Dehongli canfyddiadau ymchwil marchnata a'u cyflwyno
URN: INSMAR003
Sectorau Busnes (Suites): Marchnata
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
05 Chwef 2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli canfyddiadau ymchwil marchnata a'u cyflwyno drwy nodi patrymau yn y data. Rydych yn datrys neu'n amlygu gwallau, anghysondebau, bylchau ac anomaleddau yn y data, gan ddod i gasgliadau yn seiliedig ar y dystiolaeth. Rydych hefyd yn cadw cofnodion ac yn gwneud argymhellion rhesymegol yn y fformat a nodir yn y cynllun ymchwil, gan ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol. Mae'r safon ar gyfer gweithwyr marchnata proffesiynol sy'n dehongli ac yn cyflwyno canfyddiadau ymchwil marchnata.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau'r gofynion ar gyfer dehongli data a'i gyflwyno gyda'r dylunydd/dylunwyr ymchwil
- dehongli'r data o ymchwil marchnata gan ddefnyddio'r dulliau a nodir yn y cynllun ymchwil
- cadarnhau dibynadwyedd a dilysrwydd y canfyddiadau
- nodi materion, tueddiadau, themâu, cysylltiadau a rhyng-ddibyniaethau o'r dadansoddiad o'r data ymchwil marchnata
- datrys gwallau, anghysondebau, bylchau ac anomaleddau yn y data ymchwil marchnata
- cyfeirio gwallau na allwch eu datrys at y dylunydd ymchwil i'w cywiro
- nodi materion allweddol a'u blaenoriaethu
- cyfiawnhau lefel yr hyder, y risgiau a'r tybiaethau y seilir y dehongliad arnynt
- gofyn am arweiniad neu eglurhad i gynorthwyo dealltwriaeth o'r data, lle bo angen
- cyfiawnhau casgliadau yn seiliedig ar y dystiolaeth
- gwneud argymhellion rhesymegol yn seiliedig ar y casgliadau
- cyflwyno'r canfyddiadau, y casgliadau a'r argymhellion yn fformat adrodd penodedig eich sefydliad
- addasu adroddiadau i ddiwallu anghenion gwahanol gynulleidfaoedd
- cadw cofnodion data a llwybrau archwilio cywir
- cynnal gweithgareddau ymchwil yn unol â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol, codau ymddygiad proffesiynol a moesegol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gael gafael ar y cynllun ymchwil a'i ddefnyddio yn unol â pholisïau a gofynion sefydliadol
- sut i egluro'r gofynion dehongli ac adrodd gyda'r dylunydd/dylunwyr ymchwil
- dulliau gwirio ansawdd y data i baratoi ar gyfer dehongli
- y materion a allai godi wrth ddehongli a sut i ymateb yn unol â chanllawiau ymchwil sefydliadol
- y ffyrdd y gall ansawdd y data effeithio ar ganfyddiadau ymchwil marchnata
- y dulliau ar gyfer sicrhau dibynadwyedd a dilysrwydd y data, gan gynnwys cymharu â data hanesyddol a normau
- sut i nodi tueddiadau, cysylltiadau a rhyng-ddibyniaethau yn y data o ymchwil marchnata
- ystod y technegau y gellir eu defnyddio i ddatrys gwallau, anghysondebau, bylchau ac anomaleddau mewn data
- ystyr arwyddocâd ystadegol a sut i gymhwyso hyn wrth nodi lefelau hyder
- pwysigrwydd nodi risgiau a'r tybiaethau a wnaed wrth ddehongli data
- sut i gyflwyno adroddiadau gan ddilyn arddull, tôn a fformat eich sefydliad
- cryfderau a gwendidau gwahanol fformatau adrodd a chyflwyno a sut i ddewis y fformat mwyaf priodol ar gyfer y gynulleidfa
- y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
CFAMAR4
Galwedigaethau Perthnasol
Marchnata a Gwerthiant, Swyddog Marchnata, Rheolwr Marchnata a Gwerthu, Cydymaith Marchnata, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Marchnata
Cod SOC
3554
Geiriau Allweddol
Marchnata, gwerthu, rheoli marchnata, ymchwil i'r farchnad, hysbysebu, cysylltiadau cyhoeddus