglon a phryderon moesegol, gan weithredu i gywiro unrhyw achosion o fethu â chydymffurfio ac osgoi eu hailadrodd. Mae'r safon hefyd yn cynnwys rhoi gwybodaeth i gefnogi cydymffurfiaeth ac adrodd i randdeiliaid.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. monitro gofynion cyfreithiol, rheoliadol, moesegol a chymdeithasol cenedlaethol a rhyngwladol a'r effaith y maent yn ei chael ar eich sefydliad
2. gwerthuso beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn bodloni gofynion cyfreithiol, rheoliadol, moesegol a chymdeithasol cenedlaethol a rhyngwladol
3. datblygu polisïau a gweithdrefnau i sicrhau bod eich sefydliad yn bodloni'r holl ofynion
4. gwneud yn siŵr bod cydweithwyr yn deall polisïau a gweithdrefnau sefydliadol a phwysigrwydd eu rhoi ar waith
5. monitro'r ffordd y mae polisïau a gweithdrefnau yn cael eu rhoi ar waith a rhoi cefnogaeth
6. cefnogi cydweithwyr neu aelodau'r tîm i roi gwybod am unrhyw bryderon ynghylch peidio â bodloni'r gofynion
7. nodi risgiau a pheryglon posibl
8. nodi a mynegi pryderon moesegol gyda chydweithwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
9. nodi achosion o fethu â fodloni'r gofynion a'u cywiro
10. nodi rhesymau dros beidio â bodloni gofynion
11. annog eraill i rannu gwybodaeth o fewn cyfyngiadau cyfrinachedd
12. addasu polisïau a gweithdrefnau i leihau'r tebygolrwydd o fethu â bodloni gofynion yn y dyfodol
13. gwneud penderfyniadau anodd neu amhoblogaidd pan fo angen i sicrhau cydymffurfiaeth
14. darparu adroddiadau llawn i randdeiliaid allweddol am unrhyw achosion o fethu â bodloni'r gofynion
15. rhoi gwybodaeth i ategu cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol, rheoliadol, moesegol a chymdeithasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. pwysigrwydd cael dull llywodraethu moesegol ac sy'n seiliedig ar werth a sut i roi hyn ar waith
2. y gofynion cyfreithiol sy'n llywodraethu sut mae sefydliadau'n cael eu rhedeg
3. yr agweddau cymdeithasol cyfredol ac sy'n dod i'r amlwg tuag at arferion rheoli ac arwain a phwysigrwydd bod yn ymwybodol o'r rhain
4. y ffyrdd y mae sefydliadau eraill yn delio â phryderon a disgwyliadau cymdeithasol cyfredol a'r rhai sy'n dod i'r amlwg
5. sut i nodi risgiau a pheryglon posibl sy'n gysylltiedig â gofynion cyfreithiol, rheoliadol, moesegol a chymdeithasol
6. y ffyrdd y gellir nodi pryderon moesegol a'u mynegi
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
7. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal (cenedlaethol a rhyngwladol)
8. y pryderon a'r disgwyliadau cymdeithasol cyfredol a'r rhai sy'n dod i'r amlwg yn eich sector
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
9. diwylliant a gwerthoedd y sefydliad a'r effaith y mae'r rhain yn ei gael ar lywodraethu corfforaethol
10. y polisïau a'r gweithdrefnau sefydliadol sy'n cefnogi cydweithwyr i fodloni'r gofynion a nodwyd
11. y gefnogaeth sydd ar gael i alluogi cydweithwyr i roi gwybod am bryderon ynghylch peidio â bodloni gofynion
12. y prosesau ar gyfer cynnal polisïau a gweithdrefnau, a'r cydweithwyr dan sylw
13. pwysigrwydd gwneud yn siŵr bod polisïau a gweithdrefnau yn parhau i fod yn effeithiol
14. y gwahanol ffyrdd na fydd cydweithwyr neu aelodau'r tîm yn bodloni'r gofynion o bosibl, a'r risgiau y bydd y hyn yn digwydd
15. y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer delio â chydweithwyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion, a sut y rhoddir gwybod am y rhain
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Dadansoddi
- Asesu
- Cyfathrebu
- Gwneud penderfyniadau
- Rheoli gwybodaeth
- Cynnwys eraill
- Arwain
- Monitro
- Yn ysgogi
- Cyflwyno gwybodaeth
- Rhoi adborth
- Adrodd
- Rheoli risg
- Gwerthfawrogi aelodau staff a'u cefnogi