Nodi newid i wella gwasanaethau tai a’i weithredu
URN: INSHOU54
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
29 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â nodi pryd mae angen newid i wella gwasanaethau tai neu ymateb i ffactorau megis polisi neu'r amgylchedd masnachol. Mae'n bwysig ymgynghori â rhanddeiliaid, megis cwsmeriaid, defnyddwyr gwasanaethau neu unrhyw un arall y gallai'r newid effeithio arnynt. Mae hefyd yn cynnwys nodi ffactorau sy'n gyrru newid, rhoi newid ar waith a monitro ei effeithiau. Bydd rhan o hyn yn cynnwys adolygu polisïau a gweithdrefnau i sicrhau eu bod yn berthnasol o hyd a bod modd eu cyflawni.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael y wybodaeth ddiweddaraf am dai ac eiddo masnachol a nodi'r hyn sy'n gyrru newid mewnol ac allanol ac sy'n effeithio ar wasanaethau eich sefydliad
- ymgynghori â rhanddeiliaid perthnasol gan gynnwys cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaethau tai, i nodi effaith bosibl y newid arfaethedig
- defnyddio ystod o wahanol sgiliau ymgynghori a thrafod sy'n addas i'r gynulleidfa darged ar gyfer yr ymgynghoriad
- adolygu canfyddiadau eich ymgynghoriad i nodi materion sy'n effeithio ar roi newid ar waith ac adolygu eich cynlluniau sefydliadol
- cynllunio'r broses o roi newid ar waith, gan ystyried gofynion cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaethau tai
- cadarnhau bod cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaethau tai yn cael y wybodaeth ddiweddaraf drwy gydol cyfnod y broses
- cael y cymorth angenrheidiol ar gyfer eich cynlluniau gan gydweithwyr a rhanddeiliaid perthnasol
- ailedrych ar bolisïau, gweithdrefnau ac amcanion sefydliadol perthnasol sy'n ymwneud â'r newidiadau arfaethedig
- rhoi strategaethau, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol diwygiedig ar waith fel y bo'n briodol
- rhoi ffyrdd newydd o weithio ar waith sy'n bodloni gofynion y newidiadau y cytunwyd arnynt
- cael adborth gan randdeiliaid gan gynnwys cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaethau ac adolygu effaith newid arnynt
- nodi'r gofynion hyfforddi fel deilliant newid a chadarnhau yr eir i'r afael â'r rhain
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ffynonellau gwybodaeth perthnasol ar gyfer cael y wybodaeth ddiweddaraf am y tai a'r amgylchedd masnachol
- sut i adnabod ac asesu'r ffactorau sy'n gyrru newid mewnol ac allanol ac sy'n effeithio ar wasanaethau eich sefydliady gwahaniaeth rhwng gyrwyr newid mewnol ac allanol a'r effaith ar wasanaethau eich sefydliad
- sut i asesu'r effaith bosibl y gallai newid ei chael ar gynllunio a strategaeth ar gyfer tai yn y dyfodol yn ogystal ag amcanion eich sefydliad
- rhanddeiliaid eich sefydliad a dulliau ymgynghori perthnasol
- y dulliau a'r modelau ar gyfer cynllunio newid a'u rhoi ar waith yn eich sefydliad
- pwysigrwydd cyfathrebu wrth roi newid ar waith a dulliau cyfathrebu addas
- sut i drafod gyda rhanddeiliaid er mwyn sicrhau newid
- sut i nodi, dadansoddi a blaenoriaethu materion y nodwyd eu bod yn effeithio ar roi newid ar waith
- pam y dylai'r strategaeth ar gyfer tai gyd-fynd â'r amgylchedd y mae'r sefydliad yn gweithredu ynddo
- y dulliau adolygu strategaethau, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol a sut i nodi lle mae angen diwygio
- sut i nodi ble byddai ffyrdd newydd o weithio yn helpu i roi newid ar waith
- sut i adolygu effaith newid, pwy i'w gynnwys a'r amserlenni ar gyfer ymgymryd â hyn
- sut i nodi gofynion hyfforddi fel deilliant newid a dulliau ar gyfer mynd i'r afael â hyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
06 Ion 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
ASTH422
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio
Cod SOC
3234
Geiriau Allweddol
eiddo; ymchwilio; delio; torri cytundeb; llety; tenantiaeth; trwydded; lesddeiliad; cytundebau; cwsmeriaid; dogfennaeth; diogelwch; cymorth; deddfwriaeth; cydraddoldeb; amrywiaeth; diogel; trefnu; yr amgylchedd; gwasanaethau; masnachol; cwsmeriaid;