Datblygu ac adolygu trefniadau cydweithio i ddarparu gwasanaethau i fodloni gofynion defnyddwyr

URN: INSHOU52
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 29 Maw 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu ac adolygu trefniadau cydweithio i ddarparu gwasanaethau i fodloni gofynion defnyddwyr.  Mae'n ymwneud â nodi sut y gallwch chi a'ch sefydliad weithio gydag adrannau mewnol ac asiantaethau a sefydliadau allanol i wneud hyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael gafael ar wybodaeth gywir a chyfredol am weithwyr, sefydliadau ac asiantaethau sy'n gallu eich helpu chi a'ch sefydliad i ddarparu gwasanaethau i fodloni gofynion defnyddwyr
  2. nodi cydweithwyr perthnasol o adrannau mewnol, ac asiantaethau a sefydliadau allanol y gallech weithio gyda nhw i ddarparu gwasanaethau i fodloni gofynion defnyddwyr
  3. nodi bylchau mewn profiad ac arbenigedd yn eich sefydliad eich hun a thrafod sut gallai cydweithwyr o adrannau mewnol ac asiantaethau a sefydliadau allanol eu llenwi
  4. nodi meysydd lle gallai profiad ac arbenigedd cydweithwyr o adrannau mewnol, yn ogystal ag asiantaethau a sefydliadau allanol, wella eich profiad chi a chydweithwyr perthnasol yn eich sefydliad
  5. nodi cydweithwyr perthnasol o adrannau mewnol, ac asiantaethau a sefydliadau allanol y gallech weithio gyda nhw i ddarparu gwasanaethau i fodloni gofynion defnyddwyr
  6. gwerthuso a chytuno â'r adrannau, asiantaethau neu sefydliadau mewnol perthnasol yr angen a'r diben ar gyfer datblygu trefniadau cydweithio
  7. cyfrannu at nodi a chytuno ar sut byddwch yn gweithio gyda sefydliadau mewnol, adrannau, asiantaethau a sefydliadau perthnasol, a rolau a chyfrifoldebau'r rhain o fewn y cytundeb cydweithio, gan gynnwys pwy ddylai fod â chyfrifoldeb arweiniol
  8. sicrhau bod unrhyw drefniadau cydweithio yn cydymffurfio â'r polisïau ac arferion cyfreithiol, rheoleiddio a sefydliadol perthnasol
  9. cytuno ar strategaethau i gynnal cyfrinachedd a diogeledd gwybodaeth gan sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol a gofynion sefydliadol, polisïau a gweithdrefnau'r adrannau, asiantaethau a sefydliadau mewnol perthnasol
  10. cyfrannu at yr adolygiad o drefniadau cydweithio yn unol â'ch rôl a'ch cyfrifoldebau
  11. gweithio o fewn cytundebau cydweithio i wneud addasiadau fydd yn gwella'r gwasanaethau i fodloni gofynion defnyddwyr
  12. cadarnhau bod unrhyw waith yr ydych yn cytuno i'w wneud yn cydymffurfio â'r polisïau a gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
  13.  cytuno ar newidiadau gydag adrannau, asiantaethau a sefydliadau mewnol perthnasol, lle mae adolygiadau'n dangos y byddai newidiadau mewn arferion gwaith yn gwella'r gwasanaethau i fodloni gofynion defnyddwyr

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol o ran cydraddoldeb, amrywiaeth, gwahaniaethu a hawliau wrth gyfrannu at asesu a chamau i ddelio â'r risg o berygl, niwed a cham-driniaeth
  2. sut mae'n rhaid i'ch sefydliad gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol
  3. sut mae gwahanol werthoedd a safbwyntiau adrannau mewnol perthnasol, asiantaethau allanol a sefydliadau yn effeithio ar drefniadau cydweithio
  4. effaith eich strwythur a'ch diwylliant sefydliadol ar bolisi ac arferion gweithio rhyngasiantaethol
  5. y codau ymarfer ac ymddygiad perthnasol, a safonau a chanllawiau sy'n ymwneud â'ch rôl a'ch cyfrifoldebau a rôl adrannau mewnol perthnasol, ac asiantaethau a sefydliadau allanol wrth ddatblygu trefniadau cydweithio
  6. mentrau llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig sy'n effeithio ar eich arferion sefydliadol wrth weithio ar y cyd ag adrannau mewnol perthnasol, ac asiantaethau a sefydliadau allanol
  7. sut i gael mynediad at weithdrefnau a systemau sefydliadol a gweithleoedd ar gyfer cydweithio, eu gwerthuso a dylanwadu arnynt
  8. polisïau, arferion a gweithdrefnau perthnasol sefydliadau a gweithwyr eraill sy'n effeithio ar drefniadau cydweithio
  9. sut a ble i gael mynediad at lenyddiaeth, gwybodaeth a chymorth i lywio eich arferion cydweithio
  10. cyflyrau corfforol, emosiynol ac iechyd yr unigolion yr ydych chi, eich cydweithwyr a sefydliadau perthnasol yn gweithio gyda nhw a sut mae'r cyflyrau hyn yn effeithio ar ymddygiad yr unigolyn
  11. defnyddio arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gyfiawnhau eich gweithredoedd a'ch penderfyniadau a chofnodi ac adrodd ar brosesau a deilliannau eich gwaith
  12. y ffyrdd o drafod trefniadau cydweithio a chytuno arnynt
  13. y dulliau perthnasol o adolygu cytundebau cydweithio i ddarparu gwasanaethau i fodloni gofynion defnyddwyr
  14. pam mae angen rhoi gwybod i unigolion yn eich sefydliad chi a sefydliadau eraill am newidiadau i drefniadau cydweithio sefydledig

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

06 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

SFHHSC433

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio

Cod SOC

3234

Geiriau Allweddol

eiddo; ymchwilio; delio; torri cytundeb; llety; tenantiaeth; trwydded; lesddeiliad; cytundebau; cwsmeriaid; dogfennaeth; diogelwch; cymorth; deddfwriaeth; cydraddoldeb; amrywiaeth; diogel; trefnu; datblygu; cynnal; perthnasoedd; cytundebau; arferion;