Rheoli prosiectau tai a chontractwyr
URN: INSHOU39
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
29 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli prosiect tai yr ydych wedi cael cyfrifoldeb ar ei gyfer. Mae hyn yn golygu datblygu a chytuno ar gynllun ar gyfer y prosiect, monitro a rheoli gweithrediad y cynllun, a rheoli unrhyw gontractwyr sy'n cyflawni gwaith yn rhan o'r prosiect. Mae hefyd yn cynnwys sicrhau bod y prosiect yn cyflawni ei amcanion allweddol ac yn cael ei gwblhau wrth fodd noddwr/noddwyr y prosiect ac unrhyw randdeiliaid allweddol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cytuno ar yr amcanion allweddol a'r adnoddau sydd ar gael ar gyfer y prosiect tai gyda'r rhanddeiliaid perthnasol
- datblygu cynllun prosiect i gyflawni'r amcanion
- pennu rolau a chyfrifoldebau aelodau tîm y prosiect a rhoi gwybodaeth a chymorth parhaus
- rheoli risgiau posibl sy'n deillio o'r prosiect a mynd i'r afael â chynlluniau wrth gefn
- trefnu prosesau tendro ar gyfer gwaith sydd wedi'i is-gontractio yn unol â'ch gweithdrefnau sefydliadol
- dewis contractwyr, trafod a chyflwyno contractau yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
- rheoli is-gontractwyr yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
- monitro, rheoli ac adolygu cynnydd wrth weithredu cynllun y prosiect
- cymryd y camau gofynnol i ddatrys problemau wrth ddarparu prosiectau
- bodloni noddwyr y prosiect a rhanddeiliaid perthnasol o ran gofynion rheoli prosiect, gwybodaeth a data
- adolygu llwyddiant y prosiect o ran cyflawni ei amcanion a defnyddio'r canfyddiadau i lywio arferion yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer sefydlu prosiectau
- sut i nodi natur a graddfa'r gwaith sy'n ofynnol ar gyfer y prosiect tai
- sut i bennu'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer darparu prosiectau'n llwyddiannus
- sut i drefnu ac adeiladu cynllun prosiect a phennu amcanion prosiect
- sut i asesu risg a'i reoli
- y gofynion cyfreithiol a'r codau ymarfer perthnasol sy'n berthnasol i'ch gwaith
- eich gweithdrefnau sefydliadol a'r ddeddfwriaeth berthnasol ar gyfer iechyd a diogelwch.
- sut mae'n rhaid i'ch sefydliad gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol ym maes diogelu data
- y ffynonellau gwybodaeth perthnasol sydd ar gael i chi
- sut i weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr a rhanddeiliaid a nodwyd ar gyfer prosiectau tai
- sut i ddatblygu manylebau prosiectau a gwahoddiadau i dendro yn unol â'r gofynion a gyhoeddwyd gan y cyllidwyr
- gweithdrefnau eich sefydliad o ran dewis contractwyr a chynnig contractau
- polisïau, gweithdrefnau, gofynion cyfreithiol a threfniadau is-gytundebol perthnasol sy'n berthnasol i'r gwaith a gyflawnir gan gontractwyr
- rolau, cyfrifoldebau, atebolrwydd a dyletswyddau adrannau eraill yn eich sefydliad a sefydliadau allanol wrth gyflawni'r prosiect
- sut i fonitro a rheoli'r gwaith o ddarparu prosiectau
- gofynion noddwyr prosiectau a rhanddeiliaid perthnasol
- sut i werthuso a dod i gasgliadau defnyddiol ar sail deilliannau'r prosiect
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
06 Ion 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
ASTH407
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio
Cod SOC
3234
Geiriau Allweddol
eiddol ymchwilio; delio; torri cytundeb; llety; tenantiaeth; trwydded; lesddeiliad; cytundebau; cwsmeriaid; dogfennaeth; diogelwch; cymorth; deddfwriaeth; cydraddoldeb; amrywiaeth; diogel; trefnu; rheoli; prosiect; datblygu; cynllunio; monitro; gweithredu