Nodi segmentau yn y farchnad
URN: INSMAR014
Sectorau Busnes (Suites): Marchnata
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â nodi segmentau yn y farchnad. Rydych yn ymchwilio i gymhellion, agweddau ac ymddygiad cwsmeriaid ac yn defnyddio'r canlyniadau i nodi clystyrau penodol o gwsmeriaid. Rydych yn nodi segmentau marchnad mesuradwy cyn mynd ati i gynnig syniadau a'u profi i werthuso pa mor sefydlog, hygyrch a phroffidiol y gallai'r rhain fod. Rydych hefyd yn gwneud argymhellion sy'n gysylltiedig ag enillion ar fuddsoddiad (ROI) ar gyfer y sefydliad. Mae'r safon ar gyfer gweithwyr marchnata proffesiynol sy'n nodi segmentau yn y farchnad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- paratoi ar gyfer ymchwilio i gymhellion, agweddau ac ymddygiadau cwsmeriaid
- nodi cymhellion, agweddau ac ymddygiad cwsmeriaid drwy ymchwil
- nodi clystyrau penodol o gwsmeriaid yn seiliedig ar gymhellion, agweddau ac ymddygiadau
- creu proffil o glystyrau sydd wedi ennill eu plwyf i nodi eu nodweddion gwahaniaethol
- nodi segmentau yn y farchnad sy'n fesuradwy o ran maint, pŵer prynu a phroffil
- cynnig cynlluniau profion ar gyfer segmentau yn y farchnad
- profi syniadau ar gyfer segmentau yn y farchnad yn unol â'r cynllun prawf
- asesu hyfywedd segmentau yn y farchnad a nodir, gan ystyried eu potensial o ran proffidioldeb, sefydlogrwydd a hygyrchedd
- argymell segmentau a dargedir sy'n debygol o gyflawni'r enillion gofynnol ar fuddsoddiad (ROI) ar gyfer y sefydliad i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
- ymgynghori â rhanddeiliaid ar argymhellion
- diwygio argymhellion yn unol ag adborth
- dilyn gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol cyfredol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol wrth nodi segmentau yn y farchnad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i baratoi i gynnal ymchwil marchnata sy'n cwmpasu cymhellion, agweddau ac ymddygiad cwsmeriaid
- pwysigrwydd a gwerth rhannu'r farchnad yn segmentau wrth ddatblygu strategaeth farchnata
- beth yw segment o'r farchnad a sut mae hyn yn wahanol i ddosbarthu cwsmeriaid
- y nodweddion a allai fod yn berthnasol i sefydlu segmentau posibl yn y farchnad
- sut i gynnal ymchwil i gymhellion, agweddau ac ymddygiadau cwsmeriaid y gellir dod i gasgliadau dilys a dibynadwy ohonynt
- y ffactorau sy'n gwneud segmentau yn y farchnad yn wahanol a'r rhesymau dros bennu segmentau nodedig
- sut i ddatblygu cynlluniau profion i dreialu syniadau gyda segmentau yn y farchnad
- y gwahanol ffactorau i'w hystyried wrth asesu hyfywedd y segmentau a nodwyd yn y farchnad
- sut i ragweld enillion posibl ar fuddsoddiad (ROI) ar gyfer segmentau a dargedir yn y farchnad
- y dulliau a ddefnyddir i ymgynghori â rhanddeiliaid ynglŷn â'ch argymhellion
- sut i newid argymhellion gan ystyried yr adborth a gawsoch
- y gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol cyfredol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol wrth nodi segmentau yn y farchnad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
CFAMAR17
Galwedigaethau Perthnasol
Marchnata a Gwerthiant, Swyddog Marchnata, Rheolwr Marchnata a Gwerthu, Cydymaith Marchnata, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Marchnata
Cod SOC
3554
Geiriau Allweddol
Marchnata, gwerthu, rheoli marchnata, ymchwil i'r farchnad, hysbysebu, cysylltiadau cyhoeddus