Creu neu esblygu strategaeth farchnata ar gyfer sefydliad
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chreu neu esblygu strategaeth farchnata yn unol ag amcanion a chynllun busnes sefydliad. Rydych yn adolygu dulliau marchnata presennol y sefydliad gan ystyried gofynion cyfreithiol, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol. Rydych yn ystyried dylanwadau a thueddiadau allanol a mewnol ac yn cytuno ar amserlenni ar gyfer datblygu strategaethau marchnata gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau. Rydych yn creu neu'n datblygu strategaeth farchnata ac yn datblygu'r meini prawf ar gyfer gwerthuso'r strategaeth. Byddwch hefyd yn asesu risgiau ac yn nodi camau lliniaru i reoli'r rhain. Mae'r safon yn cynnwys cael cytundeb y rhai sy'n gwneud penderfyniadau i weithredu eich strategaeth. Mae'r safon ar gyfer gweithwyr marchnata proffesiynol sy'n creu neu'n esblygu strategaethau marchnata.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi dulliau marchnata presennol y sefydliad
- asesu'r strategaeth farchnata gyfredol, os yw ar gael
- adolygu'r strategaeth farchnata bresennol yn erbyn anghenion sefydliadol
- cytuno ar yr amserlenni ar gyfer datblygu'r strategaeth farchnata newydd gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
- llunio amcanion marchnata strategol sydd wedi'u halinio â strategaeth gyffredinol a chynllun busnes y sefydliad
- nodi'r dylanwadau a'r cyfyngiadau allanol a mewnol sy'n effeithio ar ddatblygu strategaeth farchnata
- dadansoddi dylanwadau a thueddiadau allanol a mewnol i ddatblygu'r strategaeth farchnata
- creu neu esblygu'r strategaeth farchnata o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt
- asesu'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r strategaeth farchnata
- amlinellu sut bydd y risgiau'n cael eu lliniaru
- nodi'r meini prawf y bydd y strategaeth yn cael ei gwerthuso yn eu herbyn
- gofyn am gyngor ac arweiniad gan ffynonellau arbenigedd mewnol ac allanol
- asesu effaith y strategaeth farchnata ar swyddogaethau sefydliadol eraill
- ymgynghori â rhanddeiliaid i gasglu adborth ar y strategaeth farchnata gan ddefnyddio'r meini prawf gwerthuso penodedig
- cael cytundeb y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar y strategaeth
- gwneud addasiadau i'r strategaeth ar ôl cael adborth, yn unol ag anghenion sefydliadol
- dilyn gofynion cyfreithiol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol wrth greu neu ei esblygu strategaeth farchnata
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd ymchwilio i ddulliau marchnata presennol y sefydliad a sut i ddatblygu hyn er mwyn datblygu eu strategaeth
- y sefyllfaoedd pan fydd angen creu strategaeth farchnata newydd a sut i gyfathrebu hyn i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
- sut i ddatblygu strategaeth farchnata sy'n seiliedig ar ddulliau gweithredu presennol sefydliad
- sut i ddatblygu strategaeth farchnata newydd a'r gwahanol ddulliau a fformatau a allai fod ganddi
- sut i sefydlu'r cysylltiadau rhwng strategaeth farchnata arfaethedig a strategaeth a chynllun busnes cyffredinol y sefydliad
- sut i asesu effaith debygol y strategaeth farchnata ar swyddogaethau sefydliadol eraill
- y gofynion cyfreithiol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol cyfredol
- sut i nodi ac ystyried y dylanwadau a'r cyfyngiadau allanol a mewnol a allai effeithio ar ddatblygiad y strategaeth farchnata
- y mathau o risgiau (marchnad, y rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn, rhanddeiliaid a busnes) sy'n gysylltiedig â strategaethau marchnata a sut gellir eu lliniaru
- ffynonellau cyngor ac arbenigedd mewnol ac allanol a sut i gael gafael arnynt
- sut i ddatblygu meini prawf gwerthuso i helpu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i fabwysiadu ymagwedd strwythuredig at asesu eich strategaeth farchnata arfaethedig
- y ffyrdd o ymgynghori â rhanddeiliaid i gasglu eu hadborth am eich strategaeth farchnata arfaethedig
- sut i gael cefnogaeth a chytundeb ar gyfer strategaeth farchnata gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau
- sut i wneud addasiadau i'r strategaeth a'r amgylchiadau pan fydd angen hyn
- y gofynion cyfreithiol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n berthnasol wrth greu ac esblygu strategaethau marchnata