Datblygu ymgyrchoedd a gweithgareddau marchnata a'u gweithredu
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu ymgyrchoedd a gweithgareddau marchnata a'u gweithredu yn unol â strategaethau a chynlluniau y cytunwyd arnynt. Mae'n cynnwys cadarnhau amcanion, cyllideb ac amserlenni ymgyrchoedd a gweithgareddau yn ogystal ag anghenion a nodweddion y cwsmeriaid a dargedir. Rydych yn darparu syniadau marchnata creadigol sy'n bodloni gofynion yr ymgyrchoedd a'r gweithgareddau. Rydych yn cadarnhau bod yr adnoddau a'r staff angenrheidiol ar gael ac yn eu briffio am eu rolau a'u cyfrifoldebau. Mae hefyd yn cynnwys datblygu deunyddiau marchnata priodol a chytuno arnynt, cyflawni'r ymgyrch a'r gweithgaredd, mynd i'r afael ag amrywiannau, a chofnodi canlyniadau ac adrodd arnynt. Mae'r safon ar gyfer gweithwyr marchnata proffesiynol sy'n datblygu ac yn gweithredu ymgyrchoedd a gweithgareddau marchnata, gan weithio ar eu pennau eu hunain neu'n rhan o dîm.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau'r amcanion marchnata fel y'u nodir yn y strategaethau neu'r cynlluniau marchnata y cytunwyd arnynt
- cytuno ar y gyllideb a'r amserlen ar gyfer datblygu cynnwys creadigol
- cadarnhau bod yr adnoddau a'r staff gofynnol ar gael gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
- nodi anghenion a nodweddion y cwsmeriaid a dargedir
- diffinio'r negeseuon allweddol y mae angen eu cyfathrebu i gwsmeriaid
- cynhyrchu'r meini prawf gwerthuso ar gyfer y cynnwys creadigol
- datblygu syniadau creadigol drwy weithio gyda chydweithwyr ac aelodau'r tîm
- darparu syniadau marchnata creadigol i fodloni gofynion yr ymgyrchoedd a'r gweithgareddau
- gwerthuso syniadau gan ddefnyddio eich meini prawf i nodi'r rhai sy'n apelio i'r cwsmeriaid a dargedir
- paratoi cynlluniau gweithredu ar gyfer ymgyrchoedd a gweithgareddau marchnata
- briffio staff ar eu rolau a'u cyfrifoldebau yn unol â'r strategaethau a chynlluniau'r ymgyrch a'r gweithgareddau
- datblygu deunyddiau marchnata yn unol â strategaethau a chynlluniau'r ymgyrch a'r gweithgareddau
- cytuno ar ddeunyddiau marchnata gyda rhanddeiliaid
- gweithredu eich cynlluniau o fewn y gyllideb a'r amserlenni
- rheoli ymatebion gan gwsmeriaid yn unol â phrosesau a gweithdrefnau sefydliadol y cytunwyd arnynt
- monitro gweithgareddau marchnata yn erbyn cynlluniau a chyllidebau
- nodi amrywiadau yn ystod y broses weithredu a chymryd camau i gadw at gyllidebau ac amserlenni y cytunwyd arnynt
- rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid am gynnydd, datblygiadau a phroblemau fel y cytunwyd wrth gynllunio
- adrodd ar ganlyniadau'r ymgyrch neu'r gweithgareddau yn unol â phrosesau a gweithdrefnau sefydliadol
- dilyn gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol cyfredol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n gysylltiedig â datblygu a gweithredu ymgyrchoedd a gweithgareddau marchnata
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- strategaeth a chynllun marchnata cyfredol y sefydliad
- sut i ddatblygu amcanion marchnata sy'n cyd-fynd â strategaethau marchnata
- sylfaen cwsmeriaid wirioneddol a phosibl y sefydliad, a'u hanghenion a'u disgwyliadau
- pwysigrwydd diffinio negeseuon allweddol ar gyfer ymgyrchoedd a gweithgareddau, a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar gwsmeriaid
- y tueddiadau cymdeithasol ac o ran diwylliant poblogaidd sy'n effeithio ar ymgyrchoedd a gweithgareddau marchnata
- sut i weithio gyda chydweithwyr ac aelodau'r tîm i ddatblygu ymgyrchoedd a manteision cydweithio
- y technegau y gellir eu defnyddio i greu syniadau creadigol a sut i wneud y defnydd gorau ohonynt
- sut i gynhyrchu syniadau fydd yn gwneud y sefydliad a'i gynnyrch yn wahanol i'r hyn a gynigir gan y rhai sy'n cystadlu yn ei erbyn
- sut i brofi syniadau creadigol a'u gwerthuso
- sut i ddatblygu syniadau arloesol, unigryw a chofiadwy fydd yn bodloni gofynion ymgyrchoedd a gweithgareddau
- sut i werthuso syniadau yn erbyn meini prawf y cytunwyd arnynt i benderfynu pa rai fydd yn apelio fwyaf at gwsmeriaid
- yr ystod o ddulliau marchnata sydd ar gael a sut i'w paru ag ymgyrch a gweithgaredd marchnata
- pwysigrwydd gwneud yn siŵr bod staff yn deall eu rolau a'u cyfrifoldebau mewn ymgyrch a gweithgaredd penodol
- y mathau o ddeunyddiau marchnata sy'n cynorthwyo ymgyrchoedd a gweithgareddau a sut i'w cynhyrchu
- sut i fonitro gweithgareddau yn erbyn y strategaethau, y cynlluniau a'r cyllidebau
- y mathau o risgiau ac amrywiannau a allai ddigwydd a'r camau y gellir eu cymryd i fynd i'r afael â'r rhain
- y dulliau ar gyfer cofnodi canlyniadau ac adrodd arnynt yn unol â gofynion sefydliadol
- pwysigrwydd rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid am gynnydd
- y ffyrdd yr adroddir ar ganlyniadau ymgyrch i fodloni gofynion sefydliadol a chwblhau'r ymgyrch
- y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol presennol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n gysylltiedig â chynnwys creadigol ymgyrchoedd a gweithgareddau marchnata