Rheoli a chynnal ymchwiliadau i anghydfodau a thorri cytundebau
URN: INSHOU40
Sectorau Busnes (Cyfresi): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli a chynnal ymchwiliadau i anghydfodau a thorri cytundebau. Bydd unigolion hefyd yn rheoli ymchwiliadau unigol ac yn cymryd rhan mewn unrhyw achos cyfreithiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau bod gweithdrefnau a pholisïau gweithredol ar waith i leihau ac atal anghydfodau neu dorri cytundebau
- dechrau a chynnal ymchwiliad ffurfiol i dorri cytundeb yn unol â'r gofynion cyfreithiol a gweithredol perthnasol
- cyfweld â'r holl unigolion a sefydliadau perthnasol mewn perthynas ag adroddiadau neu honiadau o dorri cytundeb
- cadarnhau bod ymchwiliadau ffurfiol i anghydfodau a thorri cytundeb yn unol â'r gofynion cyfreithiol a gweithredol perthnasol
- cadw cofnodion o'ch ymchwiliadau a'ch camau gweithredu yn unol â'r gofynion cyfreithiol a gweithredol perthnasol
- rheoli'r broses o nodi, cofnodi a dadansoddi tystiolaeth o anghydfodau a thorri cytundeb a pharatoi achosion ar gyfer camau cyfreithiol
- cysylltu ag arbenigwyr cyfreithiol perthnasol ac asiantaethau eraill i benderfynu ar anghydfodau a thorri cytundebau a chymryd camau ar sail hynny
- dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cynorthwyo tystion yn ystod ymchwiliad ac wedi hynny
- cadarnhau nad yw camau gweithredu yn gwahaniaethu yn erbyn unigolion neu grwpiau
- datblygu a rheoli systemau a gweithdrefnau i fonitro anghydfodau a thorri cytundebau
- defnyddio data gwybodaeth rheoli i nodi tueddiadau ac eiddo neu ardaloedd lle ceir nifer arbennig o uchel o anghydfodau a thorri cytundebau
- nodi grwpiau sy'n agored i niwed a sut gellir eu diogelu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymchwilio i anghydfodau neu dorri cytundebau a chymryd camau ar eu sail
- hawliau a chyfrifoldebau cwsmeriaid o dan gytundebau
- y ddeddfwriaeth berthnasol, yn enwedig mewn perthynas â throseddu, anhrefn cyhoeddus, ymddygiad gwrthgymdeithasol, iechyd a diogelwch a rheoliadau tân
- y risgiau sy'n gysylltiedig ag ymchwilio i anghydfodau neu achosion posibl o dorri cytundeb
- sut i asesu a lleihau risg i chi eich hun ac i eraill
- yr opsiynau sydd ar gael wrth ddelio ag anghydfodau a thorri cytundeb
- yr arbenigwyr a'r asiantaethau cyfreithiol perthnasol y gallai fod angen i chi weithio gyda nhw
- y gweithdrefnau sefydliadol a chyfreithiol perthnasol sy'n ymwneud â'ch camau gweithredu
- eich gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cyfleu penderfyniadau
- sut mae'n rhaid i'ch sefydliad gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol ym maes diogelu data
- sut i gasglu gwybodaeth rheoli a'i dadansoddi
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
ASTH408
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio
Cod SOC
3234
Geiriau Allweddol
eiddo; ymchwilio; delio; torri cytundeb; llety; tenantiaeth; trwydded; lesddeiliad; cytundebau; cwsmeriaid; dogfennaeth; diogelwch; cymorth; deddfwriaeth; cydraddoldeb; amrywiaeth; diogel; trefnu; monitro; adolygu; rheoli; ymchwilio; anghydfodau;