Datblygu eich gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd i fodloni gofynion eich gwaith
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu eich gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd eich hun i fodloni gofynion eich gwaith ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Rydych chi'n monitro tueddiadau yn eich sector proffesiynol a maes eich arbenigedd i gefnogi eich datblygiad personol a'ch gyrfa. Rydych yn nodi bylchau yn eich gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd; wedi hynny, rydych yn cynllunio gweithgareddau dysgu a datblygu, a'u cynnal i wella eich perfformiad. Rydych yn ceisio adborth yn rheolaidd ac yn cymryd camau yn unol â hynny.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. monitro tueddiadau a datblygiadau yn eich sector proffesiynol a maes eich arbenigedd
2. gwerthuso effaith tueddiadau a datblygiadau ar eich rôl yn y gwaith
3. asesu gofynion cyfredol a dyfodol eich rôl yn y gwaith yn unol â gweledigaeth ac amcanion eich sefydliad
4. nodi'r bylchau rhwng gofynion eich rôl yn y gwaith ar hyn o bryd ac yn y dyfodol o'u cymharu â'r gwybodaeth, y sgiliau a'r cymhwysedd sydd gennych ar hyn o bryd.
5. asesu eich gwerthoedd, eich cymhellion a'ch emosiynau
6. nodi eich cryfderau a'ch cyfyngiadau
7. nodi eich anghenion dysgu a datblygu
8. cytuno ar gynllun datblygu sy'n mynd i'r afael â'r bylchau a nodwyd yn eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch cymhwysedd
9. cytuno ar gynllun datblygu sy'n cefnogi eich nodau personol a'ch nodau o ran eich gyrfa
10. ymgymryd â'r gweithgareddau y cytunwyd arnynt yn eich cynllun datblygu gan ddefnyddio'r dulliau dysgu a ffefrir
11. chwilio am ffynonellau cefnogaeth newydd, pan fo angen
12. cael gafael ar yr adnoddau dysgu a datblygu sydd ar gael i gefnogi gweithgareddau datblygu
13. gwerthuso sut mae gweithgareddau dysgu a datblygu wedi cyfrannu at eich perfformiad
14. gofyn am adborth gwrthrychol, penodol a dilys ar eich perfformiad yn rheolaidd gan gydweithwyr, aelodau'r tîm a chwsmeriaid
15. coladu a dadansoddi'r adborth a chymryd camau priodol, lle bo angen
16. diweddaru eich cynllun datblygu yng ngoleuni eich perfformiad, y gweithgareddau datblygu a gynhaliwyd ac unrhyw newidiadau ehangach
17. myfyrio ar eich dysgu a'ch profiadau gwaith yng nghofnodion eich datblygiad proffesiynol parhaus (DPP)
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. sut i werthuso gofynion cyfredol rôl waith a sut gall y gofynion hyn esblygu yn y dyfodol
2. sut i fonitro newidiadau, tueddiadau a datblygiadau yn eich sector proffesiynol
3. sut i nodi anghenion dysgu a datblygu
4. sut i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau a nodwyd rhwng gofynion eich rôl a'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sydd gennych ar hyn o bryd
5. cydrannau allweddol cynllun datblygu personol
6. pwysigrwydd ystyried eich nodau gyrfaol a phersonol wrth gynllunio'ch datblygiad proffesiynol
7. y gwahanol ddulliau dysgu sydd ar gael a sut i nodi'r dulliau dysgu
8. y mathau o weithgareddau datblygu y gellir eu cyflawni i fynd i'r afael â bylchau a nodwyd yn eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch cymhwysedd
9. sut i werthuso i ba raddau y mae gweithgareddau datblygu wedi cyfrannu at eich perfformiad
10. sut i ddiweddaru cynlluniau datblygu yng ngoleuni eich perfformiad, unrhyw weithgareddau datblygu ac unrhyw newidiadau ehangach
11. sut i nodi ffynonellau adborth ar eich perfformiad
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
12. gofynion y diwydiant a'r sector ar gyfer datblygu neu gynnal eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch cymhwysedd
13. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
14. eich cyfrifoldebau ar gyfer datblygu gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd
15. y cyfleoedd datblygu a'r adnoddau dysgu yn eich sefydliad
16. cofnodion eich datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) a pham mae angen cadw'r rhain yn gyfredol
17. polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer datblygiad personol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Cyfathrebu
- Gwerthuso
- Dysgu
- Rheoli eich hun
- Cymell eich hun
- Cael adborth
- Gwydnwch personol
- Datblygiad personol a phroffesiynol
- Cynllunio
- Myfyrio
- Adolygu
- Gosod esiampl
- Hunanasesu
- Gosod amcanion