Datblygu cynlluniau monitro ac adolygu dulliau darparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion unigolion y mae angen gwasanaethau iechyd a gofal arnynt

URN: INSHOU50
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 29 Maw 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu, monitro ac adolygu cynlluniau darparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion unigolion y mae angen gwasanaethau iechyd a gofal arnynt.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adolygu dogfennau a gwybodaeth berthnasol i nodi anghenion unigolion, gan gynnwys gofynion arbenigol a chyfathrebu
  2. cynorthwyo unigolion, cydweithwyr a sefydliadau perthnasol i nodi anghenion yr unigolyn ynghylch y ffordd y dylid darparu'r gwasanaethau iechyd a gofal
  3. gweithio gydag unigolion, cydweithwyr a sefydliadau perthnasol i ddatblygu cynllun darparu gwasanaeth y cytunwyd arno sy'n nodi'r meysydd iechyd a gofal a ddarperir gan deulu, ffrindiau a rhwydweithiau personol yr unigolyn a'r rhai a ddarperir gennych chi, eich cydweithwyr a sefydliadau perthnasol.
  4. cadarnhau manylion y cynllun gydag unigolion, cydweithwyr a sefydliadau perthnasol, gan gofnodi a gwneud y newidiadau gofynnol i ddiwallu anghenion y cytunwyd arnynt
  5. cael y llofnodion angenrheidiol pan gytunir ar y cynllun terfynol
  6. cadarnhau bod unigolion yn cadw at y cynllun oni bai bod rhesymau clir ac sydd wedi'u cofnodi i beidio â gwneud hynny
  7. sefydlu gweithdrefnau ac arferion i alluogi unigolion, cydweithwyr a sefydliadau perthnasol sy'n darparu gwasanaethau i fonitro a rhoi adborth ar newidiadau i ofynion unigolion
  8. coladu adborth o ffynonellau perthnasol a'i werthuso
  9. cael gwybodaeth a chyngor ar oblygiadau unrhyw newidiadau i gynlluniau darparu gwasanaethau i'r unigolion
  10. cynorthwyo unigolion, cydweithwyr a sefydliadau perthnasol i nodi a chytuno ar newidiadau i'w gwneud i gynlluniau darparu gwasanaethau i fodloni gofynion newidiol yr unigolyn
  11. cofnodi ar newidiadau a newidiadau arfaethedig ac adrodd arnynt fel eu bod yn berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
  12. nodi gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer adolygu'r cynlluniau darparu gwasanaethau
  13. cadarnhau bod unigolion, cydweithwyr a sefydliadau perthnasol yn ymwybodol o'u rolau a'u cyfrifoldebau wrth adolygu cynlluniau unigol ar gyfer darparu gwasanaethau
  14. coladu gwybodaeth berthnasol a'i gwerthuso i nodi newidiadau gofynnol i'r cynlluniau darparu gwasanaethau
  15. nodi newidiadau a chytuno arnynt, a chadarnhau manylion y cynlluniau darparu gwasanaethau gydag unigolion, cydweithwyr a sefydliadau perthnasol a chael y llofnodion angenrheidiol pan gytunir ar y cynllun diwygiedig a darparu copi i'r unigolion perthnasol, yn ogystal a chydweithwyr a sefydliadau perthnasol.
  16. cynorthwyo unigolion, cydweithwyr a sefydliadau perthnasol i ddeall pryd y bydd newidiadau i'r cynllun darparu gwasanaethau yn cael eu gwneud a sut y byddant yn effeithio ar y gwasanaethau iechyd a gofal y maent yn eu derbyn

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac iechyd a diogelwch
  2. sut mae'n rhaid i'ch sefydliad gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol ym maes diogelu data
  3. sut i herio gwybodaeth, dogfennau, systemau, strwythurau, gweithdrefnau ac arferion sy'n gwahaniaethu, yn ogystal â chynorthwyo unigolion, cydweithwyr a sefydliadau perthnasol i wneud hynny.
  4. y codau ymarfer ac ymddygiad perthnasol, a'r safonau a'r arweiniad sy'n gysylltiedig â'ch rôl a'ch cyfrifoldebau, a rhai eich cydweithwyr a sefydliadau perthnasol
  5. wrth ddatblygu cynlluniau monitro ac adolygu dulliau darparu gwasanaethau
  6. cynlluniau llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig sy'n effeithio ar arferion y sefydliad i asesu gofynion gofal unigol
  7. sut i gyrchu polisïau, gweithdrefnau a systemau sefydliadol a gweithle a'u gwerthuso er mwyn datblygu, monitro ac adolygu cynlluniau darparu gwasanaethau
  8. sut i gael gafael ar wybodaeth, penderfyniadau a dyfarniadau a'u cofnodi ar gyfer cynlluniau darparu gwasanaethau
  9. yr adnoddau sydd ar gael yn eich sefydliad a'r tu allan iddo i ddatblygu cynlluniau darparu gwasanaethau sy'n hyblyg
  10. sut a ble i gael gafael ar lenyddiaeth, gwybodaeth a chymorth i lywio eich arferion wrth ddatblygu, monitro ac adolygu cynlluniau darparu gwasanaethau
  11. cyflyrau corfforol, emosiynol ac iechyd yr unigolion yr ydych chi'n datblygu, yn monitro ac yn adolygu cynlluniau darparu gwasanaethau ar eu cyfer a sut i ddefnyddio'r wybodaeth hon i wneud penderfyniadau hyddysg ar gyfer yr hyn sy'n cael ei gynnwys yn y cynlluniau darparu gwasanaethau.
  12. y ffactorau perthnasol i'w hystyried wrth werthuso a oes gan eich sefydliad yr adnoddau i ddarparu'r gwasanaethau a'r cyfleusterau
  13. y dulliau perthnasol o gynorthwyo staff i weithio gydag unigolion, cydweithwyr a sefydliadau perthnasol er mwyn rhoi cynlluniau darparu gwasanaethau ar waith a'u gwerthuso
  14. y gwahanol gamau, gweithdrefnau a gwaith papur sy'n gysylltiedig â datblygu, monitro ac adolygu cynlluniau darparu gwasanaethau
  15. y defnydd o dystiolaeth mewn cofnodion ac adroddiadau a pham mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng y rhain a nodi ffynhonnell y dystiolaeth

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

06 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

SFHHSC415

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio

Cod SOC

3234

Geiriau Allweddol

eiddo; ymchwilio; delio; torri cytundeb; llety; tenantiaeth; trwydded; lesddeiliad; cytundebau; cwsmeriaid; dogfennaeth; diogelwch; cymorth; deddfwriaeth; cydraddoldeb; amrywiaeth; diogel; trefnu; datblygu; cytuno; monitro; gwerthuso; gwasanaeth; danfon;