Casglu data o ymchwil marchnata a'i ddadansoddi
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chasglu data o ymchwil marchnata a'i ddadansoddi. Rydych yn defnyddio dulliau casglu a dadansoddi sy'n cyd-fynd ag amcanion yr ymchwil, gan weithredu o fewn gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol. Rydych yn cyfathrebu â'r rhai sy'n cymryd rhan ac yn gwrando'n astud i egluro pwyntiau a gwneud yn siŵr eich bod yn deall. Rydych yn dadansoddi’r wybodaeth feintiol ac ansoddol yr ydych wedi'i chasglu o ymchwil marchnata, gan drin data yn unol â chanllawiau sefydliadol. Rydych yn dogfennu canlyniadau a chanfyddiadau eich dadansoddiad mewn fformat sy'n bodloni anghenion y gynulleidfa ymchwil. Gallech weithio ochr yn ochr ag asiantaeth i gynnal yr ymchwil yn ôl pob tebyg. Mae'r safon ar gyfer gweithwyr marchnata proffesiynol sy'n casglu ac yn dadansoddi data o ymchwil marchnata.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gadarnhau diben, amcanion, paramedrau'r ymchwil a thargedau gyda'r dylunydd/dylunwyr ymchwil
- y gwahanol ddulliau sy'n gysylltiedig â chasglu data ymchwil
- cryfderau a gwendidau gwahanol ddulliau ymchwil a phryd i'w defnyddio
- sut gall diben yr ymchwil ddylanwadu ar i ba raddau y cymerir rhan yn yr ymchwil
- sut i ymateb i gwestiynau gan y rhai sy'n cymryd rhan o fewn cyfyngiadau'r briff ymchwil
- sut i gyfathrebu â'r rhai sy'n cymryd rhan gan ddilyn y cynllun ymchwil
- sut i gofnodi data yn gywir ac yn gyflawn yng nghyd-destun gwahanol brosiectau ymchwil
- y technegau ar gyfer paratoi data i'w ddadansoddi
- egwyddorion, cryfderau a chyfyngiadau'r dulliau dadansoddi
- sut i ddewis a defnyddio dulliau dadansoddi sy'n briodol i amcanion yr ymchwil
- sut i gymhwyso dulliau dadansoddi i edrych yn fanwl ar ddata am y wybodaeth ofynnol
- sut i greu a chynnal cofnodion cywir o ddadansoddi yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- y cynulleidfaoedd ymchwil gwahanol a sut i ddogfennu canlyniadau a chanfyddiadau'r dadansoddiad i ddiwallu eu hanghenion
- y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal