Datblygu cynlluniau gweithredol a rheoli risgiau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu cynlluniau gweithredol a rheoli risgiau yn eich sefydliad. Rydych chi'n datblygu cynlluniau gweithredol sy'n cyd-fynd â gwerthoedd a strategaeth sefydliadol trwy gydweithredu â chydweithwyr a rhanddeiliaid. Rydych chi'n nodi'r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni cynlluniau gweithredol a'u cyfleu i sicrhau ymrwymiad. Rydych chi'n nodi gweithgareddau rheoli risg gan gynnwys diffinio meini prawf risg ar gyfer eich sefydliad. Rydych hefyd yn gwerthuso gweithgareddau sefydliadol cyfredol ac yn cynllunio'r rhain i nodi risgiau i gynhyrchu proffil risg. Mae'r safon yn cynnwys cefnogi cydweithwyr i integreiddio elfen rheoli risg mewn gweithgareddau strategol a gweithredol, a gwerthuso sut yr ymdriniwyd â risgiau a nodwyd.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- datblygu cynlluniau gweithredol mewn cydweithrediad â chydweithwyr o faes eich cyfrifoldeb a rhanddeiliaid allweddol eraill
- datblygu cynlluniau gweithredol sy'n cyd-fynd â gwerthoedd a strategaeth sefydliadol ac amcanion penodol maes eich cyfrifoldeb
- nodi synergeddau â meysydd eraill yn y sefydliad wrth ddatblygu cynlluniau gweithredol
- cymharu dulliau arloesol ac atebion sydd wedi'u profi wrth ddatblygu cynlluniau
- nodi'r adnoddau sy'n ofynnol a'u hargaeledd nawr ac yn y dyfodol
- diffinio dangosyddion a dulliau monitro a gwerthuso'r cynlluniau
- cyfleu cynlluniau gweithredol i sicrhau ymrwymiad cydweithwyr a chefnogaeth rhanddeiliaid allweddol eraill
- adolygu cynlluniau gweithredol, yng ngoleuni newidiadau i'r strategaeth sefydliadol a'r amgylchedd gweithredu
- nodi gweithgareddau rheoli risg sy'n ystyried maint a natur eich sefydliad
- datblygu polisi rheoli risg ysgrifenedig eich sefydliad, gan gynnwys datganiad o'r risg yr ydych yn fodlon ei gymryd a chyfrifoldebau dros reoli risg
- cadarnhau bod y rheolwyr yn cefnogi polisi rheoli risg eich sefydliad a'i fod yn cael ei gyfathrebu'n glir ar draws y sefydliad ac i randdeiliaid eraill
- diffinio meini prawf risg ar gyfer eich sefydliad, a'u hadolygu nawr ac yn y man, gan ystyried barn pobl berthnasol ar draws y sefydliad a rhanddeiliaid
- gwerthuso gweithgareddau sefydliadol cyfredol ac sydd wedi'u cynllunio i nodi risgiau posibl, natur y risgiau, pa mor debygol y maent o ddigwydd a'r goblygiadau
- cynhyrchu proffil risg ar gyfer eich sefydliad gan ystyried meini prawf risg eich sefydliad a gwybodaeth berthnasol arall
- blaenoriaethu risgiau a nodwyd gan ddilyn gweithdrefnau eich sefydliad
- cyfleu gwybodaeth am risg i gydweithwyr a rhanddeiliaid fel bod modd gwneud penderfyniadau a chymryd camau o ran derbyn y risgiau neu eu trin
- dyrannu adnoddau i allu rheoli risg yn effeithiol
- cefnogi cydweithwyr i integreiddio rheoli risg yn rhan o gynlluniau a gweithgareddau strategol a gweithredol
- casglu gwybodaeth am sut yr aethpwyd i'r afael â risgiau a nodwyd, neu beth sy'n cael ei wneud yn eu cylch ar hyn o bryd, gan gynnwys cynlluniau wrth gefn sydd wedi'u rhoi ar waith
- datblygu diwylliant sefydliadol lle mae pobl yn ymwybodol o risg ond yn barod i gymryd risgiau derbyniol a gwneud camgymeriadau neu ddysgu o ganlyniad i'w gwneud
- gofyn am gefnogaeth arbenigol ar faterion rheoli risg, lle bo angen
- cynnal y broses rheoli risg yn eich sefydliad, gan nodi gwelliannau posibl a gwneud newidiadau lle bo angen
- dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i'ch rôl wrth ddatblygu cynlluniau gweithredol a rheoli risgiau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. sut i gynnwys gweithwyr a rhanddeiliaid mewn prosesau cynllunio gweithredol
2. egwyddorion a dulliau cynllunio tymor byr i ganolig a sut i ddatblygu a phenodi amcanion Penodol, Mesuradwy, Cyraeddadwy, Realistig ac â Therfyn Amser (CAMPUS)
3. sut i ddadansoddi a rheoli risgiau trwy baratoi cynlluniau wrth gefn
4. sut i nodi pa adnoddau syn ofynnol a gwerthuso a ydynt ar gael a'u cynaliadwyedd
5. y safonau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol ym maes rheoli risg
6. y gwahanol fathau o risgiau a'r ffactorau sy'n gyrru gwahanol fathau o risgiau
7. y camau allweddol yn y broses rheoli risg, gan gynnwys datblygu polisi rheoli risg ysgrifenedig a'r hyn y dylai ei gwmpasu yn ogystal ag offer, technegau a dangosyddion rheoli risg
8. sut i gyfleu'r polisi rheoli risg ysgrifenedig i gydweithwyr a rhanddeiliaid perthnasol eraill
9. beth allai gael ei gynnwys gan feini prawf risg, gan gynnwys pwysigrwydd ceisio barn cydweithwyr a rhanddeiliaid a'u hystyried
10. y ffyrdd o nodi risgiau posibl a'u disgrifio'n glir mewn perthynas â gweithgareddau cyfredol ac a gynlluniwyd, natur y risgiau, pa mor debygol yr ydynt o ddigwydd, a goblygiadau
11. y mathau o benderfyniadau a chamau gweithredu y gellir eu cymryd mewn perthynas â risgiau a nodwyd
12. pam mae'n bwysig a sut i gasglu a gwerthuso gwybodaeth ar sut yr aethpwyd i'r afael â risgiau a nodwyd, neu beth sy'n cael ei wneud yn eu cylch ar hyn o bryd, gan gynnwys cynlluniau wrth gefn
13. y ffyrdd o ddatblygu diwylliant sefydliadol lle mae cydweithwyr yn ymwybodol o risg ond yn barod i gymryd risgiau derbyniol wrth ymgymryd â gweithgareddau
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
14. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
15. y rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn a'r rhai sy'n cydweithredu â chi yn y sector ar hyn o bryd a'r rhai posibl yn y dyfodol, a'u strategaethau a'u cynlluniau
16. y risgiau nodweddiadol yn y sectorau y mae eich sefydliad yn gweithredu ynddynt
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
17. amgylchedd gweithredu eich sefydliad, y sylfaen wirioneddol a phosibl o gwsmeriaid, cyfleoedd a gweithgareddau sefydliadol cyfredol ac wedi'u cynllunio
18. gweledigaeth a gwerthoedd cyffredinol eich sefydliad a'r amcanion rydych chi'n gyfrifol am eu cyflawni
19. y prosesau ar gyfer ymgysylltu â gweithwyr yn eich sefydliad i bennu eu hanghenion a'u disgwyliadau
20. diwylliant eich sefydliad mewn perthynas â meini prawf risgiau
21. y rhanddeiliaid allweddol sydd â diddordeb mewn rheoli risg yn eich sefydliad
22. y polisi rheoli risg ysgrifenedig a'r meini prawf o ran risgiau
23. proffil risg cyfredol eich sefydliad, risgiau sydd wedi'u blaenoriaethu a'r penderfyniadau a'r camau gweithredu
24. y risgiau posibl a nodwyd, gan gynnwys unrhyw gynlluniau wrth gefn sydd ar waith
25. yr adnoddau sydd ar gael ar draws y sefydliad i gefnogi gwaith rheoli risg
26. ffynonellau cefnogaeth arbenigol ar reoli risg
27. y systemau sydd ar waith ar gyfer monitro ac adolygu effeithiolrwydd y prosesau rheoli risg yn eich sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Asesu
- Creu consensws
- Cyfathrebu
- Ymgynghori
- Trefniadau wrth gefn
- Gwneud penderfyniadau
- Dirprwyo
- Gwerthuso
- Dylanwadu
- Rheoli gwybodaeth
- Arloesi
- Cynnwys eraill
- Monitro
- Argyhoeddi
- Cynllunio
- Cyflwyno gwybodaeth
- Blaenoriaethu
- Myfyrio
- Adolygu
- Rheoli risg
- Gosod amcanion
- Adeiladu senarios
- Meddwl yn systematig
- Meddwl yn feirniadol