Datblygu cynlluniau marchnata sefydliadol a'u gweithredu
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu cynlluniau marchnata sefydliadol a'u gweithredu. Mae'n cynnwys dewis gwybodaeth o archwiliadau marchnata a chadarnhau amcanion marchnata. Rydych yn cytuno ar gyllidebau ar gyfer gweithgareddau marchnata ac yn cadarnhau'r dull gweithredu cyffredinol. Rydych yn paratoi cynllun marchnata ac yn sefydlu'r meini prawf ar gyfer gwerthuso llwyddiant y cynllun. Rydych yn nodi adnoddau, gan gymryd cyfrifoldeb am gyflawni'r cynllun, gan wneud addasiadau angenrheidiol yn unol â'r strategaeth farchnata. Rydych hefyd yn nodi arferion da a meysydd i'w gwella. Mae'r safon ar gyfer gweithwyr marchnata proffesiynol sy'n datblygu cynlluniau marchnata sefydliadol a'u gweithredu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis gwybodaeth o archwiliadau marchnata
- cadarnhau amcanion marchnata gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau fel y nodir yn y strategaeth farchnata y cytunwyd arni
- cadarnhau'r gyllideb y cytunwyd arni ar gyfer gweithgarwch marchnata gyda deiliaid cyllidebau
- nodi a chadarnhau anghenion a nodweddion y cwsmeriaid a dargedir
- diffinio'r dull cyffredinol o gynnal gweithgareddau marchnata
- gwerthuso dulliau marchnata posibl sy'n berthnasol i'r marchnadoedd a dargedir a'r gyllideb
- asesu'r risgiau i gynlluniau marchnata a sut allai'r rhain gael eu lliniaru
- pennu'r camau gweithredu a'r adnoddau sydd eu hangen i weithredu cynlluniau marchnata
- rhestru'r meini prawf gwerthuso ar gyfer cynlluniau marchnata
- gofyn am gyngor ac arweiniad gan ffynonellau arbenigedd mewnol ac allanol
- nodi'r adnoddau dynol, ffisegol ac ariannol sydd eu hangen i weithredu cynlluniau marchnata,
- cytuno ar ofynion adnoddau dynol, ffisegol ac ariannol gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
- paratoi cynllun marchnata sy'n crynhoi dulliau, camau gweithredu, adnoddau, amserlenni, cyllideb a meini prawf
- sefydlu gweithdrefnau monitro i ddarparu gwybodaeth werthuso
- ymgynghori â rhanddeiliaid i gasglu adborth
- diwygio cynlluniau marchnata yn unol ag adborth
- cytuno ar y cynllun marchnata terfynol gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
- nodi'r rhanddeiliaid yn y broses weithredu a sicrhau eu hymrwymiad
- gweithredu cynlluniau marchnata, llywio a dylanwadu ar y broses weithredu i gyflawni'r amcanion y cytunwyd arnynt
- diwygio'r cynllun marchnata i gyd-fynd â strategaeth farchnata ac anghenion cyffredinol y sefydliad
- rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid am ddiwygiadau i'r cynllun marchnata a'r effaith ar eu gweithgareddau
- nodi arferion da o ran marchnata a meysydd i'w gwella wrth weithredu cynlluniau marchnata
- cyfathrebu arferion da o ran marchnata a'r meysydd i'w gwella i randdeiliaid
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol presennol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â datblygu cynlluniau marchnata a'u gweithredu
- yr hyn sydd wedi'i gynnwys mewn archwiliadau marchnata a sut i ddefnyddio'r wybodaeth hon
- sut i gadarnhau ac egluro amcanion marchnata gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
- sut mae amcanion marchnata yn cysylltu â strategaeth farchnata
- pwysigrwydd gweithio o fewn cyllideb a sut i gadarnhau hyn gyda deiliaid cyllidebau sefydliadol
- sylfaen cwsmeriaid y sefydliad ar hyn o bryd, a'r un a dargedir, a'u hanghenion a'u disgwyliadau
- yr ystod o ddulliau marchnata a sut i ddewis y rhai mwyaf priodol ar gyfer y farchnad a dargedir a'r amcanion y cytunwyd arnynt
- y mathau o risg i'r cynllun marchnata a sut allai'r rhain gael eu lliniaru
- sut i bennu'r camau gweithredu a'r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni amcanion marchnata y cytunwyd arnynt
- pwysigrwydd nodi adnoddau i gefnogi'r gwaith o weithredu cynlluniau marchnata a chytuno arnynt
- sut i nodi rhanddeiliaid a'r adnoddau dynol, ffisegol ac ariannol sydd eu hangen i weithredu'r cynllun marchnata
- y ffynonellau arbenigedd mewnol ac allanol sy'n gallu rhoi cyngor ac arweiniad
- y meysydd y mae angen eu cynnwys mewn cynllun marchnata a sut i fformatio hyn yn unol â gofynion a chanllawiau sefydliadol
- sut i ddatblygu trefniadau monitro i olrhain cynnydd yn erbyn cynlluniau gweithredu marchnata
- y ffyrdd o gasglu gwybodaeth sy'n gallu bod o gymorth i werthuso sut y gweithredir cynlluniau marchnata
- strwythur a phrosesau busnes eich sefydliad mewn cysylltiad â chynllunio a gweithredu marchnata
- sut i ddylanwadu ar sut y gweithredir y cynllun marchnata gyda rhanddeiliaid
- y ffynonellau gwybodaeth ar gyfer datblygu arferion da ym maes marchnata a sut i rannu hyn â chydweithwyr
- y dulliau monitro gweithrediad y cynllun marchnata a'r amgylchiadau pan mae angen addasiadau
- sut i wneud addasiadau i'r cynllun marchnata yn ystod y broses weithredu a phwy y gellir ymgynghori â nhw
- sut i nodi a gwella'r gwaith o ddatblygu a gweithredu cynlluniau marchnata yn eich sefydliad