Datblygu cynhyrchion neu wasanaethau newydd

URN: INSMAR015
Sectorau Busnes (Suites): Marchnata
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 05 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu cynhyrchion neu wasanaethau newydd. Mae'n cynnwys cytuno ar strategaeth yn unol â strategaeth ac amcanion marchnata cyffredinol y sefydliad. Rydych chi'n creu syniadau ar gyfer cynhyrchion neu wasanaethau newydd. Rydych chi'n profi eich syniadau ac yn datblygu achosion busnes ar gyfer cynhyrchion neu wasanaethau newydd ac yn ymgynghori â rhanddeiliaid cyn mynd ati i gyflwyno eich syniadau i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau. Mae'r safon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i chi ddilyn canllawiau cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol. Mae'r safon ar gyfer gweithwyr marchnata proffesiynol sy'n ymwneud â datblygu cynhyrchion neu wasanaethau newydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cytuno ar strategaeth newydd ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth sy'n cyd-fynd â strategaeth ac amcanion marchnata eich sefydliad
  2. creu syniadau ar gyfer cynhyrchion neu wasanaethau newydd
  3. nodi'r syniadau sydd â'r potensial mwyaf i ddiwallu anghenion cwsmeriaid a busnesau
  4. cynnig cynlluniau profion yn y farchnad ar gyfer cynhyrchion neu wasanaethau
  5. profi syniadau ar gyfer cynhyrchion neu wasanaethau newydd yn unol â'r cynllun prawf
  6. asesu potensial cynhyrchion neu wasanaethau newydd yn y farchnad a'r elw y gallai'r rhain eu gwneud
  7. asesu natur y bygythiadau posibl a achosir gan y rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn
  8. paratoi achos busnes ar gyfer cynhyrchion neu wasanaethau newydd
  9. creu asesiad risg ar gyfer y cynhyrchion neu'r gwasanaethau newydd
  10. cyfiawnhau eich argymhellion ar gyfer datblygu'r cynhyrchion neu'r gwasanaethau newydd
  11. ymgynghori â rhanddeiliaid ynglŷn â'r achos busnes i gasglu adborth
  12. adolygu asesiadau ac adborth a diweddaru eich achosion busnes
  13. cyflwyno achosion busnes i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
  14. cytuno ar gamau gweithredu ar gyfer y cynhyrchion neu'r gwasanaethau newydd gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
  15. dilyn gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol cyfredol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol wrth ddatblygu'r cynhyrchion neu'r gwasanaethau newydd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. strategaethau ac amcanion marchnata tymor byr, tymor canolig a thymor hir eich sefydliad
  2. y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol sy'n gysylltiedig â datblygu cynhyrchion neu wasanaethau newydd
  3. yr hyn sy'n cael ei gynnwys mewn strategaeth ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth newydd
  4. y gwahanol ffynonellau sy'n rhoi syniadau ar gyfer cynhyrchion neu wasanaethau newydd posibl
  5. y dulliau ar gyfer nodi ymddygiad cwsmeriaid ac anghenion cwsmeriaid a busnes
  6. sut i baru syniadau a gynhyrchir ag anghenion cwsmeriaid a busnes
  7. pwysigrwydd cynlluniau profion a sut i'w datblygu
  8. manteision ac anfanteision gwahanol fathau o brofion a threialon yn y farchnad
  9. sut i asesu potensial cynhyrchion neu wasanaethau newydd yn y farchnad a'r elw y gallai'r rhain eu gwneud
  10. y dulliau ar gyfer nodi gweithgarwch y rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn a'u dadansoddi
  11. y gwahanol dechnegau rhagweld y gellir eu defnyddio a sut i'w cymhwyso wrth archwilio'r potensial ar gyfer cynhyrchion neu wasanaethau newydd
  12. sut i baratoi achosion busnes dilys yn unol â gofynion sefydliadol
  13. sut i ddatblygu asesiadau risg a pham mae hyn yn bwysig
  14. sut i ymgynghori â rhanddeiliaid a chytuno ar gamau gweithredu
  15. y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol cyfredol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol wrth ddatblygu'r cynhyrchion neu'r gwasanaethau newydd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAMAR19

Galwedigaethau Perthnasol

Marchnata a Gwerthiant, Swyddog Marchnata, Rheolwr Marchnata a Gwerthu, Cydymaith Marchnata, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Marchnata

Cod SOC

3554

Geiriau Allweddol

Marchnata, gwerthu, rheoli marchnata, ymchwil i'r farchnad, hysbysebu, cysylltiadau cyhoeddus