Rheoli eich hun i gyflawni amcanion eich gwaith a'ch amcanion personol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli eich hun i gyflawni amcanion eich gwaith a'ch amcanion personol. Rydych yn datblygu amcanion i gyflawni gweledigaeth ac amcanion eich sefydliad yn unol â'i werthoedd. Rydych yn nodi eich blaenoriaethau ac yn canolbwyntio eich amser a'ch adnoddau i'w cyflawni. Rydych hefyd yn asesu eich gwerthoedd, cymhellion a'ch dyheadau eich hun yn erbyn gweledigaeth, amcanion a gwerthoedd eich sefydliad i alinio a rheoli gwrthdaro. Rydych yn cydnabod ac yn rheoli eich emosiynau chi ac emosiynau eich cydweithwyr, iechyd meddwl a lles, gan ymateb i gyfleoedd newydd a sefyllfaoedd brys gyda phositifrwydd, egni a ffocws. Rydych chi'n defnyddio deallusrwydd emosiynol i ddirnad teimladau, coladu gwybodaeth berthnasol i arwain eich barn, gwneud penderfyniadau ac addasu i'r amgylchedd gwaith i gyflawni eich gwaith a'ch amcanion personol.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- diffinio prif ddiben eich rôl yn y gwaith
- nodi sut mae eich rôl yn cyfrannu at gyflawni gweledigaeth ac amcanion eich sefydliad
- nodi sut mae eich rôl yn gysylltiedig â rolau eraill yn y sefydliad a lle mae cyfleoedd i weithio ar y cyd a chyd-gefnogi
- datblygu amcanion personol sy'n cyd-fynd â gweledigaeth, amcanion a gwerthoedd eich sefydliad
- blaenoriaethu amcanion a chynllunio gwaith i wneud y defnydd gorau o'r amser a'r adnoddau sydd ar gael
- asesu eich gwerthoedd, eich cymhellion a'ch dyheadau eich hun
- gwerthuso gweledigaeth, amcanion a gwerthoedd eich sefydliad yn erbyn eich gwerthoedd, eich cymhellion a'ch dyheadau eich hun i nodi aliniad a gwrthdaro
- cynllunio dulliau i sicrhau'r aliniad mwyaf posibl a datrys y gwrthdaro personol neu sefydliadol
- cytuno ar eich amcanion a'u blaenoriaethu gyda'r aelodau staff yr ydych yn atebol iddynt
- monitro eich cynnydd a'ch cyflawniadau yn erbyn amcanion a therfynau amser
- rheoli eich amser i gyflawni amcanion o fewn terfynau amser y cytunwyd arnynt
- dirprwyo cyfrifoldebau i gydweithwyr i sicrhau bod terfynau amser yn cael eu cyflawni
- defnyddio'r technolegau perthnasol i'ch helpu chi i gyflawni eich amcanion
- nodi pethau sy'n tynnu'ch sylw a gweithgareddau nad ydynt yn helpu i gyflawni eich amcanion a'u dileu
- monitro newidiadau i amcanion, prosesau, systemau a strwythurau eich sefydliad
- nodi sut mae newidiadau i amcanion, prosesau, systemau a strwythurau'r sefydliad yn effeithio ar eich rôl
- nodi cyfleoedd gwaith newydd wrth iddynt godi
- ymateb yn gyflym ac yn gadarnhaol i gyfleoedd newydd ac addasu eich amcanion a'ch blaenoriaethau
- nodi sefyllfaoedd brys sy'n codi yn ystod gweithgareddau gwaith
- ymateb yn gyflym ac yn gadarnhaol i sefyllfaoedd brys pan maent yn codi, gan addasu eich amcanion a'ch blaenoriaethau yn ôl yr angen
- cynnal eich lles trwy hunanfyfyrio wrth weithio tuag at gyflawni eich amcanion
- defnyddio deallusrwydd emosiynol i gydnabod a gwerthuso eich cryfderau a'ch gwendidau, teimladau, barn a safbwyntiau eich hun a'ch cydweithwyr
- rheoli eich perthnasoedd â chydweithwyr a chwsmeriaid i gyflawni eich amcanion
- gofyn am adborth gwrthrychol, penodol a dilys ar eich perfformiad yn rheolaidd gan gydweithwyr a chwsmeriaid
- monitro cynnydd tuag at eich amcanion
- chwilio am ffynonellau newydd sy'n rhoi cefnogaeth ac adborth, pan mae angen
- gwerthuso cyflawniad eich amcanion gyda'r aelodau staff rydych chi'n atebol iddynt
- cytuno ar newidiadau i'ch amcanion gyda'r rhai rydych chi'n atebol iddynt, yn seiliedig ar eich perfformiad, yr adborth a gafwyd neu newidiadau i flaenoriaethau sefydliadol
- cymryd camau i gynnal cydbwysedd rhwng eich bywyd proffesiynol a phersonol, pan fo angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. sut i nodi gofynion eich rôl yn y gwaith
2. sut i gasglu gwybodaeth a'i dilysu
3. sut i ddadansoddi eich rôl yn y gwaith a sut mae'n berthnasol i rolau eraill yn y sefydliad.
4. y ffyrdd y gallwch asesu eich gwerthoedd, eich cymhellion a'ch dyheadau
5. pwysigrwydd cydbwyso gwerthoedd, cymhellion a dyheadau personol â gweledigaeth, amcanion a gwerthoedd sefydliadol
6. sut i werthuso effaith gwahanol ffactorau ar eich rôl
7. pwysigrwydd rheoli eich gwybodaeth, eich dealltwriaeth a'ch sgiliau
8. sut i osod amcanion gwaith penodol, mesuradwy, cyraeddadwy, realistig ac â therfyn amser (CAMPUS)
9. y ffyrdd o fesur cynnydd yn erbyn eich amcanion gwaith
10. sut i fonitro newidiadau, tueddiadau a datblygiadau ac addasu amcanion i'w hymgorffori
11. y technegau ar gyfer rheoli emosiynau, iechyd meddwl a lles
12. y dulliau casglu adborth ar eich perfformiad
13. sut i ddefnyddio adborth ar berfformiad yn effeithiol
14. sut i ddiweddaru amcanion gwaith yn seiliedig ar eich perfformiad, yr adborth a gafwyd neu newidiadau i flaenoriaethau sefydliadol
15. sut i fonitro sut y rheolir amser a nodi gwelliannau posibl
16. sut i fynd i'r afael â llu o alwadau gyda ffocws ac egni
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
17. gofynion y diwydiant a'r sector ar gyfer datblygu a chynnal gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd
18. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
19. y cydweithwyr ac aelodau'r tîm ym maes eich gwaith, eu rolau, cyfrifoldebau, cymwyseddau a'u potensial
20. prosesau busnes eich sefydliad
21. amcanion eich sefydliad
22. y gofynion y cytunwyd arnynt ar gyfer eich rôl yn y gwaith gan gynnwys ffiniau eich cyfrifoldebau
23. eich amcanion gwaith personol y cytunwyd arnynt
24. strwythur a llinellau adrodd eich sefydliad
25. eich cryfderau a'ch gwendidau, eich teimladau, eich safbwyntiau a'ch barn eich hun a'ch cydweithwyr
26. eich gwerthoedd, eich cymhellion a'ch dyheadau
27. pwysigrwydd deallusrwydd emosiynol yn y gweithle
28. eich emosiynau eich hun a'r effaith y mae'r rhain yn ei chael ar eich gweithredoedd a'ch cydweithwyr
29. ffynonellau adborth ar berfformiad yn eich sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Cyfathrebu
- Gwerthuso
- Deall
- Cymhelliant
- Cael adborth
- Rheoli eich hun
- Gwydnwch personol
- Cynllunio
- Blaenoriaethu
- Adolygu
- Hunanasesu
- Hunanfyfyrio
- Hunanymwybyddiaeth
- Gosod amcanion
- Rheoli amser