Datblygu strategaeth brand
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu strategaeth brand. Mae'n cynnwys cytuno ar y rhesymeg a'r farchnad a dargedir ar gyfer y brand. Rydych yn nodi brandiau posibl sy'n cystadlu â'i gilydd ac yn dehongli ymchwil i sefydlu ystyr brand, ei werth a'i addewid. Rydych yn cadarnhau'r nodweddion yr ydych am i'r brand eu cyfathrebu, ac yn cydweithio â chydweithwyr i ddewis enw neu ddyluniad ar gyfer y brand yn unol â'i nodau, ei amcanion a'i ddiben. Mae'r safon hefyd yn cynnwys cofrestru enw a dyluniad y brand a'i ddiogelu yn unol â deddfwriaeth pan fo angen, a dilyn polisïau a gweithdrefnau sefydliadol drwyddi draw. Mae'r safon ar gyfer gweithwyr marchnata proffesiynol sy'n datblygu strategaeth brand.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cytuno ar y rhesymeg dros ddatblygu brand gyda rhanddeiliaid
- crynhoi'r rhesymeg dros sefydlu'r brand
- nodi'r marchnadoedd posibl i'w targedu ar gyfer y brand
- adolygu brandiau presennol yn y farchnad i nodi'r rhai a allai fod yn cystadlu yn eich erbyn
- dehongli ymchwil i sefydlu ystyr y brand, ei werthoedd a'i addewid
- gwneud argymhellion i randdeiliaid yn seiliedig ar ymchwil
- cadarnhau nodau, amcanion a diben terfynol y brand gyda rhanddeiliaid
- cytuno ar y gynulleidfa a'r farchnad a dargedir ar gyfer y brand
- amlinellu'r prif nodweddion yr ydych am i'r brand eu cyfathrebu
- nodi manteision y cynhyrchion a'r gwasanaethau sydd i'w cysylltu â'r brand
- cydweithio â chydweithwyr i ddewis enw a dyluniad ar gyfer y brand sy'n cyfathrebu'r nodweddion y cytunwyd arnynt
- cadarnhau bod enw a dyluniad y brand yn cyd-fynd â'r farchnad a dargedir ac yn cyd-fynd â nodau, amcanion a phwrpas y brand
- gwneud yn siŵr nad yw'r enw a'r dyluniad yn amharu ar frandiau presennol
- dangos bod modd cofrestru a diogelu'r enw a'r dyluniad yn gyfreithiol os oes angen
- cyfrannu at ddatblygu a chyhoeddi canllawiau brand
- cofrestru a diogelu enw a dyluniad y brand, os oes angen
- dilyn gofynion rheoliadol a moesegol cyfredol, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol wrth ddatblygu brand
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- yr egwyddorion a'r dulliau ar gyfer datblygu strategaeth brand
- sut i gytuno ar y rhesymeg dros sefydlu brand gyda rhanddeiliaid a'i grynhoi
- y materion i'w hystyried wrth benderfynu a ddylid brandio cynhyrchion a gwasanaethau a sut i wneud penderfyniadau ynghylch datblygu'r syniadau
- sut i sefydlu marchnad a dargedir ar gyfer brand gan ddefnyddio ymchwil am ddefnyddwyr a rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn
- rôl hunaniaeth brand mewn cynhyrchion a gwasanaethau marchnata ac effaith bosibl brandio llwyddiannus ac aflwyddiannus
- sut mae brandiau eraill sy'n bodoli eisoes yn effeithio ar frandiau newydd a sut i'w hystyried wrth ddatblygu strategaeth brand
- pwysigrwydd y nodweddion sy'n ffurfio brand a sut i sicrhau eu bod yn cael eu hintegreiddio â gofynion sefydliadol
- y ffyrdd y gall nodweddion brand sicrhau manteision i'r defnyddiwr
- y materion i'w hystyried wrth ddewis enw brand a'i ddyluniad a sut i'w rheoli
- diben cofrestru enw a dyluniad brand a'i ddiogelu, a sut i wneud hyn
- y goblygiadau posibl i'ch sefydliad a'ch cleient o amharu ar frandiau sy'n bodoli eisoes
- yr hyn sy'n cael ei gynnwys mewn canllawiau brand a sut i'w ddatblygu gyda chydweithwyr ac arbenigwyr allanol
- y gofynion rheoliadol a moesegol presennol, y codau ymarfer a'r polisïau sefydliadol wrth ddatblygu brand