Nodi a sicrhau cyllid ar gyfer maes eich cyfrifoldeb

URN: INSHOU38
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 29 Maw 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â nodi prosiectau a chyfleoedd i gael cyllid, yn ogystal â gwneud cais am gyllid a phrosiectau.  Gallai cyfleoedd ariannu fod ar gyfer prosiectau, cynlluniau neu raglenni a gallai'r cyllid fod ar gyfer tymor byr, tymor canolig neu dymor hir.  Mae'n ymwneud â sicrhau cyllid ar gyfer maes eich cyfrifoldeb.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi ffynonellau cyllid perthnasol ar gyfer yr ystod o waith y mae eich sefydliad yn ymgymryd ag ef, yn enwedig ar gyfer maes eich cyfrifoldeb
  2. asesu'r cyfyngiadau neu'r manteision ymarferol o ran sicrhau cyllid o ffynonellau perthnasol
  3. asesu'r goblygiadau o ran gweinyddol a rheoli cais llwyddiannus
  4. cadarnhau bod gan eich sefydliad yr adnoddau a'r gallu i gyflawni'n llwyddiannus yr amcanion y byddai'r cyllid yn eu cynorthwyo
  5. cadarnhau bod eich cynnig yn bodloni gofynion manwl y fanyleb a ddarperir gan y corff cyllido ac yn cael ei gyflwyno erbyn y dyddiad cau
  6. cynnal trafodaethau ar ôl y cynnig yn unol â'ch gofynion sefydliadol a'r cyfleoedd a'r cyfyngiadau a nodwyd gan eich asesiad cynharach
  7. rhoi gwybodaeth ychwanegol lle bo angen i alluogi trafodaethau i fwrw ymlaen
  8. gofyn am adborth er mwyn cymryd camau yn y dyfodol os oedd y trafodaethau'n aflwyddiannus
  9. cytuno ar gontractau a'u cadarnhau i sicrhau cyllid cyn dechrau'r gwaith

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i nodi ac asesu ffynonellau cyllid cyfredol a disgwyliedig ar gyfer eich sefydliad a maes eich cyfrifoldeb
  2. y materion sefydliadol, cyfreithiol a moesegol perthnasol ac o ran adnoddau a allai fod yn gysylltiedig â chymryd gwahanol fathau o waith
  3. y berthynas rhwng gwaith a allai fod o ddiddordeb i'r sefydliad a'i allu i'w gyflawni
  4. y cyfleoedd a'r risgiau mewn trefniadau ariannu
  5. sut i baratoi cynigion a cheisiadau i sicrhau cyllid
  6. pwysigrwydd gwybodaeth hanesyddol sy'n ymwneud â chynigion a sut y gellir ei defnyddio i lywio gweithgareddau ar hyn o bryd
  7. y rhesymau pam y gall sefydliadau ddewis peidio â gwneud cais am gontractau er eu bod yn gallu eu cyflawni
  8. rhwymedigaethau a chyfrifoldebau eich sefydliad o dan y gyfraith contract berthnasol
  9. y gofynion sefydliadol a deddfwriaethol perthnasol er mwyn cyflawni'r contract
  10. y ffynonellau gwybodaeth a chyngor perthnasol - technegol, cyfreithiol ac ariannol
  11. y ffyrdd o gyflwyno cynigion i fodloni'r meini prawf a'r gofynion ariannu perthnasol
  12. y wybodaeth berthnasol sy'n ofynnol ar gyfer tendrau a'i diben
  13. yr ystod o adnoddau gweithredol sydd eu hangen i gyflawni'r contract yn llwyddiannus
  14. gofynion cyllidwyr perthnasol a sut maent yn amrywio rhwng ffynonellau
  15. pam y gallai fod angen trafodaethau ar ôl gwneud cynnig a sut i'w cynnal
  16. sut i gwblhau trafodaethau contract sydd i alluogi'r contract i fynd yn ei flaen
  17. y dulliau datblygu a sefydlu perthynas waith gyda deiliaid contract

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

06 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

ASTH406

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio

Cod SOC

3234

Geiriau Allweddol

eiddo; ymchwilio; delio; torri cytundeb; llety; tenantiaeth; trwydded; lesddeiliad; cytundebau; cwsmeriaid; dogfennaeth; diogelwch; cymorth; deddfwriaeth; cydraddoldeb; amrywiaeth; diogel; trefnu; nodi; ariannu; cyfleoedd; cynnig; mentrau; rhaglenni