Cynllunio, casglu a gwerthuso adborth gan randdeiliaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio, casglu a gwerthuso adborth gan randdeiliaid. Rydych yn cytuno ar ofynion gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac yn nodi'r rhanddeiliaid sy'n rhoi'r adborth. Rydych yn defnyddio prosesau ffurfiol ac anffurfiol i gael adborth meintiol ac ansoddol. Mae'r safon hefyd yn cynnwys cynllunio i gael adborth a gweithredu eich cynllun i fodloni dyddiadau targed y cytunwyd arnynt. Rydych yn asesu pa mor gyfredol, dibynadwy a dilys yw'r wybodaeth yn yr adborth a ddarperir. Rydych yn defnyddio'r adborth i nodi tueddiadau a phatrymau sy'n cyd-fynd â'r gofynion y cytunwyd arnynt, asesu unrhyw oblygiadau ehangach i'ch canfyddiadau ac argymell camau gweithredu priodol. Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr marchnata proffesiynol sy'n cynllunio, yn casglu ac yn gwerthuso adborth rhanddeiliaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cytuno ar y rhesymau dros gael adborth gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
- nodi'r rhanddeiliaid i gael adborth ganddynt
- nodi'r adborth meintiol ac ansoddol sy'n ofynnol
- dewis prosesau ffurfiol ac anffurfiol i gael yr adborth gofynnol
- cynllunio i gasglu adborth gan randdeiliaid gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
- gweithredu eich cynllun a chasglu adborth erbyn y dyddiad targed y cytunwyd arno
- cynnal cyfrinachedd a diogelwch wrth gasglu adborth
- asesu pa mor gyfredol, dibynadwy a dilys yw'r adborth
- nodi tueddiadau a phatrymau sy'n berthnasol i'r diben y cytunwyd arno
- gwerthuso'r adborth i asesu unrhyw oblygiadau ehangach i'ch sefydliad
- rhannu'r adborth â swyddogaethau a rhanddeiliaid busnes eraill, lle bo hynny'n briodol
- diffinio camau gweithredu sy'n deillio o'r adborth
- argymell camau gweithredu i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau er mwyn ymateb i'r adborth
- dilyn polisïau a gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol wrth gael adborth
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y rhesymau sydd gan eich sefydliad dros gael adborth gan randdeiliaid a sut caiff ei ddefnyddio
- yr amrywiaeth o randdeiliaid y gellir casglu adborth ganddynt a sut i ymgysylltu â nhw fel grwpiau ac yn unigol
- y gwahanol fathau o adborth y gellir eu casglu gan randdeiliaid mewnol ac allanol
- pwysigrwydd cael adborth mewn ffyrdd cyfrinachol a diogel gan ddilyn gweithdrefnau eich sefydliad
- y prosesau sefydliadol ffurfiol ac anffurfiol o gael adborth
- pwysigrwydd cynllunio eich dulliau ar gyfer cael adborth a'r effaith y mae hyn yn ei chael
- y technegau dadansoddi y gellir eu defnyddio i nodi patrymau a thueddiadau mewn adborth, a'r dechnoleg sy'n gallu bod o gymorth i'w ddadansoddi
- y ffactorau i'w hystyried wrth asesu pa mo gyfredol, dibynadwy a dilys yw adborth a pham mae hyn yn bwysig
- sut i nodi buddiannau'r rhai sy'n rhoi adborth a phenderfynu ar wrthdaro mewn buddiannau a rhagfarn bosibl
- goblygiadau gwrthdaro mewn buddiannau a rhagfarn ar ddibynadwyedd a dilysrwydd adborth
- sut i werthuso goblygiadau adborth i'r sefydliad
- sut i argymell camau gweithredu ar gyfer eich sefydliad mewn ymateb i adborth
- y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal