Datblygu systemau gwybodaeth marchnata a'u cynnal
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu systemau gwybodaeth marchnata a'u cynnal. Mae'n cynnwys diffinio cymwysiadau a chydrannau data ar gyfer y systemau. Rydych yn ymgynghori â defnyddwyr ynglŷn â gofynion y systemau i ddatblygu achos busnes. Rydych yn cael cytundeb gan randdeiliaid a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac yn cael eu cefnogaeth i ddatblygu'r systemau gwybodaeth. Mae'r safon yn ymwneud â gwirio ansawdd, dilysrwydd a dibynadwyedd gwybodaeth. Rydych yn cynnal y systemau, gan wneud yn siŵr eu bod yn cael eu hintegreiddio o fewn systemau gwybodaeth sefydliadol ehangach a bod unrhyw broblemau'n cael eu datrys. Mae'r safon ar gyfer gweithwyr marchnata proffesiynol sy'n datblygu ac yn cynnal systemau gwybodaeth marchnata.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi'r gofynion ar gyfer y systemau gwybodaeth yn unol â strategaethau a chynlluniau marchnata eich sefydliad
- diffinio'r cymwysiadau a'r cydrannau data priodol sy'n ofynnol o fewn y systemau gwybodaeth
- ymgynghori â defnyddwyr i sefydlu gofynion y system o ran ei swyddogaethau
- datblygu achos busnes ar gyfer y systemau gwybodaeth
- cael cytundeb ar gyfer y systemau gwybodaeth arfaethedig gan randdeiliaid a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
- nodi rhanddeiliaid i gynorthwyo datblygiad y systemau gwybodaeth
- pennu swyddogaethau'r systemau gwybodaeth
- cynllunio datblygiad y systemau gwybodaeth
- gwneud yn siŵr bod y systemau gwybodaeth yn addas i'r diben
- integreiddio'r systemau gwybodaeth â systemau gwybodaeth sefydliadol eraill
- ymgynghori ag arbenigwyr systemau yn ystod y cam datblygu, lle bo angen
- gwirio ansawdd, dilysrwydd a dibynadwyedd gwybodaeth a gedwir mewn systemau
- gwneud yn siŵr bod y wybodaeth a gedwir yn y systemau gwybodaeth yn gyfredol ac yn gywir
- monitro'r defnydd o'r systemau gwybodaeth gan ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
- nodi problemau gyda'r systemau gwybodaeth a'u datrys
- gofyn am adborth gan ddefnyddwyr y systemau gwybodaeth
- gwerthuso effeithiolrwydd y systemau gwybodaeth, i wneud argymhellion ar gyfer gwelliannau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- strategaethau a chynlluniau marchnata eich sefydliad a sut y gallai systemau gwybodaeth marchnata gael eu defnyddio
- sut i bennu gofynion sefydliadol y systemau gwybodaeth
- y gwahanol fathau o systemau gwybodaeth marchnata sydd ar gael a sut i'w paru â gofynion sefydliadol a'r adnoddau sydd ar gael
- y cydrannau data a allai gael eu cynnwys mewn systemau gwybodaeth marchnata
- sut i ymgynghori â defnyddwyr, rhanddeiliaid a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau, a'r rolau sydd ganddynt wrth ddatblygu systemau gwybodaeth marchnata
- pwysigrwydd datblygu achos busnes a'r cydrannau y dylid eu cynnwys
- sut i gael cytundeb ar gyfer gweithredu system wybodaeth a pham mae angen cael cymorth rhanddeiliaid neu noddwr
- sut i bennu swyddogaeth y systemau gwybodaeth i fodloni gofynion eich sefydliad o fewn amserlenni a chyllideb
- pwysigrwydd cynllunio datblygiad y systemau gwybodaeth a'r cydweithwyr i'w cynnwys er mwyn gwneud yn siŵr bod y cynllun yn benodol, yn fesuradwy, yn gyraeddadwy, yn realistig ac yn cadw at amserlen (SMART)
- sut i sicrhau integreiddio llawn â systemau gwybodaeth sefydliadol eraill, y problemau y gellir eu hwynebu a sut i'w datrys
- y mathau o arbenigwyr systemau mewnol ac allanol sydd ar gael a sut i ymgynghori â hwy
- sut i wirio ansawdd, dilysrwydd a dibynadwyedd gwybodaeth cyn ei hychwanegu at y systemau gwybodaeth
- pwysigrwydd cywirdeb gwybodaeth a'r effaith y gallai gwybodaeth anghywir ei chael ar eich sefydliad
- goblygiadau cadw gwybodaeth sydd wedi dyddio i'ch sefydliad a'ch cwsmeriaid
- sut i wneud yn siŵr bod data cyfrinachol yn cael ei gadw'n ddiogel
- y technegau y gellir eu defnyddio i fonitro sut y defnyddir y system
- sut i ofyn am adborth gan ddefnyddwyr a gwerthuso ei effeithiolrwydd yn erbyn gofynion y sefydliad
- y ffyrdd y gallwch nodi ac argymell gwelliannau i'r system wybodaeth
- y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol sy'n gysylltiedig â chasglu, storio a defnyddio gwybodaeth