Datblygu trefniadau gweithio mewn partneriaeth a’u rheoli
URN: INSHOU47
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
29 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu perthnasoedd gwaith gyda sefydliadau eraill a'u rheoli. Gallai trefniadau gweithio mewn partneriaeth fod yn rhai mewnol neu allanol, anffurfiol neu ffurfiol a gallent fod â gwahanol ddibenion.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi cyfleoedd i ddatblygu perthnasoedd partneriaeth â sefydliadau eraill
- esbonio natur eich sefydliad i ddarpar bartneriaid, gan gynnwys ei ddiben, ei ethos a'i arferion gwaith
- gwneud cynigion i gydweithwyr a darpar bartneriaid ar ddiben a manteision trefniadau gweithio mewn partneriaeth
- edrych ar unrhyw feysydd o wrthdaro posibl a gorgyffwrdd, a datblygu strategaethau, gweithdrefnau ac arferion i fynd i'r afael â nhw
- trafod a datblygu trefniadau gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill
- sefydlu systemau, gweithdrefnau a chytundebau i reoli perthnasoedd gweithio mewn partneriaeth
- egluro a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr sy'n ymwneud â threfniadau gweithio mewn partneriaeth
- adolygu trefniadau gweithio mewn partneriaeth yn ôl yr amserlenni y cytunwyd arnynt
- gweithredu a rheoli gwelliannau i drefniadau ac arferion gweithio mewn partneriaeth
- cadarnhau bod arferion gweithio mewn partneriaeth yn cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol a sefydliadol perthnasol
- cynorthwyo i reoli rolau a chyfrifoldebau'r unigolion a'r sefydliadau perthnasol sy'n ymwneud â'r trefniadau gweithio mewn partneriaeth
- rhannu ac adrodd ar wybodaeth ar draws partneriaid o fewn canllawiau y cytunwyd arnynt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- natur y sector rydych chi'n gweithio ynddo a gwahanol rolau a chyfrifoldebau sefydliadau perthnasol
- yr ystod o drefniadau gweithio mewn partneriaeth sy'n berthnasol i'ch gwaith
- y strwythurau a'r gweithdrefnau cyfathrebu yn eich sefydliad
- y cytundebau ffurfiol ac anffurfiol sydd ar waith gyda sefydliadau perthnasol
- sut i ddatblygu trefniadau gweithio gyda sefydliadau partner yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol o ran arferion gwrth-wahaniaethol, cyfrinachedd a rhannu gwybodaeth yng nghyd-destun gweithio mewn partneriaeth
- sut mae'n rhaid i'ch sefydliad gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol ym maes diogelu data
- sut i reoli gwrthdaro ac anawsterau a allai godi wrth weithio gyda sefydliadau eraill
- sut y gall gwahanol werthoedd ac arferion unigolion a sefydliadau effeithio ar drefniadau gweithio mewn partneriaeth
- terfynau eich cyfrifoldebau eich hun a goblygiadau gweithredu y tu allan i'r terfynau hyn
- y dulliau adolygu trefniadau gweithio mewn partneriaeth
- pan fydd angen cynorthwyo cydweithwyr oherwydd anawsterau, problemau neu newidiadau mewn trefniadau gweithio mewn partneriaeth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
06 Ion 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
ASTH416
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio
Cod SOC
3234
Geiriau Allweddol
eiddo; ymchwilio; delio; torri cytundeb; llety; tenantiaeth; trwydded; lesddeiliad; cytundebau; cwsmeriaid; dogfennaeth; diogelwch; cymorth; deddfwriaeth; cydraddoldeb; amrywiaeth; diogel; trefnu; sefydlu; rheoli; datblygu; perthnasoedd; sefydliadau;