Datblygu eich cysylltiadau proffesiynol a'u cynnal
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu eich cysylltiadau proffesiynol a'u cynnal. Rydych chi'n diffinio amcanion ar gyfer gweithgareddau rhwydweithio, yn nodi gweithwyr proffesiynol, rhanddeiliaid a sefydliadau perthnasol sy'n gallu cefnogi eich gwaith ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Rydych chi'n datblygu perthnasoedd sydd o fudd i bawb o dan sylw gyda'ch cysylltiadau, gan barchu cyfrinachedd wrth rannu eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch cymhwysedd i gefnogi'ch cydweithwyr ac aelodau'r tîm. Rydych chi'n defnyddio'r technolegau digidol perthnasol er mwyn ymgysylltu a chyfathrebu â'ch cysylltiadau proffesiynol yn ogystal â dilyn polisïau a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rhannu gwybodaeth ac adnoddau.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- diffinio eich amcanion ar gyfer cydweithredu â gweithwyr proffesiynol a rhanddeiliaid perthnasol
- nodi cysylltiadau a sefydliadau sy'n cefnogi'ch gwaith ar hyn o bryd ac sy'n cynnig cyfleoedd yn y dyfodol
- creu rhwydweithiau proffesiynol o gysylltiadau sy'n diwallu eich anghenion ar hyn o bryd am wybodaeth ac adnoddau
- cymharu eich disgwyliadau chi a'ch cydweithwyr o berthnasoedd proffesiynol
- nodi'r ffyrdd gorau o gyfathrebu â'ch rhwydweithiau o gysylltiadau
- datblygu eich cysylltiadau proffesiynol i ddiwallu eich anghenion nawr ac yn y dyfodol am wybodaeth ac adnoddau
- amlinellu eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch cymhwysedd gyda'ch cysylltiadau proffesiynol
- rhoi gwybodaeth am fanteision cydweithredu â chi
- asesu cyfleoedd a gyflwynir gan eich rhwydweithiau o gysylltiadau
- cynnal ffiniau cyfrinachedd rhyngoch chi a'ch rhwydweithiau o gysylltiadau
- cytuno ar ganllawiau ar gyfer cyfnewid gwybodaeth ac adnoddau gan ddilyn eich polisïau sefydliadol
- annog eich cydweithwyr ac aelodau'r tîm i rannu gwybodaeth yn unol â chyfrinachedd
- datblygu eich cysylltiadau proffesiynol ar y cyd â'ch blaenoriaethau a'ch anghenion
- dewis sianeli ac arddulliau cyfryngau cyfathrebu sy'n gweddu i wahanol gysylltiadau a sectorau proffesiynol
- cyflwyno'ch barn a'ch safbwyntiau os oes gwahaniaeth barn
- defnyddio'r ystod o dechnolegau digidol ar gyfer ymgysylltu, cyfathrebu a chynnal eich cysylltiadau proffesiynol
- defnyddio'r wybodaeth a'r adnoddau a gafwyd trwy eich rhwydweithiau proffesiynol i wella'ch gwaith
- cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. y mathau o gysylltiadau proffesiynol a'u nodweddion
2. manteision cysylltu â rhanddeiliaid a sefydliadau
3. egwyddorion a dulliau cyfathrebu a sut i'w defnyddio i ymgysylltu â chysylltiadau proffesiynol
4. y gwahanol arddulliau cyfathrebu a sut i nodi hoffterau unigol
5. dulliau datblygu perthnasoedd sydd o fudd i bawb gyda gweithwyr proffesiynol, rhanddeiliaid a sefydliadau eraill
6. sut i ymateb i wahaniaethau mewn barn a chyflwyno eich safbwynt a'ch barn
7. yr ystod o dechnolegau digidol ar gyfer ymgysylltu, cyfathrebu a chynnal eich cysylltiadau proffesiynol
8. pryd a sut i ddefnyddio'r wybodaeth a'r adnoddau a gafwyd trwy rwydweithiau proffesiynol
9. egwyddorion cyfrinachedd a'r polisïau cyfreithiol a sefydliadol
10. sut i ddatblygu dulliau cyfnewid gwybodaeth rhwng unigolion a sefydliadau
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
11. gofynion y diwydiant a'r sector ar gyfer datblygu a chynnal gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd
12. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
13. eich gwerthoedd, eich cymhellion a'ch emosiynau, ac effaith y rhain ar eich gweithredoedd
14. eich buddiannau a sut gall y rhain fynd yn groes i fuddiannau gweithwyr proffesiynol, rhanddeiliaid a sefydliadau eraill
15. eich amcanion personol wrth ddatblygu eich cysylltiadau proffesiynol
16. eich anghenion ar hyn o bryd ac yn y dyfodol o ran gwybodaeth ac adnoddau
17. y gweithwyr proffesiynol, y rhanddeiliaid a'r sefydliadau perthnasol sy'n gallu cefnogi eich gwaith, ac i'r gwrthwyneb
18. y wybodaeth a'r adnoddau y gallai fod eu hangen ar weithwyr proffesiynol a rhanddeiliaid perthnasol gennych chi a'ch sefydliad
19. y gweithwyr proffesiynol, y rhanddeiliaid a'r sefydliadau perthnasol ymhlith eich cysylltiadau proffesiynol ar hyn o bryd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Cyfathrebu
- Dylanwadu
- Rheoli gwybodaeth
- Dysgu
- Rheoli eich hun
- Rhwydweithio
- Gwydnwch personol
- Argyhoeddi
- Cyflwyno gwybodaeth
- Cwestiynu
- Rheoli risg
- Meddwl yn strategol
- Gwerthfawrogi unigolion