Datblygu a chynnal perthynas â darparwyr gwasanaethau, grwpiau cymunedol ac asiantaethau yn y gymuned ehangach i gynorthwyo cynhwysiant cymdeithasol
URN: INSHOU55
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
29 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu a chynnal perthynas â darparwyr gwasanaethau perthnasol, grwpiau cymunedol ac asiantaethau yn y gymuned ehangach i gynorthwyo cynhwysiant cymdeithasol. Mae hefyd yn golygu hyrwyddo gwasanaeth eich sefydliad i'r gymuned ehangach a chynyddu eu dealltwriaeth ohono.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi darparwyr gwasanaethau, grwpiau cymunedol ac asiantaethau sy'n berthnasol i'r gwasanaeth a ddarperir gan eich sefydliad
- datblygu a chynnal perthynas â darparwyr gwasanaethau perthnasol yn y gymuned ehangach
- cyfrannu mewn grwpiau, asiantaethau a gwasanaethau cymunedol a gweithio gyda nhw yn y gymuned ehangach
- cynorthwyo cynhwysiant cymdeithasol ar gyfer eich cleientiaid drwy ymgysylltu'n ehangach â'r gymuned
- gweithio gyda darparwyr gwasanaethau, grwpiau cymunedol ac asiantaethau i ychwanegu gwerth at wasanaeth eich sefydliad ac ehangu'r cyfleoedd i gleientiaid
- cynorthwyo cleientiaid i ddefnyddio darparwyr gwasanaethau, grwpiau cymunedol ac asiantaethau i integreiddio neu ail-integreiddio eu hunain yn y gymuned ehangach
- hyrwyddo gwasanaeth eich sefydliad i ddarparwyr gwasanaethau, grwpiau cymunedol ac asiantaethau i gynyddu eu mynediad ato
- cynorthwyo'r gymuned ehangach i ddeall gwasanaethau eich sefydliad fel ffynhonnell cymorth arbenigol
- cynorthwyo'r gymuned ehangach i gynyddu ei hadnoddau
- cynorthwyo cydweithio rhwng eich sefydliad a darparwyr gwasanaethau, grwpiau cymunedol ac asiantaethau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ffyrdd perthnasol o nodi darparwyr gwasanaethau, grwpiau cymunedol ac asiantaethau sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan eich sefydliad
- y dulliau perthnasol o ddatblygu a chynnal perthynas â darparwyr gwasanaethau perthnasol y tu allan i'ch sefydliad
- y dulliau perthnasol o gyfathrebu â darparwyr gwasanaethau yn y gymuned ehangach
- y gwahanol fathau o gydweithio â darparwyr gwasanaethau, grwpiau cymunedol ac asiantaethauy dulliau perthnasol ar gyfer sicrhau cynhwysiant cymdeithasol eich cleientiaid a thrwy ymgysylltu'n ehangach â'r gymuned
- egwyddorion perthnasol cynhwysiant cymdeithasol a'u heffaith ar ddarparu eich gwasanaeth sefydliadol
- y gwahanol ffyrdd o weithio gyda darparwyr gwasanaethau, grwpiau cymunedol ac asiantaethau i ychwanegu gwerth at wasanaeth eich sefydliad i gleientiaid
- y gwahanol ffyrdd y gall cleientiaid integreiddio neu ail-integreiddio i'r gymuned ehangach
- rôl darparwyr gwasanaethau, grwpiau cymunedol ac asiantaethau wrth gynorthwyo cleientiaid i integreiddio neu ail-integreiddio yn y gymuned ehangach
- y dulliau perthnasol o hyrwyddo gwasanaeth eich sefydliad i ddarparwyr gwasanaethau, grwpiau cymunedol ac asiantaethau
- y gwahanol ffyrdd o annog darparwyr gwasanaethau, grwpiau cymunedol ac asiantaethau i wneud mwy o ddefnydd o wasanaeth eich sefydliad
- y cymorth arbenigol perthnasol y mae eich sefydliad yn ei roi i'r gymuned ehangach
- sut i gyflwyno'r cyfraniad y mae'r gwasanaethau a ddarperir gan eich sefydliad yn ei wneud i'r gymuned ehangach
- sut mae eich sefydliad yn cyfrannu at gynyddu adnoddau yn y gymuned ehangach
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
06 Ion 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
ASTH303
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio
Cod SOC
3234
Geiriau Allweddol
eiddo; ymchwilio; delio; torri cytundeb; llety; tenantiaeth; trwydded; lesddeiliad; cytundebau; cwsmeriaid; dogfennaeth; diogelwch; cymorth; deddfwriaeth; cydraddoldeb; amrywiaeth; diogel; trefnu; cymuned ehangach; grwpiau cymunedol;