Cynnal asesiadau o anghenion gofal unigol a’u monitro
URN: INSHOU49
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
29 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithio gydag unigolion, cydweithwyr perthnasol a sefydliad i asesu anghenion gofal unigolion, monitro newidiadau a gwerthuso effaith newidiadau ar ofynion cymorth yr unigolion.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael gafael ar wybodaeth, cofnodion ac asesiadau perthnasol am ofynion unigolion a'u hadolygu
- nodi a chael gafael ar gymorth ychwanegol sy'n ofynnol i alluogi unigolion i chwarae rhan lawn, a chyfleu eu gofynion
- cael gafael ar wybodaeth a'i rhoi i unigolion, cydweithwyr a sefydliadau perthnasol mewn fformat ac iaith sy'n eu galluogi i asesu eu gofynion, gwneud penderfyniadau gwybodus am eu dewisiadau ar gyfer y gofal a'r cymorth y byddant yn eu derbyn, a defnyddio'r gweithdrefnau sefydliadol perthnasol i herio unrhyw agwedd ar yr asesiad o anghenion gofal
- nodi a chytuno gydag unigolion, cydweithwyr a sefydliadau perthnasol, y gwasanaethau y gallwch chi a'ch sefydliad eu darparu
- nodi'r materion y mae'n ofynnol eu cynnwys yn yr asesiad o anghenion gofal, gan gadarnhau ei fod yn sicrhau y darperir cymorth i unigolion a'i fod yn ymdrin â'u gofynion tymor byr, tymor canolig a thymor hir
- cynnal asesiadau unigol a chynhwysfawr o anghenion gofal sy'n sicrhau bod unigolion, cydweithwyr a sefydliadau perthnasol yn chwarae rhan weithredol
- defnyddio adroddiadau a chofnodi ar sail tystiolaeth i ddogfennu eich gweithredoedd a'ch penderfyniadau a sut mae deilliannau'r asesiadau yn cael eu derbyn a'u deall
- defnyddio adroddiadau a chofnodi ar sail tystiolaeth i ddogfennu sut cafodd gwrthdaro a materion eu datrys ac/neu a ydynt yn parhau i fod heb eu datrys, a'r deilliannau y cytunwyd arnynt o'r asesiad o ofynion gofal ar gyfer yr unigolyn mewn ffyrdd, ac ar lefel, sy'n ddealladwy i bawb sydd angen gweld y cofnodion a'r adroddiadau neu sydd â'r hawl i'w gweld, o fewn cytundebau cyfrinachedd ac yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
- sefydlu gweithdrefnau a systemau i alluogi unigolion, cydweithwyr a sefydliadau perthnasol i roi gwybod am newidiadau i ofynion, amgylchiadau a'r hyn sydd orau ganddlynt o ran gofal
- cadarnhau bod staff yn cael gwybodaeth berthnasol yn ysgrifenedig am asesu anghenion gofal i gynorthwyo eu gweithgareddau gwaith
- cadarnhau bod unigolion, cydweithwyr a sefydliadau perthnasol yn cael gwybodaeth am asesu anghenion gofal mewn fformat ac iaith sy'n ddealladwy iddynt
- cynorthwyo unigolion, cydweithwyr a sefydliadau perthnasol i ddeall yr asesiad o anghenion gofal ac effaith hyn ar y gwasanaethau y bydd eich sefydliad yn eu darparu
- cadarnhau bod staff, unigolion a phobl allweddol yn ymwybodol o sut i roi adborth ar unrhyw newidiadau i ofynion gofal unigolion ac yn gwybod sut i wneud hynny
- cynorthwyo unigolion, cydweithwyr a sefydliadau perthnasol i nodi, monitro, cyfathrebu ac adrodd am unrhyw newidiadau yng ngofynion gofal yr unigolion
- gwerthuso'r effaith a chymryd camau i ddelio â gwybodaeth am newidiadau i ofynion gofal unigolion
- trafod newidiadau i'r asesiad o anghenion gofal gyda chydweithwyr a sefydliadau perthnasol, o fewn cytundebau cyfrinachedd ac yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
- adolygu a datblygu asesiad newydd o anghenion gofal i fodloni gofynion, amgylchiadau a dewisiadau newidiol unigolion, cydweithwyr a sefydliadau perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol o ran cydraddoldeb, amrywiaeth, gwahaniaethu a hawliau wrth asesu gofynion gofal unigol
- sut mae'n rhaid i'ch sefydliad gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol o ran diogelu data
- sut i herio, a chynorthwyo unigolion, cydweithwyr a sefydliadau perthnasol i herio gwybodaeth, dogfennau, systemau, strwythurau, gweithdrefnau ac arferion sy'n gwahaniaethu wrth asesu gofynion a dewisiadau unigol
- sut i ffurfio perthnasoedd sy'n hyrwyddo hawliau, dewisiadau a lles unigolion
- y codau ymarfer a'r ymddygiad perthnasol, a'r safonau a'r arweiniad sy'n gysylltiedig â'ch rôl a'ch cyfrifoldebau a rhai cydweithwyr a sefydliadau perthnasol wrth gynnal a monitro asesiadau anghenion gofal unigol
- cynlluniau llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig sy'n effeithio ar arferion y sefydliad i asesu gofynion gofal unigol
- sut i gael gafael ar wybodaeth, penderfyniadau a dyfarniadau sefydliadol ac allanol a'u cofnodi wrth asesu gofynion unigol, yn electronig ac â llaw
- yr adnoddau sydd ar gael yn eich sefydliad a'r tu allan iddo i ddarparu gwasanaethau sy'n hyblyg
- y polisïau, y gweithdrefnau, yr arweiniad a'r protocolau perthnasol gyda'r sefydliadau a'r proffesiynau eraill yr ydych chi'n gweithio gyda nhw
- sut a ble i gael gafael ar lenyddiaeth, gwybodaeth a chymorth i lywio eich arferion wrth asesu ac adolygu gofynion a dewisiadau unigol
- cyflyrau corfforol, emosiynol ac iechyd yr unigolion yr ydych chi, cydweithwyr a sefydliadau perthnasol yn gweithio gyda nhw a sut mae'r cyflyrau hyn yn effeithio ar ymddygiad yr unigolyn
- y dulliau cynorthwyo unigolion, cydweithwyr a sefydliadau perthnasol i ddeall a chymryd cyfrifoldeb am hyrwyddo eu hiechyd a'u lles eu hunain a nodi sut mae eu gofynion gofal yn cael eu bodloni
- y defnydd o dystiolaeth mewn cofnodion ac adroddiadau a pham mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng y rhain a nodi ffynhonnell y dystiolaeth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
06 Ion 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
SFHHSC414
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio
Cod SOC
3234
Geiriau Allweddol
eiddo; ymchwilio; delio; torri cytundeb; llety; tenantiaeth; trwydded; lesddeiliad; cytundebau; cwsmeriaid; dogfennaeth; diogelwch; cymorth; deddfwriaeth; cydraddoldeb; amrywiaeth; diogel; trefnu; unigolion; pobl; gofynion; dewisiadau; monitro;