Gweithio gyda landlordiaid yn y sector preifat fel bod rhagor o gartrefi rhent newydd ar gael
URN: INSHOU45
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
29 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithio gyda'r sector preifat fel bod rhagor o gartrefi rhent newydd ar gael. Mae'n ymwneud â rhoi cyngor i landlordiaid preifat ar yr opsiynau sydd ar gael iddynt ar gyfer delio â'u heiddo/eiddo gwag a'u helpu i sicrhau bod eu heiddo'n cyrraedd y safon.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- datblygu systemau a'u rheoli er mwyn gallu defnyddio eiddo gwag unwaith eto
- nodi eiddo sy'n eiddo preifat a chadarnhau eu statws fel eiddo gwag
- rhoi cyngor i landlordiaid y sector preifat ar yr opsiynau sydd ar gael iddynt ar gyfer delio â'u heiddo/eiddo gwag
- cynorthwyo landlordiaid y sector preifat a gweithio gyda nhw i sicrhau bod eu heiddo'n cyrraedd y safon sefydliadol ofynnol
- nodi eiddo sy'n bodloni gofynion gorchmynion rheoli anheddau gwag
- gwneud cais am orchmynion rheoli anheddau gwag gan yr awdurdod lleol i gymryd drosodd y gwaith o reoli eiddo a nodwyd
- datblygu a rheoli mentrau i roi mwy o opsiynau tai a dewis i gwsmeriaid
- datblygu a rheoli cynlluniau gwarantu rhent/bondiau neu gynlluniau eraill sy'n galluogi cwsmeriaid i gael cartref rhent newydd ar eu cyfer
- nodi opsiynau yn y sector preifat i ddarparu cartrefi rhent newydd i gwsmeriaid
- dilyn holl weithdrefnau a gofynion deddfwriaethol perthnasol y cwmni mewn perthynas â galluogi bod cartrefi rhent newydd ar gael
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y rhesymau sefydliadol dros gynyddu nifer y cartrefi rhent newydd sydd ar gael
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer monitro'r cartrefi rhent newydd a ddarperir ganddynt
- sut i gynorthwyo landlordiaid y sector preifat a gweithio gyda nhw i sicrhau bod eu heiddo'n cyrraedd y safon
- y gweithdrefnau a'r ddeddfwriaeth sefydliadol berthnasol mewn perthynas â gorchmynion rheoli'r sector preifat
- eich gweithdrefnau asesu risg sefydliadol
- sut i gadarnhau iechyd, diogelwch a diogeledd eich hun ac eraill
- y gosodiadau sefydliadol perthnasol a'r gweithdrefnau dyrannu
- y camau i'w cymryd mewn ymateb i broblemau a nodwyd
- cyfrifoldebau'r holl bartïon perthnasol mewn perthynas â chyflwr yr eiddo
- targedau perfformiad eich sefydliad ar gyfer rheoli eiddo gwag
- y rhesymau pam mae'n rhaid i eiddo fodloni safonau gofynnol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
06 Ion 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
ASTH413
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio
Cod SOC
3234
Geiriau Allweddol
eiddo; ymchwilio; delio; torri cytundeb; llety; tenantiaeth; trwydded; lesddeiliad; cytundebau; cwsmeriaid; dogfennaeth; diogelwch; cymorth; deddfwriaeth; cydraddoldeb; amrywiaeth; diogel; trefnu; argaeledd; ychwanegol; cartrefi;