Datblygu gweledigaeth, strategaethau a chynlluniau busnes eich sefydliad
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu gweledigaeth, strategaethau a chynlluniau busnes eich sefydliad. Rydych chi'n datblygu gweledigaeth a strategaethau eich sefydliad trwy ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid. Rydych chi'n herio barn er mwyn creu syniadau arloesol a llunio gweledigaeth sy'n cyd-fynd â strategaethau sefydliadol. Rydych chi'n cyfleu'r weledigaeth ac yn ysbrydoli ymrwymiad, gan ddatblygu cynlluniau busnes strategol gydag amcanion wedi'u blaenoriaethu. Rydych hefyd yn datblygu polisïau a gweithdrefnau sy'n cefnogi'r gwaith o weithredu cynlluniau busnes a dulliau monitro a gwerthuso llwyddiant.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. datblygu gweledigaeth a strategaethau eich sefydliad trwy ymgysylltu â'r cyrff llywodraethu, cydweithwyr, partneriaid strategol, cyfranddalwyr, cyflenwyr, cwsmeriaid a'ch cymuned
2. herio barn er mwyn annog, cynhyrchu a chydnabod atebion arloesol
3. llunio gweledigaeth yn seiliedig ar werthusiad o'r amgylchedd gweithredu, gwerthoedd eich sefydliad a disgwyliadau rhanddeiliaid allweddol
4. gwneud yn siŵr bod y weledigaeth yn cyd-fynd â nodau strategol tymor hwy eich sefydliad
5. cyfleu'r weledigaeth i ysbrydoli rhanddeiliaid i ymrwymo i'w chyflawni
6. datblygu cynlluniau busnes strategol trwy ymgysylltu â chydweithwyr a rhanddeiliaid pwysig
7. sefydlu a blaenoriaethu amcanion strategol sy'n cyd-fynd â gweledigaeth a gwerthoedd eich sefydliad
8. nodi rhaglenni gweithgaredd sy'n gallu cyflawni'r amcanion strategol
9. creu cynllun busnes i weithredu amcanion strategol eich sefydliad
10. gwerthuso risgiau posibl a datblygu cynlluniau realistig i reoli risgiau
11. nodi gofynion o ran adnoddau a gwerthuso a ydynt ar gael nawr ac yn y dyfodol
12. datblygu polisïau fydd yn arwain gwaith cydweithwyr tuag at gyflawni gweledigaeth y sefydliad
13. nodi mesurau a dulliau dibynadwy o fonitro a gwerthuso'r cynllun
14. cyfleu'r cynllun busnes strategol i ennill cefnogaeth ac ymrwymiad rhanddeiliaid pwysig
15. cyflwyno syniadau a dadleuon mewn modd argyhoeddiadol i ennyn diddordeb pobl a chreu synnwyr cyffredin o ddiben
16. nodi anghenion a buddiannau rhanddeiliaid a'u rheoli'n effeithiol
17. rhoi cyfeiriad strategol a pharamedrau clir sy'n galluogi rhanddeiliaid i gymhwyso eu hegni a'u harbenigedd yn greadigol i gyflawni'r weledigaeth
18. monitro perfformiad sefydliadol yn erbyn cynlluniau busnes strategol
19. gwerthuso perfformiad sefydliadol yn erbyn cynlluniau busnes strategol
20. chwilio am gyfleoedd i wella eich perfformiad
21. cydbwyso risgiau yn erbyn y buddion a allai ddeillio o fentro
22. adolygu ac ailddiffinio'r weledigaeth, y strategaethau a'r cynllun busnes i adlewyrchu newidiadau yn yr amgylchedd gweithredu
23. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i'ch rôl wrth ddatblygu gweledigaeth, strategaethau a chynlluniau busnes eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. sut i gynnwys cydweithwyr a rhanddeiliaid wrth ddatblygu gweledigaeth, strategaethau a chynlluniau busnes sefydliad
2. sut i lunio gweledigaeth briodol ac effeithiol ar gyfer sefydliad
3. yr egwyddorion a'r dulliau cyfathrebu, a sut i'w cymhwyso
4. lefel y cyfeiriad strategol sydd ei angen ar gydweithwyr ac aelodau'r tîm, a sut i roi'r cyfeiriad hwn mewn ffyrdd sy'n hyrwyddo egni a chreadigrwydd
5. pwysigrwydd cynllunio tymor hir a thymor canolig i lwyddiant sefydliad
6. egwyddorion rheoli strategol a chynllunio busnes, gan gynnwys yr hyn y dylai cynlluniau busnes strategol ei gynnwys
7. pwysigrwydd creadigrwydd ac arloesedd wrth reoli'n strategol
8. sut i nodi risgiau posibl a'u rheoli mewn perthynas â chyflawni amcanion
9. sut i ddatblygu amcanion strategol CAMPUS (Penodol, Mesuradwy, Cyraeddadwy, Realistig ac â Therfyn Amser)
10. sut i ddirprwyo cyfrifoldeb a dyrannu adnoddau i gefnogi cynllun strategol
11. sut i nodi adnoddau cynaliadwy a sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio'n effeithiol i gefnogi cynllun strategol
12. sut i ddatblygu mesurau a dulliau monitro a gwerthuso perfformiad yn erbyn y cynllun busnes strategol
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
13. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
14. y tueddiadau a'r datblygiadau yn eich sector yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
15. y cydweithwyr a'r aelodau tîm allweddol yn eich sefydliad, eu rolau, eu cyfrifoldebau, eu disgwyliadau, eu hanghenion, eu cymwyseddau a'u potensial
16. amgylchedd gweithredu eich sefydliad, eu rhanddeiliaid a'u buddiannau a'u disgwyliadau
17. gwerthoedd, diben a nodau tymor hwy eich sefydliad
18. sylfaen cwsmeriaid wirioneddol a phosibl eich sefydliad a'u hanghenion a'u disgwyliadau
19. eich cystadleuwyr a'ch cydweithwyr gwirioneddol a phosibl, a'u strategaethau a'u cynlluniau
20. y cyfleoedd yn amgylchedd gweithredu eich sefydliad ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol a gallu eich sefydliad i ymateb
21. y prosesau ar gyfer ymgysylltu â gweithwyr a'u cynrychiolwyr yn eich sefydliad
22. y ffynonellau gwybodaeth sefydliadol sy'n gallu cynorthwyo gwaith monitro a gwerthuso
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Dadansoddi
- Creu consensws
- Cyfathrebu
- Ymgynghori
- Gwneud penderfyniadau
- Dirprwyo
- Gwerthuso
- Dylanwadu
- Arloesi
- Cynnwys eraill
- Arwain
- Monitro
- Cael adborth
- Argyhoeddi
- Cynllunio
- Cyflwyno gwybodaeth
- Blaenoriaethu
- Adolygu
- Rheoli risg
- Gosod amcanion
- Meddwl yn greadigol
- Meddwl yn strategol