Recriwtio gwirfoddolwyr a’u rheoli

URN: INSHOU53
Sectorau Busnes (Cyfresi): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu strategaethau, polisïau a gweithdrefnau i recriwtio gwirfoddolwyr a'u rheoli.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi cyfleoedd i gynnwys gwirfoddolwyr mewn ffordd sy'n ategu nodau eich sefydliad
  2. gwneud cynigion i gydweithwyr ynglŷn â diben a manteision cynnwys gwirfoddolwyr yn eich sefydliad
  3. dilyn gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer recriwtio gwirfoddolwyr a'u rheoli 
  4. cytuno â chydweithwyr a chwsmeriaid perthnasol ynglŷn â sut bydd y sefydliad yn recriwtio gwirfoddolwyr a'u rheoli
  5. datblygu a gweithredu systemau a gweithdrefnau i recriwtio gwirfoddolwyr a'u rheoli yn unol â gofynion statudol a sefydliadol perthnasol
  6. nodi unigolion a grwpiau blaenoriaeth o gyfranogwyr ar gyfer gwirfoddoli
  7. nodi cyfleoedd i ddatblygu partneriaethau gyda sefydliadau gwirfoddol
  8. nodi gofynion datblygu gwirfoddolwyr presennol a darpar wirfoddolwyr
  9. cadarnhau bod cymorth a hyfforddiant ar gael i wirfoddolwyr a darpar wirfoddolwyr
  10. datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith gyda gwirfoddolwyr yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  11. adolygu'r trefniadau gwirfoddoli gyda chydweithwyr perthnasol
  12. gweithredu a rheoli gwelliannau i'r ffordd y mae gwirfoddolwyr yn cael eu recriwtio a'u rheoli

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y rhesymau dros gynnwys gwirfoddolwyr yn eich sefydliad
  2. sut i gyfleu amcanion cynnwys gwirfoddolwyr yn eich sefydliad gyda chwsmeriaid a chydweithwyr
  3. y gofynion statudol a sefydliadol perthnasol i amddiffyn y gwirfoddolwyr, cwsmeriaid a'ch sefydliad
  4. y ffordd orau o recriwtio gwirfoddolwyr, eu cynnwys a'u rheoli
  5. yr ystod o brosesau recriwtio ar gyfer gwirfoddolwyr
  6. sut i ddatblygu'r strategaethau, y polisïau a gweithdrefnau perthnasol ar gyfer recriwtio gwirfoddolwyr a'u rheoli
  7. sut i sefydlu trefniadau newydd gyda sefydliadau partner yn unol â'ch gweithdrefnau sefydliadol
  8. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r ddeddfwriaeth berthnasol sy'n gysylltiedig â chydraddoldeb ac amrywiaeth
  9. sut i nodi gofynion datblygu gwirfoddolwyr
  10. yr ystod o gyfleoedd datblygu a gynigir i wirfoddolwyr
  11. yr opsiynau a'r adnoddau perthnasol sydd ar gael ar gyfer cynorthwyo gwirfoddolwyr
  12. y dulliau perthnasol o adolygu'r trefniadau gwirfoddoli
  13. sut i weithredu a rheoli gwelliannau i ddulliau recriwtio gwirfoddolwyr a'u rheoli

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

ASTH421

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio

Cod SOC

3234

Geiriau Allweddol

eiddo; ymchwilio; delio; torri cytundeb; llety; tenantiaeth; trwydded; lesddeiliad; cytundebau; cwsmeriaid; dogfennaeth; diogelwch; cymorth; deddfwriaeth; cydraddoldeb; amrywiaeth; diogel; trefnu; datblygu; strategaethau; polisïau; gweithdrefnau;