Datblygu, gweithredu a gwerthuso strategaeth i gael dealltwriaeth o gwsmeriaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu, gweithredu a gwerthuso strategaeth i gael dealltwriaeth o gwsmeriaid. Rydych yn nodi'r wybodaeth i'w blaenoriaethu yn unol â'r strategaeth farchnata, gan asesu'r risgiau, adnoddau, costau a buddion sy'n gysylltiedig â chael gafael ar wybodaeth. Rydych yn sefydlu sut y bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio a'i dadansoddi i gael dealltwriaeth o gwsmeriaid y sefydliad. Rydych yn cytuno ar gynllun, sy'n cynnwys amserlenni a chyllideb, i gasglu'r wybodaeth ofynnol. Mae'r safon hefyd yn ymwneud â gwirio ansawdd, dilysrwydd a dibynadwyedd gwybodaeth a nodi gwybodaeth fydd yn llywio dulliau marchnata. Rydych yn gwneud yn siŵr bod y wybodaeth ar gael i'r sefydliad yn unol â gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol. Mae hefyd yn cynnwys monitro a gwerthuso'r strategaeth i gael dealltwriaeth o gwsmeriaid yn erbyn cyfres o feini prawf y cytunwyd arnynt a gwneud argymhellion yn seiliedig ar y canlyniadau. Mae'r safon ar gyfer gweithwyr marchnata proffesiynol sy'n ymwneud â datblygu, gweithredu a gwerthuso strategaeth i gael dealltwriaeth o gwsmeriaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Datblygu strategaeth i gael dealltwriaeth o gwsmeriaid
1. nodi gofynion y sefydliad o ran gwybodaeth am gwsmeriaid
2. diffinio sut mae gwybodaeth am gwsmeriaid yn cael ei defnyddio yn eich sefydliad
3. nodi'r wybodaeth i'w blaenoriaethu am gwsmeriaid i ddiwallu anghenion strategaeth farchnata'r sefydliad a thargedau cysylltiedig o ran perfformiad
4. asesu'r wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd a nodi ffynonellau pellach
5. sefydlu sut caiff y wybodaeth ei dadansoddi a'i defnyddio i nodi dealltwriaeth
6. asesu'r risgiau, yr adnoddau, y costau a'r buddion sy'n gysylltiedig â chael gafael ar wybodaeth am gwsmeriaid
7. gofyn am gyngor ac arweiniad ychwanegol gan ffynonellau arbenigol cydnabyddedig
8. ymgynghori â rhanddeiliaid ynglŷn â'r strategaeth i gael dealltwriaeth o gwsmeriaid a chael eu hymrwymiad
9. cytuno ar y strategaeth i gael dealltwriaeth o gwsmeriaid a'r meini prawf llwyddiant gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
Gweithredu strategaeth i gael dealltwriaeth o gwsmeriaid
10. cadarnhau'r wybodaeth sydd ei hangen am gwsmeriaid, yn unol â'r strategaeth i gael dealltwriaeth o gwsmeriaid
11. cytuno ar gynllun i gasglu gwybodaeth am gwsmeriaid a'r diwydiant gan gynnwys amserlenni a chyllidebau
12. casglu gwybodaeth am gwsmeriaid yn unol â'r cynllun y cytunwyd arno
13. gwirio ansawdd, dilysrwydd a dibynadwyedd gwybodaeth am gwsmeriaid
14. dadansoddi a strwythuro gwybodaeth am gwsmeriaid mewn fformat priodol
15. nodi dealltwriaeth mewn gwybodaeth am gwsmeriaid i lywio dulliau marchnata
16. datblygu gweithdrefnau ar gyfer storio, cyfrinachedd, diogelwch, defnyddio a diweddaru gwybodaeth am gwsmeriaid, yn unol â gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol
17. darparu'r gweithdrefnau y cytunwyd arnynt i gydweithwyr a rhanddeiliaid
18. monitro pa wybodaeth am gwsmeriaid y mae cydweithwyr a rhanddeiliaid yn ei chyrchu a'i defnyddio
Gwerthuso strategaeth i gael dealltwriaeth o gwsmeriaid
19. sefydlu'r meini prawf sydd eu hangen ar gyfer gwerthuso'r strategaeth
20. diffinio pryd bydd y strategaeth yn cael ei gwerthuso ac o dan ba amgylchiadau y byddai adolygiad heb ei drefnu yn cael ei gynnal
21. monitro cydymffurfiaeth barhaus â gofynion cyfreithiol, codau ymarfer a gweithdrefnau sefydliadol
22. casglu data dilys a chynhwysfawr, gan gynnwys adborth gan gwsmeriaid a rhanddeiliaid eraill
23. gwerthuso'r strategaeth yn erbyn y meini prawf llwyddiant y cytunwyd arnynt
24. gwneud argymhellion i addasu'r strategaeth neu ei chynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Datblygu strategaeth i gael dealltwriaeth o gwsmeriaid
1. strategaeth farchnata'r sefydliad a thargedau cysylltiedig o ran perfformiad
2. sylfaen cwsmeriaid y sefydliad mewn gwirionedd a'r un a dargedir
3. ffynonellau posibl o wybodaeth am gwsmeriaid a sut i gael gafael arnynt
4. y ffactorau i'w hystyried wrth nodi blaenoriaethau mewn gwybodaeth am gwsmeriaid fydd yn bodloni anghenion y sefydliad
5. sut i nodi risgiau posibl o ran gwybodaeth am gwsmeriaid a'i hasesu
6. y ffactorau i'w hasesu wrth bennu gofynion gwybodaeth am gwsmeriaid
7. yr elfennau i'w hystyried wrth ddatblygu strategaeth i gael dealltwriaeth o gwsmeriaid
8. y ffynonellau arbenigedd mewnol ac allanol sy'n gallu rhoi cyngor ac arweiniad
9. diben ymgynghori â rhanddeiliaid a sut i sicrhau eu hymrwymiad
Gweithredu strategaeth i gael dealltwriaeth o gwsmeriaid
10. ffyrdd o gadarnhau gofynion gwybodaeth am gwsmeriaid a sut gall dulliau amrywio yn ôl y sefydliad a sylfaen cwsmeriaid
11. y systemau casglu data ac adrodd a ddefnyddir i gasglu gwybodaeth am gwsmeriaid
12. y wybodaeth am y diwydiant y gellir ei chasglu a sut i'w defnyddio
13. sut i wirio ansawdd, dilysrwydd a dibynadwyedd gwybodaeth am gwsmeriaid
14. sut i nodi dealltwriaeth o wybodaeth am gwsmeriaid fydd yn llywio dulliau marchnata
15. sut i ddatblygu gweithdrefnau i storio, defnyddio a diweddaru gwybodaeth am gwsmeriaid sy'n bodloni gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol
16. dulliau sicrhau diogelwch data cyfrinachol
Gwerthuso strategaeth i gael dealltwriaeth o gwsmeriaid
17. sut i ddewis a defnyddio technegau priodol ar gyfer casglu a dadansoddi data
18. sut i werthuso gwybodaeth feintiol ac ansoddol yn erbyn y meini prawf llwyddiant y cytunwyd arnynt
19. o dan ba amgylchiadau y byddai angen adolygiad heb ei drefnu
20. sut i grynhoi data a'i gyflwyno i wahanol gynulleidfaoedd
21. sut i wneud argymhellion i addasu strategaeth neu ei chynnal, a phryd y gallai fod angen gwneud hynny
22. y gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol sy'n ymwneud â chasglu, storio a defnyddio gwybodaeth am gwsmeriaid