Rheoli Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR)
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR). Rydych chi'n adolygu ac yn datblygu polisi ac amcanion CSR eich sefydliad gyda rhanddeiliaid. Rydych hefyd yn gwerthuso'r effaith y mae eich sefydliad yn ei chael ar yr amgylchedd, cynaliadwyedd, y gymuned leol a'r gymdeithas ehangach i nodi sut y gall ddod yn fwy buddiol. Rydych chi'n gwirio bod y polisi CSR yn cyd-fynd â gweithgareddau busnes ac yn cyfleu'r manylion i randdeiliaid. Mae'r safon yn cynnwys cefnogi mentrau sy'n creu gwerth i'ch sefydliad, monitro cydymffurfiaeth â'r polisi CSR, a diffinio camau i sicrhau bod amcanion yn cael eu cyflawni. Rydych chi'n cyfleu cynnydd a chyflawniadau i randdeiliaid ac yn diwygio'r polisi ar ôl cael adborth ac yn sgîl newidiadau yn yr amgylchedd gweithredu.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adolygu polisi ac amcanion CSR eich sefydliad trwy ymgysylltu â chydweithwyr a rhanddeiliaid
- datblygu polisi ac amcanion CSR eich sefydliad trwy gydweithio â chydweithwyr
- gwerthuso effaith eich sefydliad ar yr amgylchedd, cynaliadwyedd, y gymuned leol a chymdeithas yn gyffredinol
- nodi ffyrdd y gall effaith eich sefydliad fod yn fwy buddiol
- gwneud yn siŵr bod eich polisi a'ch amcanion CSR yn adlewyrchu gweledigaeth a gwerthoedd eich sefydliad a'i gyfrifoldebau cyfreithiol, moesegol, cymdeithasol ac amgylcheddol
- cyfleu eich polisi CSR a'i fuddion i gydweithwyr a rhanddeiliaid
- gwneud yn siŵr bod gweithgareddau busnes arferol eich sefydliad yn cydymffurfio â'ch polisi CSR (cyflogaeth, dethol cydweithredwyr, cyflenwyr, defnyddio adnoddau, iechyd a diogelwch)
- cefnogi cynlluniau sy'n creu gwerth a rennir i'ch sefydliad, y gymuned a'r amgylchedd cymdeithasol a ffisegol ehangach
- monitro cydymffurfiaeth â'ch polisi CSR a chynnydd tuag at ei amcanion
- diffinio gweithredoedd i wneud yn siŵr bod amcanion yn cael eu cyflawni
- rhoi cyngor, arweiniad a chefnogaeth, pan fo angen, er mwyn cyflawni amcanion CSR
- adrodd ar gynnydd tuag at gyflawni eich amcanion CSR i randdeiliaid a gofyn am adborth
- cyfleu cyflawniad eich amcanion CSR i randdeiliaid
- adolygu polisi ac amcanion CSR eich sefydliad, gan ddefnyddio canlyniadau, adborth gan randdeiliaid a newidiadau yn yr amgylchedd gweithredu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. yr ystod o egwyddorion, dulliau, offer a thechnegau cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol (CSR)
2. sut i gynnwys ystod o randdeiliaid ym maes CSR gan gynnwys cydweithwyr, cwsmeriaid, buddsoddwyr, cyflenwyr, cymunedau, rheoleiddwyr, grwpiau diddordeb arbennig a chymdeithas
3. sut i fesur effaith eich sefydliad ar yr amgylchedd, y gymuned leol a chymdeithas
4. egwyddorion a dulliau cyfathrebu a thrafod effeithiol, a sut i'w defnyddio wrth gydweithio â chydweithwyr a rhanddeiliaid
5. y gwahanol egwyddorion, dulliau a thechnegau adeiladu consensws
6. egwyddorion cynaliadwyedd
7. sut i fonitro cydymffurfiad â'r polisi CSR
8. sut i roi'r cyngor, yr arweiniad a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar bobl
9. sut i werthuso effeithiolrwydd polisi CSR
10. sut i adrodd ar gyflawni amcanion CSR, a chynnydd tuag eu cyflawni
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
11. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
12. y cydweithwyr ym maes eich gwaith, eu rolau, cyfrifoldebau, cymwyseddau a'u potensial
13. cyfrifoldebau cyfreithiol, moesegol, cymdeithasol ac amgylcheddol eich sefydliad
14. rhanddeiliaid eich sefydliad, eu buddiannau a'u disgwyliadau
15. gwerthoedd, gweledigaeth, gweithgareddau ac amgylchedd gweithredu eich sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Asesu
- Cydbwyso anghenion a buddiannau sy'n cystadlu â'i gilydd
- Creu consensws
- Cyfathrebu
- Ymgynghori
- Gwerthuso
- Dylanwadu
- Ysbrydoledig
- Cynnwys eraill
- Arwain
- Monitro
- Rhwydweithio
- Argyhoeddi
- Cyflwyno gwybodaeth
- Adrodd
- Adolygu
- Gosod amcanion