Datblygu arferion sy'n hyrwyddo dewis a lles pob unigolyn a’u hamddiffyn

URN: INSHOU48
Sectorau Busnes (Cyfresi): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu arferion sy'n hyrwyddo dewis a lles pob unigolyn a'u hamddiffyn.  Mae'n ymwneud â datblygu, cynnal a gwerthuso systemau, a chynorthwyo eraill i hyrwyddo hawliau, cyfrifoldebau, cydraddoldeb ac amrywiaeth unigolion wrth wneud dewisiadau ynghylch eu gofal a'u diogelwch.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. datblygu arferion a chynnal perthynas ag unigolion a chydweithwyr a sefydliadau perthnasol
  2. rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i gynorthwyo unigolion i wneud dewisiadau gwybodus am y gofal a'r gwasanaethau y maent yn eu derbyn
  3. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion, cydweithwyr perthnasol a sefydliadau i hyrwyddo dewis yr unigolyn am eu gofal
  4. cynorthwyo unigolion i gyfleu eu barn ar eu blaenoriaethau a'u gofynion sy'n gysylltiedig â'u gofal a'u diogelwch
  5. datblygu atebion ac arferion i fynd i'r afael â gwrthdaro a chyfyng-gyngor wrth hyrwyddo hawliau a chyfrifoldebau'r unigolyn
  6. cael cymorth perthnasol a'i ddefnyddio pan fydd gwrthdaro na allwch ei ddatrys neu gyda meysydd gwaith sydd y tu allan i gwmpas eich cyfrifoldeb
  7. hyrwyddo hawliau unigolion i roi adborth ar eu gofal a sicrhau cyngor, cymorth ac eiriolaeth annibynnol pan fydd penderfyniadau'n cael eu gwneud am eu bywydau a'u dyfodol
  8. cynorythwyo'r rhai sydd angen cymorth i arfer eu hawliau
  9. cynorthwyo unigolion i nodi dulliau rheoli risgiau, cytuno arnynt a'u defnyddio i ddiogelu eu hunain rhag perygl, niwed a cham-driniaeth
  10. cytuno gydag unigolion, cydweithwyr perthnasol a sefydliadau ar y gweithdrefnau i'w dilyn pan fydd sefyllfaoedd ac ymddygiad yn digwydd a allai arwain at beryglu a cham-drin eu hunain
  11. cadarnhau eich bod chi a'r rhai rydych chi'n gweithio gyda nhw yn gallu cael gafael ar wybodaeth am y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer amddiffyn unigolion a diogelu data, a'i deall
  12. cymryd camau, yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol perthnasol lle rydych yn sylwi ar arwyddion a symptomau perygl, niwed a cham-driniaeth neu lle mae hyn wedi'i ddatgelu gan gydweithwyr neu sefydliadau perthnasol
  13. sicrhau nad yw eich gweithredoedd gyda chwsmeriaid, cydweithwyr a sefydliadau perthnasol yn cael effaith andwyol ar sut y defnyddir tystiolaeth mewn ymchwiliadau yn y dyfodol ac mewn achosion llys
  14. cadarnhau bod cofnodion ac adroddiadau yn cydymffurfio â chytundebau cyfrinachedd ac yn cael eu hysgrifennu yn unol â gweithdrefnau sefydliadol a gofynion cyfreithiol perthnasol, ac nad ydynt yn cael effaith andwyol ar sut y defnyddir tystiolaeth mewn ymchwiliadau yn y dyfodol ac mewn achosion llys
  15. trosglwyddo adroddiadau a gwybodaeth berthnasol am achosion tybiedig o gam-drin mewn cytundebau cyfrinachedd ac yn unol â gofynion cyfreithiol, sefydliadol, rhyngasiantaethol a phartneriaeth perthnasol
  16. cael cyngor, gwybodaeth, arweiniad a chymorth arbenigol pan na allwch roi'r cymorth sydd ei angen i amddiffyn unigolion
  17. datblygu strategaethau a systemau i ddelio â'ch meddyliau a'ch teimladau a myfyrio ar arferion
  18. darparu adroddiadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ynghylch newidiadau sy'n ofynnol i systemau a strwythurau sefydliadol ar gyfer amddiffyn unigolion. Mae'r rhain yn unol â'ch rôl a'ch cyfrifoldebau, cytundebau cyfrinachedd, a'r gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac iechyd a diogelwch
  2. sut mae'n rhaid i'ch sefydliad gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol ym maes diogelu data
  3. y mathau o ddulliau a'r ffyrdd o weithio sy'n cynorthwyo cydraddoldeb ac amrywiaeth a hawliau unigolion i gyfathrebu yn y ffordd, y cyfryngau a'r iaith sydd orau ganddynt
  4. sut i gadarnhau eich bod chi a'r staff yr ydych yn gyfrifol amdanynt, yn diogelu hawliau a buddiannau unigolion
  5. y codau ymarfer ac ymddygiad perthnasol, a safonau a chanllawiau sy'n ymwneud â'ch rôl a'ch cyfrifoldebau a rôl cydweithwyr a sefydliadau perthnasol wrth ddatblygu arferion sy'n hyrwyddo dewis, lles ac amddiffyn unigolion
  6. cynlluniau llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig sy'n effeithio ar arferion y sefydliad i hyrwyddo dewis a lles unigolyn a'u hamddiffyn
  7. y polisïau, y gweithdrefnau, y canllawiau a'r protocolau perthnasol gyda'r sefydliadau a'r proffesiynau eraill yr ydych yn gweithio gyda nhw sy'n ymwneud â hyrwyddo dewis a lles unigolion a'u hamddiffyn
  8. y trefniadau er mwyn i chi ddarparu a derbyn goruchwyliaeth ac arfarniad a'u diben
  9. sut a ble i gael gafael ar lenyddiaeth, gwybodaeth a chymorth i lywio eich arferion eich hun a'ch cydweithwyr ynghylch hyrwyddo dewis a lles unigolion a'u hamddiffyn
  10. cyflyrau corfforol, emosiynol ac iechyd yr unigolion yr ydych chi, cydweithwyr a sefydliadau perthnasol yn gweithio gyda nhw a sut mae'r cyflyrau hyn yn effeithio ar ymddygiad yr unigolyn
  11. sut i fod yn fentor i gynorthwyo staff i ddatblygu arferion wrth gyfathrebu ac ymgysylltu ag unigolion, a chynnwys unigolion wrth asesu, cynllunio, gweithredu, adolygu gwasanaethau a chynlluniau iechyd a gofal, gan ystyried eu gofynion, eu barn a'r hyn sydd orau ganddynt
  12. y ffactorau sy'n achosi risgiau a'r rhai sy'n cadarnhau gofal diogel i unigolion
  13. y camau i'w cymryd pan fyddwch chi, cydweithwyr a sefydliadau perthnasol yn tybio bod perygl, niwed a cham-driniaeth, lle cafodd ei ddatgelu, a sut i gofnodi digwyddiadau a datgeliadau ac adrodd amdanynt
  14. y mathau o dystiolaeth sy'n ddilys mewn ymchwiliadau ac achosion llys,
  15. y defnydd o dystiolaeth mewn cofnodion ac adroddiadau a pham mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng y rhain a nodi ffynhonnell y dystiolaeth

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

SFHH416

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio

Cod SOC

3234

Geiriau Allweddol

eiddo; ymchwilio; delio; torri cytundeb; llety; tenantiaeth; trwydded; lesddeiliad; cytundebau; cwsmeriaid; dogfennaeth; diogelwch; cymorth; deddfwriaeth; cydraddoldeb; amrywiaeth; diogel; trefnu; datblygu; cynnal; gwerthuso; cymorth; hyrwyddo; hawliau;