Datblygu sefydliad sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu sefydliad sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf. Mae'n cynnwys nodi'r ffyrdd y mae eich sefydliad yn gweithio gyda chwsmeriaid a datblygu gweledigaeth fel ei fod yn canolbwyntio mwy ar gwsmeriaid. Rydych yn gwneud yn siŵr bod eich syniadau yn cyd-fynd â gwerthoedd, brand a delwedd eich sefydliad ac yn cytuno ar y dull gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau. Mae'r safon yn cynnwys nodi a chyfathrebu sgiliau ac ymddygiadau disgwyliedig eich sefydliad i gydweithwyr a gosod esiampl o hun eich hun. Rydych hefyd yn dylanwadu ar bolisïau, gweithdrefnau a systemau er mwyn mynd ati'n barhaus i wella dulliau sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf. Mae'r safon ar gyfer gweithwyr marchnata proffesiynol sy'n datblygu sefydliad sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi sut mae eich sefydliad yn gweithio ar hyn o bryd gyda chwsmeriaid presennol a chwsmeriaid a dargedir
- datblygu gweledigaeth ar gyfer datblygu sefydliad sy'n canolbwyntio ar y cwsmer
- gwneud yn siŵr bod y weledigaeth yn cyd-fynd â gwerthoedd, brand a delwedd eich sefydliad
- nodi'r sgiliau a'r ymddygiadau a ddisgwylir gan staff i greu sefydliad sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf.
- cytuno ar y weledigaeth ar gyfer sefydliad sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
- cyfathrebu'r weledigaeth i gydweithwyr a chwsmeriaid
- cyfathrebu'r sgiliau a'r ymddygiadau a ddisgwylir gan eich sefydliad i gydweithwyr
- dangos i gydweithwyr yr ymddygiadau sy'n gysylltiedig â chwsmeriaid a ddisgwylir gan eich sefydliad
- cynorthwyo cydweithwyr i weithredu sgiliau ac ymddygiadau sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf
- herio ymddygiad cydweithwyr sy'n mynd yn groes i'r hyn y mae eich sefydliad yn ei ddisgwyl ganddynt
- dylanwadu ar bolisïau, gweithdrefnau a systemau'r sefydliad i wneud yn siŵr eu bod yn rhoi'r cwsmer yn gyntaf
- gwerthuso nodau eich sefydliad i wneud yn siŵr bod dulliau sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf
- monitro ac adolygu nodau, polisïau, systemau a gweithdrefnau yn erbyn y weledigaeth
- nodi gwelliannau i werthoedd, nodau, polisïau, systemau a gweithdrefnau
- gweithredu newidiadau i wella dulliau sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf yn barhaus
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y cysyniad o ddiwylliant sefydliadol a sut mae hyn yn dylanwadu ar y ffordd y mae sefydliad yn gweithredu ac yn cyflwyno ei hun i gwsmeriaid
- strategaeth eich sefydliad ar gyfer cadw cwsmeriaid presennol a denu rhai newydd
- sut i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer sefydliad sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf
- gwerthoedd, brand a delwedd eich sefydliad a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar gwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid
- y technegau y gellir eu defnyddio i broffilio cwsmeriaid presennol
- y ffyrdd o nodi cwsmeriaid posibl i'w targedu a deall eu hanghenion a'u disgwyliadau
- y dulliau y gellir eu defnyddio i gyfathrebu gweledigaeth a gwerthoedd eich sefydliad i gydweithwyr a chwsmeriaid
- pwysigrwydd cynorthwyo'r gwaith o ddatblygu a chynnal y sgiliau a'r ymddygiadau a ddisgwylir gan gydweithwyr
- y dulliau y gellir eu defnyddio i ddylanwadu ar nodau, polisïau, systemau a gweithdrefnau i gyd-fynd â gweledigaeth eich sefydliad sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf
- sut i nodi ymddygiadau fydd yn ategu gwerthoedd eich sefydliad
- y ffyrdd o ddylanwadu ar gydweithwyr i newid eu hymddygiad pan maent yn mynd yn groes i ddisgwyliadau eich sefydliad
- y nodau, y polisïau, y systemau a'r gweithdrefnau sy'n helpu i ddatblygu sefydliad sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf
- pwysigrwydd monitro ac adolygu i ba raddau mae eich sefydliad yn rhoi'r cwsmer yn gyntaf
- y ffyrdd o nodi gwelliannau a'u gweithredu
- y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal