Datblygu strategaethau a chynlluniau ar gyfer ymgyrchoedd a gweithgareddau marchnata
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu strategaethau a chynlluniau ar gyfer ymgyrchoedd a gweithgareddau marchnata. Rydych yn gwerthuso tueddiadau cwsmeriaid a phatrymau ymddygiad. Rydych yn gosod amcanion a chyllidebau sy'n cyd-fynd â strategaethau marchnata cyffredinol y sefydliad. Rydych yn cynllunio ac yn diffinio cyllideb realistig ac yn nodi adnoddau i gyflwyno ymgyrchoedd a gweithgareddau marchnata. Rydych hefyd yn paratoi strategaethau a chynlluniau i gyflawni'r amcanion a chytuno ar y rhain gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau. Mae'r safon ar gyfer gweithwyr marchnata proffesiynol sy'n datblygu strategaethau a chynlluniau ar gyfer ymgyrchoedd a gweithgareddau marchnata.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- osod amcanion sy'n cyd-fynd â strategaethau a chynlluniau marchnata'r sefydliad
- nodi'r segmentau o gwsmeriaid neu gynulleidfaoedd y mae'r ymgyrchoedd a'r gweithgareddau wedi'u hanelu atynt
- diffinio dulliau mesur perfformiad allweddol ar gyfer ymgyrchoedd a gweithgareddau marchnata
- gwerthuso tueddiadau a phatrymau ymddygiad y cwsmeriaid neu'r gynulleidfa a dargedir a'u goblygiadau i'r ymgyrchoedd a'r gweithgareddau
- diffinio cyllidebau realistig ar gyfer ymgyrchoedd a gweithgareddau
- nodi'r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni'r ymgyrchoedd a'r gweithgareddau
- asesu cryfderau a gwendidau gwahanol ddulliau o gyflawni amcanion, gan ystyried yr enillion posibl ar fuddsoddiad
- rhagweld galwadau am gynhyrchion neu wasanaethau
- datblygu cynlluniau wrth gefn i ddelio ag amrywiadau o'r rhagolygon
- gofyn am gyngor ac arweiniad ar eich rhagolygon gan ffynonellau arbenigedd mewnol ac allanol
- paratoi strategaethau a chynlluniau i gyflawni amcanion, wedi'u halinio â'r marchnadoedd a dargedir
- amlinellu dulliau monitro canlyniadau ac adrodd arnynt yn erbyn yr amcanion
- ymgynghori â rhanddeiliaid ar y strategaethau a'r cynlluniau
- diwygio'r strategaethau a'r cynlluniau yn unol ag adborth
- cytuno ar y strategaethau a'r cynlluniau gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
- dilyn y gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol presennol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â datblygu strategaethau a chynlluniau marchnata
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sylfaen cwsmeriaid wirioneddol a phosibl y sefydliad, a'u hanghenion a'u disgwyliadau
- sut i ddatblygu amcanion yn unol â strategaeth a chynllun marchnata cyffredinol y sefydliad
- y dulliau mesur perfformiad allweddol ar gyfer ymgyrchoedd a gweithgareddau marchnata
- sut gall tueddiadau cwsmeriaid a phatrymau ymddygiad effeithio ar ymgyrchoedd a gweithgareddau
- sut i nodi segmentau o gwsmeriaid neu gynulleidfaoedd ar gyfer cynhyrchion neu wasanaethau'r sefydliad
- sut i asesu cryfderau a gwendidau'r gwahanol ddulliau o gyflawni'r amcanion, gan ystyried yr enillion posibl ar fuddsoddiad (ROI)
- y gwahanol ddulliau o ragweld y galw am gynhyrchion neu wasanaethau
- sut i ddatblygu cynlluniau wrth gefn i fynd i'r afael ag amrywiannau o ragolygon
- y ffynonellau arbenigedd mewnol ac allanol sy'n gallu rhoi cyngor ac arweiniad a sut i gael gafael arnynt
- pwysigrwydd monitro canlyniadau ac adrodd arnynt gan ddilyn canllawiau sefydliadol
- y ffyrdd o ymgynghori â rhanddeiliaid a manteision pob dull
- sut i ddatblygu dulliau mesur perfformiad allweddol a threfniadau monitro ac adrodd
- pwysigrwydd ymgynghori â rhanddeiliaid ynghylch eich strategaethau a'ch cynlluniau
- sut i ddiwygio strategaethau a chynlluniau yn unol â'r adborth a dderbyniwyd
- y gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol presennol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â marchnata