Rheoli hunaniaeth brand ac enw da corfforaethol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli hunaniaeth brand ac enw da corfforaethol. Mae'n cynnwys hyrwyddo ymwybyddiaeth o frand a gwneud yn siŵr bod yr holl staff yn deall pwysigrwydd ymddwyn mewn ffyrdd sy'n cyd-fynd â nodweddion a gwerthoedd brand. Rydych yn cymryd camau i reoli adborth am frand ac yn gwneud yn siŵr bod cynlluniau parhad busnes yn adlewyrchu'r angen i reoli'r brand a diogelu enw da'r sefydliad. Rydych hefyd yn casglu gwybodaeth am ffactorau sy'n effeithio ar ganfyddiadau cwsmeriaid o frand, yn addasu delwedd brand yn unol ag adborth, ac yn rheoli adborth negyddol gan gwsmeriaid. Byddwch yn datblygu cynlluniau i hyrwyddo'r brand yn unol â strategaeth farchnata'r sefydliad, gan ddiogelu enw da corfforaethol, Rydych yn gwneud hyn drwy wneud yn siŵr bod canllawiau brand yn cael eu dilyn a monitro'r llwyddiant yn erbyn meini prawf y cytunwyd arnynt. Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr marchnata proffesiynol sy'n rheoli hunaniaeth brand ac enw da corfforaethol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r brand drwy gyfathrebu nodweddion a gwerthoedd y brand yn fewnol ac yn allanol
- cadarnhau dealltwriaeth gweithwyr o nodweddion a gwerthoedd y brand
- gwneud yn siŵr bod gweithwyr yn ymwybodol o bwysigrwydd ymddwyn mewn ffyrdd sy'n cyd-fynd â nodweddion a gwerthoedd y brand
- asesu'r risgiau i'r brand a'r enw da corfforaethol a sut caiff y rhain eu lliniaru
- gwneud yn siŵr bod cynlluniau parhad busnes yn ystyried yr angen i reoli'r brand a diogelu enw da'r sefydliad
- casglu gwybodaeth ddilys a dibynadwy am ganfyddiadau o'r brand presennol neu'r un arfaethedig
- cymryd camau i reoli adborth ar y brand
- casglu gwybodaeth am ffactorau sy'n debygol o effeithio ar ganfyddiadau cwsmeriaid o'r brand arfaethedig
- asesu dilysrwydd a dibynadwyedd y wybodaeth a gesglir
- addasu delwedd y brand yn seiliedig ar adborth gan gwsmeriaid a rhanddeiliaid
- cyfathrebu delwedd y brand i gwsmeriaid
- monitro'r gwaith o hyrwyddo delwedd y brand a nodi cryfderau a gwendidau'r ddelwedd
- addasu gweithgareddau hyrwyddo yn unol â chryfderau a gwendidau delwedd y brand
- rheoli adborth negyddol gan gwsmeriaid sy'n gysylltiedig â'r brand
- pennu'r camau sy'n dangos nodweddion y brand i gwsmeriaid
- cyflwyno nodweddion brand i randdeiliaid
- datblygu cynllun i hyrwyddo'r brand yn unol â strategaeth farchnata'r sefydliad
- cynnal y safle a ddymunir ar gyfer y brand er mwyn sicrhau'r elw mwyaf posibl ar fuddsoddiad
- diogelu'r brand, gan sicrhau bod canllawiau brand yn cael eu dilyn
- monitro delwedd a llwyddiant y brand yn erbyn meini prawf y cytunwyd arnynt
- defnyddio canlyniadau monitro brand i lywio datblygiad y brand yn y dyfodol
- dilyn gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol cyfredol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â hunaniaeth brand ac enw da corfforaethol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- yr ystod o ddulliau sydd ar gael i hyrwyddo nodweddion brand yn ogystal â'u manteision a'u hanfanteision
- sut i sicrhau bod yr holl staff yn deall pam mae angen i'w hymddygiad gyd-fynd â nodweddion a gwerthoedd brand
- sut i asesu'r risgiau i'r brand a'r enw da corfforaethol
- y ffyrdd o liniaru risgiau i'r brand a'r enw da corfforaethol a'r amgylchiadau lle dylid defnyddio'r rhain
- y gwahanol ffynonellau sy'n cynnig gwybodaeth ddilys a dibynadwy am ganfyddiadau o'r brand
- sut i olrhain canfyddiadau o'r brand
- ffynonellau gwybodaeth am ganfyddiadau cwsmeriaid
- sut i asesu pa mor ddilys a dibynadwy yw gwybodaeth am ganfyddiadau o'r brand
- y gwahaniaethau rhwng gofynion cwsmeriaid, eu disgwyliadau, eu boddhad a'u teyrngarwch
- y dulliau hyrwyddo nodweddion brand a'u manteision a'u hanfanteision
- yr egwyddorion a'r dulliau brandio a ddefnyddir i hyrwyddo a chynnal enw da corfforaethol
- rôl hunaniaeth brandio wrth farchnata cynhyrchion a gwasanaethau sefydliadol
- pwysigrwydd cynnal y safle a ddymunir ar gyfer y brand er mwyn sicrhau'r elw mwyaf posibl ar fuddsoddiad (ROI)
- yr hyn sy'n cael ei gynnwys mewn canllawiau'r brand a'i rôl wrth ddiogelu'r brand
- sut i ddatblygu meini prawf i fonitro a gwerthuso llwyddiant y brand a'r enw da corfforaethol
- y dulliau y gellir eu defnyddio i fonitro llwyddiant brand yn erbyn meini prawf y cytunwyd arnynt
- y ffyrdd y gall canlyniadau monitro brand lywio camau gweithredu ar gyfer datblygu brand yn y dyfodol
- y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol presennol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â hunaniaeth brand ac enw da corfforaethol