Asesu cyfleoedd yn y farchnad a datblygu achos busnes
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag asesu cyfleoedd yn y farchnad a datblygu achos busnes. Mae'n cynnwys nodi'r ffyrdd y mae marchnadoedd yn gweithredu a'r anghenion ar gyfer cynhyrchion neu wasanaethau eich sefydliad. Byddwch yn asesu ffactorau diwylliannol ac ymddygiadol sy'n effeithio ar farchnadoedd ac yn gwneud asesiad realistig o gyfleoedd a bygythiadau i'r sefydliad wrth fynd i mewn i farchnadoedd neu ehangu ynddynt. Mae'r safon hefyd yn cynnwys datblygu achos busnes a chynllun marchnata ar gyfer marchnad benodol. Rydych yn ymgynghori â ffynonellau arbenigedd ac yn rhagweld yr elw posibl ar fuddsoddiad (ROI). Rydych yn asesu cyfleoedd ac yn argymell strategaeth ar gyfer datblygu'r farchnad i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau. Mae'r safon ar gyfer gweithwyr marchnata proffesiynol sy'n asesu cyfleoedd yn y farchnad ac yn datblygu achos busnes.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi sut mae marchnadoedd yn gweithredu, gan gynnwys unrhyw rwystrau o ran masnachu, mynediad neu ehangu
- asesu amgylcheddau a rhagolygon cyfleoedd dethol yn y farchnad
- asesu anghenion y farchnad am gynnyrch neu wasanaethau
- nodi cyfleoedd cysylltiedig ar gyfer eich sefydliad sy'n ymwneud ag anghenion y farchnad
- dadansoddi sut mae darpar gwsmeriaid yn canfod ac yn defnyddio'r mathau o gynhyrchion neu wasanaethau a gynigir gan eich sefydliad
- asesu potensial prynu grwpiau o gwsmeriaid mewn marchnadoedd
- asesu effaith bosibl ffactorau diwylliannol neu ymddygiadol ar gwsmeriaid
- nodi'r rhai a allai fod yn cystadlu yn eich erbyn mewn marchnadoedd
- asesu cryfderau a gwendidau strategaethau marchnata a thactegau y rhai allai fod yn cystadlu yn eich erbyn
- diffinio cryfderau a gwendidau busnes presennol eich sefydliad
- nodi cyfleoedd a bygythiadau i'ch sefydliad ar sail ei gryfderau a'i wendidau mewn marchnadoedd presennol
- diffinio a chytuno ar yr amcanion marchnata a datblygu achos busnes a chynllun marchnata ar gyfer marchnad benodol
- nodi'r adnoddau ffisegol, dynol ac ariannol sydd eu hangen i gyflawni potensial y farchnad
- ymgynghori â ffynonellau arbenigedd mewnol ac allanol
- paratoi rhagolwg o elw ar fuddsoddiad (ROI)
- nodi'r risgiau i'r sefydliad o ddatblygu'r farchnad ddethol
- argymell strategaeth ar gyfer datblygu'r farchnad, gan gynnwys opsiynau posibl
- datgan risgiau, costau a manteision opsiynau posibl
- nodi'r grwpiau cwsmeriaid a dargedir, yn seiliedig ar eich asesiad o'u potensial prynu
- cyflwyno'r achos busnes a'r cynigion marchnata i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
- cytuno ar gynigion marchnata a chamau gweithredu gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol sy'n ymwneud â chynhyrchion a gwasanaethau eich sefydliad yn y farchnad
- y tueddiadau a'r datblygiadau yn y sector ar hyn o bryd, a'r rhai sy'n dod i'r amlwg, y mae eich sefydliad yn gweithredu ynddynt
- y rhwystrau posibl i fasnachu, mynediad neu ehangu i farchnadoedd a sut mae'r rhain yn cael eu goresgyn
- y ffactorau i'w hystyried wrth asesu'r sefyllfa a rhagolygon marchnadoedd
- sut i asesu anghenion y gwahanol farchnadoedd ar gyfer y cynhyrchion a'r gwasanaethau y mae eich sefydliad yn eu darparu er mwyn nodi cyfleoedd
- pwysigrwydd deall sut mae cwsmeriaid yn canfod ac yn defnyddio'r cynhyrchion a'r gwasanaethau y mae eich sefydliad yn eu darparu
- sut gall ffactorau diwylliannol ac ymddygiadol ddylanwadu ar weithredoedd darpar gwsmeriaid a'r effaith y gallai hyn ei chael
- sut i nodi'r rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn a chymharu eu dulliau marchnata â'ch sefydliadau eich hun
- sut i gynnal dadansoddiad PESTLE i archwilio sut y gall ffactorau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, technolegol, cyfreithiol ac amgylcheddol ddylanwadu ar y farchnad ddethol
- sut i gwblhau dadansoddiad SWOT i nodi ac asesu cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau i'ch sefydliad
- sut i ddatblygu achos busnes a chynllun marchnata yn unol â gofynion eich sefydliad
- y gwahanol fathau o adnoddau sydd eu hangen i gyflwyno cynlluniau marchnata
- y ffynonellau arbenigedd mewnol ac allanol sydd ar gael i helpu i ddatblygu cyfleoedd yn y farchnad
- y pynciau i'w cynnwys mewn achos busnes a chynllun marchnata
- y gwahanol ffyrdd o ymuno â marchnadoedd, neu eu datblygu, a'u goblygiadau i'r sefydliad
- y risgiau sy'n gysylltiedig ag ymuno â marchnadoedd, neu ddatblygu rhai newydd, a ffyrdd o liniaru'r risgiau hyn
- sut i ddatblygu opsiynau posibl ar gyfer strategaethau marchnata a'r ffyrdd o asesu'r ateb gorau
- pwysigrwydd nodi grwpiau penodol o gwsmeriaid a dargedir yn seiliedig ar asesiad o'u potensial prynu
- sut i gyflwyno achos busnes i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a chytuno ar gamau gweithredu