Gwerthuso amgylchedd gweithredu eich sefydliad
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gwerthuso amgylchedd gweithredu eich sefydliad. Rydych chi'n ymgysylltu â chydweithwyr, aelodau'r tîm a rhanddeiliaid i gefnogi'r gwerthusiad. Rydych hefyd yn monitro tueddiadau a datblygiadau ym meysydd gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, technolegol, cyfreithiol ac amgylcheddol yn ogystal ag anghenion cwsmeriaid i werthuso'r effaith ar eich sefydliad. Rydych chi'n meincnodi perfformiad yn erbyn sefydliadau tebyg ac yn ystyried gallu eich sefydliad i ymateb i gyfleoedd a bygythiadau. Ar ben hynny, rydych chi'n datblygu ac yn cynnal systemau i reoli gwybodaeth ac arbenigedd yn unol â pholisïau sefydliadol, gofynion cyfreithiol a chodau ymarfer.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. ymgysylltu â'ch cydweithwyr ac aelodau'r tîm i gefnogi'r gwaith o werthuso amgylchedd gweithredu eich sefydliad
2. ymgysylltu â rhanddeiliaid i gefnogi'r gwaith o werthuso amgylchedd gweithredu eich sefydliad
3. monitro tueddiadau a datblygiadau ym meysydd gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, technolegol, cyfreithiol ac amgylcheddol a gwerthuso eu heffaith ar eich sefydliad
4. monitro anghenion, ymddygiadau a disgwyliadau cwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid a gwerthuso eu heffaith ar eich sefydliad
5. monitro gweithgareddau partneriaid a chystadleuwyr presennol a phosibl a gwerthuso eu heffaith ar eich sefydliad
6. monitro a gwerthuso effaith tueddiadau a datblygiadau yn eich sefydliad
7. meincnodi perfformiad ac arferion eich sefydliad gyda sefydliadau tebyg yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, lle bo hynny'n briodol
8. cymharu cryfderau a gwendidau eich sefydliad i ymateb i gyfleoedd a bygythiadau yn y gwaith ar hyn o bryd ac yn y dyfodol
9. asesu goblygiadau neu ganlyniadau senarios yn y dyfodol
10. nodi'r rhagdybiaethau a wnaed a'r risgiau dan sylw i ddeall senarios y dyfodol
11. trefnu gwybodaeth mewn ffordd sy'n cefnogi'r gwaith o gynllunio'n strategol a gwneud penderfyniadau
12. strwythuro gwybodaeth i hwyluso'r gwaith o reoli gwybodaeth sefydliadol
13. datblygu systemau i gasglu gwybodaeth o fewn amserlenni a moeseg y cytunwyd arnynt
14. cynnal systemau i reoli gwybodaeth
15. nodi'r ffactorau gwleidyddol mewnol ac allanol sy'n effeithio ar amgylchedd gweithredu eich sefydliad
16. nodi problemau systemig a lliniaru eu heffaith ar berfformiad sefydliadol
17. asesu senarios y dyfodol yn seiliedig ar ddadansoddi tueddiadau a datblygiadau
18. archwilio ac asesu'r ystod o senarios ar gyfer y dyfodol yn yr amgylchedd y mae eich sefydliad yn gweithredu ynddo
19. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i'ch rôl wrth werthuso amgylchedd gweithredu eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. sut i gynnwys cydweithwyr a rhanddeiliaid eraill wrth werthuso amgylchedd gweithredu eich sefydliad
2. y ffynonellau gwybodaeth am gwsmeriaid a chystadleuwyr a sut i'w defnyddio
3. sut i fesur eich perfformiad sefydliadol a'i adolygu
4. sut i ddadansoddi diwylliant sefydliadol ac effaith hyn ar berfformiad
5. sut i feincnodi i nodi ymarfer da mewn perthynas â pherfformiad ac arferion sefydliad
6. sut i gynnal dadansoddiad o gryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau (SWOT)
7. sut i gynnal dadansoddiad o'r ffactorau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, technolegol, cyfreithiol ac amgylcheddol (PESTLE) yn yr amgylchedd allanol
8. sut i ddadansoddi buddiannau rhanddeiliaid
9. sut i adeiladu senarios ar gyfer y dyfodol ac asesu eu goblygiadau
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
10. y ffynonellau gwybodaeth am dueddiadau a datblygiadau yn eich sector, gan gynnwys y rhai ar lefel fyd-eang a sut i gael mynediad at y rhain
11. y patrymau a'r datblygiadau yn eich sector ar hyn o bryd ac sy'n dod i'r amlwg yn rhyngwladol, yn genedlaethol ac yn lleol
12. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
13. strwythur a diwylliant eich sefydliad
14. perfformiad eich sefydliad a'r ffactorau sy'n dylanwadu ar hyn
15. y ffactorau yn y farchnad ryngwladol, genedlaethol a lleol y mae eich sefydliad yn gweithredu ynddynt
16. sylfaen cwsmeriaid bresennol a phosibl eich sefydliad ar y farchnad
17. anghenion a disgwyliadau eich cwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid a rhanddeiliaid eraill
18. cystadleuwyr gwirioneddol a phosibl eich sefydliad, gan gynnwys eu gweithgareddau a lefelau perfformiad cymharol
19. partneriaid gwirioneddol a phosibl eich sefydliad, gan gynnwys eu gweithgareddau a lefelau perfformiad cymharol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Dadansoddi
- Meincnodi
- Cyfathrebu
- Ymgynghori
- Rhoi'r cwsmer yn gyntaf
- Gwneud penderfyniadau
- Gwerthuso
- Rheoli gwybodaeth
- Monitro
- Rhwydweithio
- Cynllunio
- Cyflwyno gwybodaeth
- Adrodd
- Adolygu
- Rheoli risgiau
- Adeiladu senarios
- Meddwl yn feirniadol
- Meddwl yn strategol
- Meddwl yn systematig