Arwain eich sefydliad
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag arwain eich sefydliad. Rydych chi'n rhoi cyfeiriad i gydweithwyr ac aelodau'r tîm yn eich sefydliad trwy gyfathrebu ac atgyfnerthu diben, gwerthoedd a gweledigaeth eich sefydliad. Rydych chi'n ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol ac yn ystyried sut mae eich sefydliad yn effeithio ar yr amgylchedd, y gymuned leol a chymdeithas. Rydych chi'n grymuso, ysbrydoli, cymell a chefnogi cydweithwyr, aelodau'r tîm i gyflawni diben a gweledigaeth eich sefydliad, gan atgyfnerthu gwerthoedd eich sefydliad i feithrin ymddiriedaeth. Rydych chi'n cysgodi arweinwyr eraill a'u harddull, yn ceisio adborth ar eich perfformiad yn rheolaidd ac yn cymryd camau yn unol â hynny.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. diffinio cyfeiriad eich sefydliad trwy ymgysylltu â chydweithwyr, aelodau'r tîm a rhanddeiliaid eraill
2. asesu a dadansoddi tueddiadau, cyfleoedd a risgiau cyfredol i'ch sefydliad
3. cyflwyno canlyniadau eich dadansoddiad i gynrychiolwyr uwch-reolwyr
4. hwyluso trafodaethau gydag uwch-reolwyr i ennill ymrwymiad ac arbenigedd er mwyn cyflawni canlyniadau
5. cyfathrebu ac atgyfnerthu diben, gwerthoedd a gweledigaeth eich sefydliad ar draws y sefydliad
6. cyfleu diben, gwerthoedd a gweledigaeth eich sefydliad i randdeiliaid allanol
7. gwerthuso effaith eich sefydliad ar yr amgylchedd, y gymuned leol a chymdeithas
8. nodi buddion effaith eich sefydliad ar yr amgylchedd, y gymuned leol a chymdeithas
9. datblygu cynlluniau sefydliadol sy'n ategu diben, gwerthoedd a gweledigaeth eich sefydliad
10. nodi manylion penodol sy'n hanfodol i gyflawni'r canlyniadau
11. datblygu dulliau rheoli anawsterau a heriau sefydliadol
12. datblygu ystod o arddulliau arwain a'u defnyddio wrth arwain a rheoli gwahanol randdeiliaid a sefyllfaoedd
13. nodi anghenion a chymhellion cydweithwyr a rhanddeiliaid a'u gwerthuso
14. rhoi cefnogaeth i helpu cydweithwyr i gyflawni eu hamcanion
15. amddiffyn eich cydweithwyr ac aelodau'r tîm rhag effeithiau negyddol
16. cydnabod llwyddiannau a chyflawniadau unigolion a thimau
17. annog cydweithwyr i gymryd cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau a'u hanghenion datblygu eu hunain
18. rhoi cefnogaeth, cyngor ac arweiniad i unigolion a thimau yn ôl yr angen, yn enwedig yn ystod cyfnodau o oedi a newid
19. cymell cydweithwyr, aelodau'r tîm a rhanddeiliaid i gyflwyno eu syniadau eu hunain
20. galluogi cydweithwyr ac aelodau'r tîm i ddatblygu eu ffyrdd eu hunain o weithio o fewn ffiniau y cytunwyd arnynt
21. annog cydweithwyr i arwain pan fydd ganddynt y wybodaeth a'r arbenigedd perthnasol
22. dilyn arweinwyr cymheiriaid eraill a dysgu o'u harbenigedd proffesiynol a'u harddulliau arwain
23. meithrin a chynnal ymddiriedaeth a chefnogaeth ar draws y sefydliad a rhanddeiliaid
24. creu diwylliant ar gyfer eich sefydliad sy'n annog creadigrwydd ac arloesedd trwy osod esiampl
25. gofyn am adborth rheolaidd ar eich perfformiad
26. dadansoddi adborth er mwyn cynllunio gwelliannau i berfformiad personol a'u gweithredu
27. monitro cynnydd gweithgareddau mewn gwahanol feysydd neu adrannau yn eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. sut i gynnwys pobl yn eich sefydliad a rhanddeiliaid allweddol eraill wrth ddiffinio cyfeiriad eich sefydliad ac ymrwymo eu hegni a'u harbenigedd i gyflawni ei ganlyniadau
2. y gwahaniaethau rhwng rheoli ac arwain
3. sut i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer sefydliad sy'n mynd i ennyn brwdfrydedd
4. sut i gynnal asesiad beirniadol o dueddiadau, risgiau a chyfleoedd cyfredol i'ch sefydliad
5. pwysigrwydd gwerthoedd sefydliadol a'u hystyr
6. sut i fesur effaith eich sefydliad ar yr amgylchedd, y gymuned leol a chymdeithas
7. y ffyrdd o sicrhau bod cynlluniau sefydliadol yn ategu diben, gwerthoedd a gweledigaeth y sefydliad
8. sut i ddewis gwahanol ddulliau a thechnegau a'u defnyddio yn llwyddiannus i gyfathrebu â phobl ar draws sefydliad
9. y mathau o heriau ac anawsterau a allai godi a ffyrdd o'u hadnabod a mynd i'r afael â nhw
10. y gwahanol ddamcaniaethau, modelau ac arddulliau arwain a'r effaith y gallant ei chael ar sefydliadau
11. sut i ddewis arddulliau arwain a'u defnyddio gyda gwahanol unigolion a sefyllfaoedd
12. y gwahanol ddulliau a thechnegau ar gyfer cymell, grymuso, gwobrwyo, dylanwadu ac argyhoeddi cydweithwyr a sut i'w defnyddio
13. y gwahanol fathau o ddiwylliant sefydliadol sy'n annog ac yn cydnabod creadigrwydd ac arloesedd
14. sut i gydnabod a datblygu gallu cydweithwyr i arwain a dilyn eu harweiniad
15. y ffynonellau adborth ar sut ydych yn arwain a sut i'w dadansoddi
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
16. yr ystod o arddulliau arwain yn y diwydiant a'r sector
17. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
18. y cydweithwyr a'r aelodau tîm allweddol yn eich sefydliad, eu rolau, eu cyfrifoldebau, eu cymwyseddau a'u potensial
19. eich gwerthoedd, eich cymhellion, eich dyheadau a'ch emosiynau a'r effaith y mae'r rhain yn ei chael ar eich gweithredoedd eich hun ac eraill
20. eich cryfderau a'ch cyfyngiadau eich hun yn eich rôl arwain neu reoli
21. cryfderau, cyfyngiadau a photensial cydweithwyr ac aelodau'r tîm
22. eich rôl, eich cyfrifoldebau a lefel eich awdurdod
23. diben, gwerthoedd, gweledigaeth a'r cynlluniau ar gyfer eich sefydliad
24. diwylliant arwain a gallu eich sefydliad
25. y mathau o gefnogaeth a chyngor sydd eu hangen a sut i ymateb i'r rhain
26. yr ystod o randdeiliaid y gallai fod angen i chi gyfathrebu a chydweithio â nhw
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Cyfathrebu
- Ymgynghori
- Gwneud penderfyniadau
- Grymuso
- Gwerthuso
- Dilyn
- Dylanwadu
- Ysbrydoledig
- Rheoli gwrthdaro
- Monitro
- Yn ysgogi
- Cael adborth
- Argyhoeddi
- Cynllunio
- Cyflwyno gwybodaeth
- Blaenoriaethu
- Datrys problemau
- Rhoi adborth
- Gosod esiampl
- Gosod amcanion
- Cefnogi
- Meddwl yn strategol
- Gwerthfawrogi gwahaniaethau